Ymunodd Abi Fellows â’r Good Literary Agency ym mis Mawrth 2019, ac mae’n gweithio ym meysydd ffuglen a ffeithiol-greadigol i blant ac oedolion. Cyn ymuno â’r GLA, bu Abi yn gweithio fel sgowt llenyddol gyda Rosalind Ramsay Ltd am saith mlynedd. Mae ganddi brofiad helaeth o’r diwydiant ar ôl bod yn asiant llenyddol gyda Georgina Capel Associates hefyd, a bu’n gweithio fel gwerthwr llyfrau yn Blackwell’s ac ar dîm gwerthiant Faber and Faber. Mae cleientiaid Abi yn cynnwys Penny Pepper, Saima Mir, Musa Okwonga, Hafsa Zayyan a Lizzie Huxley-Jones.
www.thegoodliteraryagency.org/about/abi/
Encil y Gwanwyn: Cyngor gan Asiant Llenyddol
Oes gennych chi ddyddiad cau’n nesáu, neu falle eich bod chi’n awyddus i ddianc rhag prysurdeb bywyd bob dydd am gyfnod? Mae ein hencilion yn darparu amser a gofod i chi ysgrifennu, darllen ac ymlacio – a bydd eich prydau bwyd oll yn cael eu darparu gan ein cogydd preswyl profiadol. Wedi ei leoli mewn man heddychlon yng nghefn gwlad ar gyrion Llanystumdwy, cewch ysbrydoliaeth o’r olygfa odidog o’r ardd o Fae Ceredigion, mwynhau prydau bwyd gyda’ch cyd breswylwyr, neu eistedd ag ymlacio yn ein llyfrgell glyd.
Mae’r Ganolfan o fewn pellter cerdded i’r traeth a glan Afon Dwyfor, a cewch fwynhau milltiroedd o deithiau cerdded drwy’r coed wedi eich amgylchynu gan fywyd gwyllt a phrydferthwch natur. Mae Tafarn y Plu hefyd o fewn tafliad carreg, lle gewch bob amser groeso cynnes. Bydd pawb â’i ystafell ei hun ar ein encilion, a cewch ddewis eich ystafell wrth archebu eich lle. Bydd aelodau staff Llenyddiaeth Cymru ar gael drwy’r wythnos i gynnig cyngor ac arweiniad ar gyfleoedd i ddatblygu eich ysgrifennu.
Yn ystod yr encil hon, bydd yr asiant llenyddol Abi Fellows o’r Good Literary Agency yn bresennol am ran o’r encil i gynnig sgyrsiau neu weithdai byr i’r grŵp ar ddatblygiad proffesiynol, yn cynnwys ymarfer da o ran dod o hyd i asiant, sut i gyhoeddi, cyngor am y diwydiant a mwy. Bydd Abi hefyd ar gael am gyfarfodydd un-i-un byr gyda phob awdur i drafod eich gwaith a’ch taith fel awdur, a byddwn yn eich gwahodd i yrru darn o’ch gwaith i Abi o flaen llaw. Bydd amserlen o’r gweithgareddau opsiynol ar gael i chi o flaen llaw, fel y gallwch drefnu eich encil.
Bydd croeso i westeion gyrraedd ar ôl cinio ar y dydd Llun, a gadael ar ôl brecwast ar y dydd Gwener.
Tiwtor
