Magwyd Katherine Stansfield yng Nghernyw ac mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd. Hi yw awdures y gyfres drosedd hanesyddol Cornish Mysteries (Allison & Busby), straeon o’r 1840au sy’n cyfuno digwyddiadau go iawn, llên gwerin lleol a’r goruwchnaturiol. Cyhoeddwyd ei chyfrol ddiweddaraf yn y gyfres, The Mermaid’s Call, yn 2019. Hi hefyd yw hanner y bartneriaeth D K Fields, sy’n cyd-greu’r drioleg drosedd ffantasi, iasol, Tales of Fenest (Head of Zeus). Mae gwaith Katherine wedi ennill Gwobr Ffuglen Holyer an Gof ddwywaith, a chyrhaeddodd y rhestr fer am Wobr Hanesyddol Winston Graham. Mae hi’n dysgu cyrsiau ysgrifennu creadigol yn adran Dysgu Gydol Oes Prifysgol Caerdydd, a hi hefyd yw Cymrawd y Gronfa Lenyddol Frenhinol yn y brifysgol. Mae hi’n Ddarlithydd Cyswllt ar gwrs MA newydd y Brifysgol Agored mewn Ysgrifennu Creadigol, yn Gymrawd Ysgrifennu i Brifysgol De Cymru, ac yn fentor i Llenyddiaeth Cymru.
Straeon i Godi Gwallt eich Pen
Straeon i Godi Gwallt eich Pen: Cynhyrfu, Brawychu a Dychryn eich Darllenwyr
Hoffech chi roi rhywfaint mwy o ddrama yn eich gwaith? Angen rhoi min ar bethau? Mae troeon annisgwyl, codi braw a chadw pobl ar bigau’r drain yn elfennau hanfodol mewn sawl genre wrth ysgrifennu, gan gynnwys straeon arswyd, Gothig, dirgelwch, trosedd a chyffro. Ond sut y mae synnu a rhyfeddu darllenwyr yn yr unfed ganrif ar hugain pan fydd y rheini’n hen gyfarwydd â chonfensiynau’r ffurf? Sut y mae dal eich darllenwyr nes eu bod nhw’n troi’r tudalennau tan yr oriau mân? Bydd y cwrs hwn yn edrych ar dechnegau ymarferol i reoli tensiwn, gwyrdroi disgwyliadau, datblygu tyndra a chreu bachau – pethau sy’n berthnasol i bob darn o ysgrifennu ffuglen da. Byddwn ni’n edrych ar sut y mae awduron eraill yn brawychu ac yn cyffroi eu darllenwyr, ac yn llunio ein creadigaethau sinistr ein hunain wedyn. Beth yn union sy’n ein dychryn chi? Ymunwch â chwrs a fydd yn llawn naws arswydus a rhyfedd.
Tiwtoriaid

Katherine Stansfield

Tyler Keevil
Yn Vancouver y magwyd Tyler Keevil a symudodd i Gymru pan oedd yng nghanol ei ugeiniau. Mae bellach yn ddarlithydd ac yn Gyfarwyddwr MA Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae nofelau Tyler yn cynnwys Your Still Beating Heart (Myriad Editions, 2020), No Good Brother (The Borough Press, 2018), The Drive (Myriad Editions, 2009) a Fireball (Parthian, 2012) ac mae hefyd wedi cyhoeddi casgliad o straeon byrion o’r enw Burrard Inlet (Parthian, 2015). Mae ei straeon byrion wedi ymddangos mewn sawl cylchgrawn a blodeugerdd, yn cynnwys The Missouri Review, New Welsh Review, a PRISM: International. Mae Tyler wedi ennill sawl gwobr am ei waith, yn fwyaf nodedig Gwobr Golygyddion Jeffrey E. Smith The Missouri Review, Gwobr Barn y Bobl Llyfr y Flwyddyn, a Gwobr Journey Ymddiriedolaeth Ysgrifenwyr Canada / McClelland & Stewart.
www.tylerkeevil.com / @TylerKeevil