Awdur arobryn o Gaerdydd yw Llwyd Owen. Mae wedi cyhoeddi 11 nofel wreiddiol yn y Gymraeg ers 2006, ac wedi addasu dwy ohonynt i'r Saesneg yn ystod yr un cyfnod. Enillodd ei ail nofel, Ffydd Gobaith Cariad, Wobr Llyfr y Flwyddyn 2007. Cyhoeddodd ei gyfrol ddiweddaraf, Rhedeg i Parys, ym mis Tachwedd 2020, sef y bumed nofel yng nghyfres Gerddi Hwyan, sy'n adrodd hanes ditectifs a dihirod y dref ddychmygol yn ne Cymru. Cyhoeddir ei nofelau gan Y Lolfa. Pan nad yw’n ysgrifennu ffuglen, mae Llwyd yn gweithio fel cyfieithydd llawrydd ac hefyd yn cyflwyno podlediad wythnosol o’r enw Ysbeidiau Heulog.
Sut i Ysgrifennu Nofel
Ymunwch â dau nofelydd profiadol i ddysgu sut i fynd ati i ysgrifennu – ac efallai cyhoeddi – eich nofel eich hun. Gan edrych ar ddarnau cofiadwy a chrefftus o nofelau poblogaidd hen a newydd yn y Gymraeg, byddwn yn dysgu’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i saernïo nofel dda. Byddwn yn edrych ar greu strwythur gadarn a chynllun i’r penodau, cymeriadau a lleoliadau credadwy ac apelgar, deialog sy’n ychwanegu at y stori, ac yn trafod sut i blethu popeth â’i gilydd i greu cyfanwaith cywrain. Bydd cyfle i drafod cyfleoedd yn y byd llenyddol, yn cynnwys sut i droedio’r byd cyhoeddi a chystadlu, a bydd digon o amser hamdden i chi grwydro ardal fendigedig Llanystumdwy, neu ymlacio yn y llyfrgell yn trafod eich hoff lyfrau.
Bydd y cwrs yn cychwyn yn hwyr brynhawn Gwener, ac yn dod i ben ar ôl cinio ddydd Sul.
Yw’r cwrs hwn yn addas i mi?
Bydd y cwrs hwn yn addas i ddechreuwyr llwyr ac awduron ag ychydig o brofiad, a byddwn yn sicrhau awyrgylch gefnogol a chroesawgar i annog pawb i ymlacio i lif y cwrs. Efallai eich bod yn cadw dyddiaduron ers blynyddoedd ac yn awyddus i ddefnyddio eich atgofion fel sail i nofel, neu efallai fod gennych syniad am nofel i’w gyrru i un o gystadlaethau’r Eisteddfod ond eich bod angen anogaeth i gychwyn arni. Mae croeso i chi gysylltu â ni am sgwrs anffurfiol cyn cofrestru.
Tiwtoriaid

Llwyd Owen

Manon Steffan Ros
Mae Manon Steffan Ros wedi ysgrifennu’n helaeth ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion. Cychwynnodd ei gyrfa ym myd y ddrama fel actores, ac enillodd Fedal Ddrama'r Eisteddfod Genedlaethol yn 2004 a 2005. Enillodd Wobr Tir na n-Og bum gwaith, yn fwyaf diweddar yn 2020 am y llyfr Pobol Drws Nesaf (Y Lolfa) a gyd-ysgrifennodd â’r darlunydd Jac Jones. Enillodd Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 gyda’i chyfrol boblogaidd Llyfr Glas Nebo (Y Lolfa), a aeth ymlaen i ennill y wobr driphlyg yng Ngwobrau Llyfr y Flwyddyn 2019. Addaswyd Llyfr Glas Nebo i ddrama lwyfan gan gwmni’r Frân Wen, a cafodd hefyd ei chyfieithu i sawl iaith. Mae Manon yn cyfrannu ysgrif wythnosol i gylchgrawn Golwg