Encil Yoga Sutras

Gwe 8 Medi 2023 - Sul 10 Medi 2023
Tiwtor / Richard Fowler
Ffi’r Cwrs / O £295 - £350 y pen
Genre / yoga
Iaith / Saesneg

Mae’r Yoga Sutras, testun sylfaenol yoga clasurol, yn cyfeirio at lwybr wyth aelod, sy’n cynnig arweiniad ar sut i fyw bywyd ystyrlon a phwrpasol. Dros y penwythnos hwn, byddwn yn archwilio ac yn cymhwyso’r doethineb ymarferol hwn dros saith sesiwn o asana, pranayama a myfyrdod.

Mae’r llety yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ym mhentref swynol Llanystumdwy ar lan yr afon Dwyfor, gyda sesiynau yn cael eu cynnal yn neuadd bentref Llanystumdwy, taith bum munud ar droed i lawr lôn ddeiliog.

Bydd amser rhydd i chi grwydro’r ardal leol: mynd am dro ar hyd glannau afon Dwyfor, ymweliad â thref glan môr hardd gyfagos Cricieth gyda’i golygfeydd godidog dros Fae Ceredigion, neu flasu darn o Lwybr Arfordir Cymru.

Mae’r encil penwythnos hwn yn addas ar gyfer pob lefel, gan gynnwys dechreuwyr pur.

Tiwtor

Richard Fowler

Mae Richard wedi bod yn ymarfer yoga ers tua 20 mlynedd ac yn dysgu eraill ers 2012. Mae’n frwd dros rannu buddion corfforol, meddyliol ac ysbrydol ymarfer yoga rheolaidd.

Mae ei ddosbarthiadau yn cynnwys asana (peri), pranayama (ymarferion anadlu iogig) ac ymarferion myfyrio, a'i athroniaeth yw y dylem fwynhau ein hymarfer: canolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud, peidio â phoeni am yr hyn na allwn ei wneud, ond gwybod hefyd y bydd y cynnydd hwnnw yn anochel yn dilyn ymarfer parhaus.

Mae'n annog ei fyfyrwyr i ddatblygu ymddiriedaeth yn eu greddf eu hunain trwy wrando ar eu cyrff ac ymateb yn briodol, i ddatblygu cryfder, hyblygrwydd a chyflwr ymwybyddiaeth agored, hamddenol i wella lles cyffredinol.

Mae Richard wedi hyfforddi gydag athrawon gan gynnwys Dr Ray Long, Richard Adamo, Zoe Knott, Julie Friedberger ac Emma Lloyd, yr athrawes y cymhwysodd fel athro British Wheel of Yoga (BWY) gyda hi, ac wedi hynny fel Tiwtor Cwrs Sylfaen BWY.

https://richardfowleryoga.com/

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811