Ar gyfer 2020, rydym yn symud rhai o’n cyrsiau ag encilion arlein.
Ar gyfer Encil yr Hydref bydd yr asiant llenyddol Cathryn Summerhayes yn cynnal dau weithdy digidol ar ddatblygu’n broffesiynol fel awdur, yn cynnwys cyngor ar sut i ddod o hyd i asiant, sut i gael eich cyhoeddi, a chyngor am y diwydiant. Bydd hefyd ar gael am gyfarfod un-i-un byr â phob awdur i drafod eich gwaith a’ch taith fel awdur. Bydd Christina Thatcher yna’n ymuno i gynnal gweithdy, a bydd yr awdur Helen Sedgwick yn cynnal noson o sgwrs a darlleniadau a bydd ar gael i ateb eich cwestiynau.
Noder mai encil drwy gyfrwng y Saesneg yr hon.
Encilion Digidol Tŷ Newydd: Sut mae nhw’n gweithio?
Mae ein rhaglen ddigidol newydd yn cynnig cyfle i awduron o Gymru a dros y byd i gymryd rhan yn un o gyrsiau enwog Tŷ Newydd o’ch cartrefi. Wedi eu lansio am y tro cyntaf yn 2020 yn ystod y clo mawr, bydd y cyrsiau digidol yma’n cynnig y cyfle i awduron na all deithio i Dŷ Newydd i gael eu dysgu gan awduron a thiwtoriaid profiadol mewn fformat sy’n adlewyrchu cyrsiau preswyl y Ganolfan.
Bydd gweithdai’n cael eu cynnig dros y platfform fideo, Zoom. Bydd angen cysylltiad gwe da i gymryd rhan, a cynghorwn chi i roi tro ar Zoom cyn archebu ar y cwrs i sicrhau fod popeth yn gweithio. Bydd staff Llenyddiaeth Cymru ar gael i weinyddu’r encil ac i gynnig help llaw.
Amserlen Encil yr Hydref
Dydd Mawrth 27 Hydref
10.00 am – 11.30 am: Sut i gael eich gwaith wedi ei gyhoeddi?
Bydd y sesiwn hon dan ofal Cathryn Summerhayes yn edrych ar sut i fentro mewn i’r byd cyhoeddi.
2.00 pm – 5.00 pm: Cyfarfodydd un-i-un (bydd amserlen yn cael ei darparu o flaen llaw)
Yn ystod yr encil byddwch y derbyn un cyfarfod un-i-un gyda Cathryn. Bydd croeso i chi yrru cyflwyniad a gwaith ar y gweill o flaen llaw.
Dydd Mercher 28 Hydref
10.00 am – 11.30 am: Dod o hyd i asiant
Mae Cathryn wrth ei gwaith fel Asiant Llenyddol yn cynrychioli awduron yn cynnwys Dr Adam Kay, Ella Mills (Deliciously Ella), Dara McAnulty, Toby Litt, Mark Watson, Naomi Wood, Kirsty Logan a mwy. Ail ymunodd â Curtis Brown yn 2016 ar ôl cychwyn ei gyrfa yno fel intern yn 2004. Bydd y sesiwn hon yn edrych ar sut i ddod o hyd i asiant llenyddol.
2.00 pm – 5.00 pm: Cyfarfodydd un-i-un (bydd amserlen yn cael ei darparu o flaen llaw)
Yn ystod yr encil byddwch y derbyn un cyfarfod un-i-un gyda Cathryn. Bydd croeso i chi yrru cyflwyniad a gwaith ar y gweill o flaen llaw.
8.00 pm – 9.00 pm: Noswaith yng nghwmni Helen Sedgwick
Ymunwch â ni ar Zoom am noswaith yng nghwmni’r awdur Helen Sedgwick. Bydd sesiwn gwestiwn ac ateb yn dilyn ei sgwrs.
Dydd Iau 29 Hydref
10.00 am – 11.30 am: Sut i ddatblygu eich hun fel awdur proffesiynol
Bydd yr awdur a’r tiwtor ysgrifennu creadigol Christina Thatcher yn cynnal gweithdy gan rannu gwybodaeth ar ymarfer proffesiynol fel awdur yn cynnwys gyrru gwaith i gylchgronau llenyddol a chystadlaethau, cymryd rhan mewn digwyddiadau llenyddol, a brandio eich hun yn llwyddiannus fel awdur.
Gweithgarwch Ychwanegol
- Nos Fawrth a nos Iau rhwng 8.00 pm – 9.00 pm, bydd ystafell Zoom – neu lyfrgell rithiol Tŷ Newydd – ar agor i’r grŵp gael cymdeithasu a rhwydweithio.
- Mae’n debyg bod rhai o gyn-fynychwyr cyrsiau Tŷ Newydd yn cofio bwyd bendigedig ein cogydd preswyl, Tony. Mae rhai o’i ryseitiau ar gael ar ein blog, beth amdani – i chi gael blas go-iawn o Dŷ Newydd?