Mae Sonia Edwards yn enedigol o Gemaes, Môn ond bellach yn byw yn Llangefni. Yn Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 1996 gyda’i chyfrol o straeon byrion, Gloÿnnod (Gwasg Gwynedd, 1995) a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1999 gyda Rhwng Noson Wen a Phlygain (Gwasg Gwynedd, 1999) ac am yr eildro yn 2017 gyda Rhannu Ambarél (Gwasg y Bwthyn, 2017), mae’n awdur dros ddeg ar hugain o gyfrolau i blant, pobl ifanc ac oedolion. Er ei bod yn fwy adnabyddus fel awdur rhyddiaith, cyhoeddodd gyfrol o farddoniaeth yn ogystal dan y teitl Y Llais yn y Llun (Gwasg Gwynedd, 1998).
‘Sgwennu Straeon Byrion
11.00 am – 4.30 pm
Ymunwch â Sonia Edwards i edrych ar hanfodion a chrefft y stori fer. Drwy edrych ar enghreifftiau o waith Sonia, a rhai o straeon byrion gorau’r Gymraeg ac mewn ieithoedd eraill, byddwn yn trafod eu rhinweddau fel cerbyd i gario stori gynnil sy’n aros yng nghof y darllenydd. Yn ffurf sydd angen hyder i’w hymarfer, dywed Sonia fod wynebu ei gwirionedd fel codi drych at eich enaid. Nid trafod hanfodion a chrefft y stori fer yn unig fydd Sonia, ond hefyd eich hannog i’w hystyried fel sbectol i edrych ar y byd a chreu’ch gwirionedd eich hun. Yn ystod y dydd, bydd cyfle i gymryd rhan mewn ymarferiadau byr ac archwilio sbardunau creadigol i gychwyn ar eich stori eich hun. Dyma gwrs fydd yn addas i awduron newydd a mwy profiadol fel ei gilydd.
Mae ein cyrsiau undydd yn addas i unigolion sydd heb brofiad o gwbwl yn y byd ysgrifennu creadigol. Mewn awyrgylch groesawgar, gynnes, bydd cyfle i chi ddysgu gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae croeso i’r chwilfrydig, ac i’r rheiny sydd yn edrych am ddiwrnod o hwyl ac am gael dysgu rhywbeth newydd. Os am drafod os yw’r cwrs hwn, neu unrhyw un o gyrsiau rhaglen 2022 yn addas i chi, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol.
Bydd te, coffi a melysion ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos: holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.
Tiwtor
