Llŷr Titus
Awdur a dramodydd, myfyriwr PhD yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor ac un o sylfaenwyr Cwmni'r Tebot, cwmni theatr cymunedol ym Mhen Llŷn.
Elan Grug Muse
Bardd, beiciwr, blogiwr. Myfyriwr ymchwil yn adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe. Cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o gerddi, Ar Ddisberod, gan Barddas yn 2017.
Iestyn Tyne
Llenor, cerddor ac artist o Ben Llŷn. Enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2016 a’r Gadair yn 2019. Ef yw un o olygyddion a sefydlwyr cylchgrawn llenyddol Y Stamp. Cyhoeddwyd ei drydydd casgliad o gerddi, pamffled dan y teitl Cywilydd, yn 2019. Mae bellach yn byw yng Nghaernarfon.
Esyllt Lewis
Wedi cwblhau cwrs sylfaen mewn Celf yng Ngholeg Celf Abertawe, graddiodd Esyllt o Brifysgol Caerdydd y llynedd wedi iddi astudio gradd mewn Cymraeg ac Athroniaeth. Mae'r cysylltiadau y gellir eu gwneud rhwng y ddau bwnc hynny o ddiddordeb mawr iddi, ac fe hoffai weld rhagor o drafodaeth am Athroniaeth yn y Gymraeg. Ar hyn o bryd mae hi’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.