Mae Clare Pollard wedi cyhoeddi pum casgliad o farddoniaeth gyda Bloodaxe, yn fwyaf diweddar Incarnation (2017), a phamffled The Lives of the Female Poets (Bad Betty Press, 2019). Enwebwyd ei cherdd ‘Pollen’ ar gyfer y Forward Prize ar gyfer Cerdd Unigol Orau 2022. Mae hi wedi bod yn ymwneud â nifer o brosiectau cyfieithu, gan gynnwys cyfieithu Ovid’s Heroines (Bloodaxe, 2013) y bu yn ei theithio fel sioe un fenyw. Mae Clare hefyd wedi ysgrifennu drama, The Weather (Faber, 2004) a berfformiwyd am y tro cyntaf yn y Royal Court Theatre a theitl ffeithiol, Fierce Bad Rabbits: The Tales Behind Children's Picture Books (Fig Tree, 2019). Ei llyfr diweddaraf yw'r nofel Delphi (Fig Tree, 2022).
Y Llais a’r Lleisiau
Dywedodd Seamus Heaney unwaith bod “dod o hyd i lais yn golygu y gallwch chi fynegi eich teimladau yn eich geiriau eich hun, a bod gan y geiriau rheiny eich hysbryd chi ynddynt.” Yn ystod yr wythnos hon o weithdai a sesiynau ysgrifennu pwrpasol, byddwn yn archwilio’r ‘fi’ a’r ‘arall’ barddonol, gan ofyn sut y gallwn ysgrifennu barddoniaeth personol mewn llais sy’n taro’r tant cywir, tra hefyd yn archwilio posibiliadau a photensial lleisiau cymeriadau barddonol, o fonolog dramatig a’r gerdd-ffilm i waith wedi’i ysbrydoli air am air, a barddoniaeth-ddrama. Disgwyliwch diwtorialau un-i-un, gweithdai grŵp, darlleniadau a llawer o ymarferion wedi eu hysbrydoli gan farddoniaeth gyffesol, ynganiad, tafodiaith, priodiaith a pherfformiad.
Tiwtoriaid

Clare Pollard

Owen Sheers
Mae llyfrau barddoniaeth Owen Sheers yn cynnwys Skirrid Hill (Seren 2004), enillydd Wobr Somerset Maugham, a’r ddrama ryddieithol Pink Mist (Faber, 2013), a ddewiswyd fel un o ddeg drama gorau’r flwyddyn gan The Guardian ac a enillodd yr Fedal Barddoniaeth Gŵyl y Gelli a Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Cyfieithwyd ei nofel gyntaf Resistance (Faber, 2007) i 15 iaith a’i haddasu’n ffilm. Cyrhaeddodd ei nofel ddiweddaraf, I Saw a Man (Faber, 2015) restr fer y Prix Femina étranger. Enillodd The Green Hollow (Faber, 2016) ,cerdd-ffilm Owen a enwebwyd ar gyfer gwobr BAFTA dair gwobr BAFTA Cymru. To Provide All People (Faber, 2018) yw ei gerdd-ffilm ddiweddaraf, a ysgrifennwyd i nodi 70 mlynedd ers sefydlu’r GIG. Yn gyn-gymrawd NYPL Cullman, Awdur Preswyl yn The Wordsworth Trust ac Artist Preswyl Undeb Rygbi Cymru, enillodd Owen Wobr Dewi Sant 2016 am Ddiwylliant a Gwobr Farddoniaeth Wilfred Owen 2018. Ef yw cadeirydd PEN Cymru ac y mae’n Athro mewn Creadigrwydd ym Mhrifysgol Abertawe.
Darllenydd Gwadd

Sabrina Mahfouz
Mae Sabrina Mahfouz yn awdur, perfformiwr ac addysgwr sy’n hanu o Brydain ac o’r Aifft. Cafodd ei magu yn Llundain ac yng Nhairo, a dechreuodd ei gyrfa yn y gwasanaeth sifil. Enwyd casgliad barddoniaeth Sabrina, How You Might Know Me (OutSpoken Press, 2017) yn Best Summer Read gan The Guardian, a dewisiwyd ei blodeugerdd golygedig, The Things I Would Tell You: British Muslim Women Write, fel Llyfr y Flwyddyn gan The Guardian yn 2017, ac fe'i dewiswyd gan Emma Watson ar gyfer ei chlwb llyfrau ffeministaidd. Cyhoeddwyd ei blodeugerdd Smashing It: Working Class Artists on Life, Art and Making It Happen (The Westbourne Press) ym mis Hydref 2019. Cyfrannodd draethawd hefyd tuag at gasgliad arobryn The Good Immigrant (Unbound, 2016), a olygwyd gan Nikesh Shukla. Mae Sabrina wedi cynnal gweithdai ysgrifennu mewn carchardai, ysgolion ac elusennau ar gyfer sefydliadau gan gynnwys y Royal Court, The National Theatre a’r World Economic Forum. Cafodd ei hethol yn Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol yn 2018.