Tŷ Newydd is a magical place of words and friendships, the sound of the sea and the sight of blooming flowers. You can look down the garden, through the hole in the hedge and see the billowing sea, or else the next line of a poem, hanging there, waiting to be picked.
Encil Llyfrau Lliwgar
Ydych chi’n awduron LHDTC+ sy’n gweithio yn y Gymraeg neu sydd ag awydd sgwennu yn y Gymraeg am y tro cyntaf? Ymunwch â ni ar encil penwythnos hwyliog gyda awduron LHDTC+ eraill. Dyma gyfle ichi fynychu gweithdai arbenigol gyda llenorion profiadol, dod yn rhan o gymuned o awduron LHDTC+ Cymraeg, a llunio gwaith gwreiddiol a chyffrous, gan sicrhau bod profiadau LHDTC+ yn cael eu trafod yn greadigol yn y Gymraeg.
Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei ryddhau yn ystod haf 2023 ar sut i wneud cais am le ar yr encil hwn, fydd yn cael ei gynnig yn rhad ac am ddim. Am ragor o wybodaeth am y cwrs neu am gymuned Llyfrau Lliwgar, neu i ddangos diddordeb yn yr encil hwn, cysylltwch â ni.