Darlunydd a chartwnydd yw Huw Aaron, sydd yn adnabyddus ymysg darllenwyr ifanc Cymru am lyfrau yn cynnwys Ble Mae Boc, Y Ddinas Uchel ac A am Anghenfil. Mae wedi darlunio degau o lyfrau gair-a-llun i awduron eraill, a Huw oedd yn gyfrifol am olygu a chreu y cylchgrawn poblogaidd, Mellten, sydd wedi ei ddanfon i filoedd o blant dros Gymru dros y blynyddoedd. Mae Huw hefyd yn cyfrannu cartwnau at gylchgronau Private Eye, The Oldie a The Spectator.
Llyfrau Gair-a-Llun
Ymunwch gyda’r cwpl creadigol – yr awduron, arlunwyr a chyhoeddwyr – Huw a Luned Aaron am ddeuddydd o ymgolli mewn creu cyfrolau gair-a-llun i blant ifanc. Byddwn yn trafod sut i neidio o syniad i stori, ac yna sut i lywio plot i’w derfyn. Byddwn yn ystyried yr elfen weledol, yn ymrafael gydag odl a mydr, ac yn ystyried sut y gall un llyfr gyfathrebu gyda phlant a hefyd gyda’r oedolion sy’n darllen y llyfrau ar lafar. Byddwn yn edrych ar ddefnyddio hiwmor rhwng y tudalennau gan gofleidio’r annisgwyl. Byddwn hefyd yn trafod sut i hwyluso’r broses o gyflwyno a gwerthu eich stori i gyhoeddwr.
Dyma gwrs sy’n addas i awduron a darlunwyr sy’n ddechreuwyr, yn ogystal â rhai mwy profiadol. Os oes gennych chi egin stori neu syniad ar y gweill, dewch â hi! Bydd y cwrs yn cychwyn am 11.00 am fore Sadwrn, ac yn dod i ben toc wedi cinio ddydd Sul.
Tiwtoriaid

Huw Aaron

Luned Aaron
Artist ac awdur yw Luned Aaron. Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf i blant, ABC Byd Natur, gan Wasg Carreg Gwalch yn 2016, ac enillodd y llyfr hwnnw wobr Tir na n-Og 2017. Dilynwyd y gyfrol honno gan dair cyfrol arall yn y gyfres Byd Natur; ac yna Nadolig yn y Cartref ac Mae’r Cyfan i Ti. Gyda Huw, cyd-greodd y llyfrau Nos Da Tanwen a Twm, Pam? a Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor.