Yn wreiddiol o’r Gaerwen ar Ynys Môn, mae Rhiannon Ifans yn byw ers blynyddoedd lawer ym Mhenrhyn-coch yn ardal Aberystwyth. Mae’n arbenigo ar lenyddiaeth ganoloesol ac astudiaethau gwerin. Yn 1980 cyhoeddodd gyda’i gŵr, Dafydd, ddiweddariad o chwedlau’r Mabinogion. Enillodd wobr Tir na n-Og yn 2000 am ei chyfrol Chwedlau o’r Gwledydd Celtaidd ac am yr eildro yn 2003 am ei chyfrol Dewi Sant; cyrhaeddodd Owain Glyndŵr: Tywysog Cymru restr fer Gwobr Tir na n-Og yn 2001. Yn 2019 enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Sir Conwy am ei nofel Ingrid, nofel sydd wedi’i lleoli yn ninas Stuttgart yn yr Almaen ac sy’n adrodd stori dynes gyfareddol sy’n araf golli ei meddwl. Cyhoeddir ei llyfrau gan Y Lolfa.
Y Mabinogion a Chwedlau Cymru
Ymunwch â Rhiannon Ifans am ddiwrnod o archwilio, trafod a dysgu am y Mabinogi a chwedlau eraill Cymru. Byddwn yn edrych yn fanylach ar straeon cyfarwydd, yn ystyried deongliadau gwahanol arbenigwyr, ac yn dysgu llu o ffeithiau difyr. Yn y prynhawn byddwn yn canolbwyntio ar ysgrifennu ac yn ceisio creu ein chwedl ein hunain yn seiliedig, o bosib, ar enw lle sy’n eich diddori. Neu efallai eich bod am ddod ag elfen o hud a lledrith i’ch nofel arfaethedig? Dyma’r cwrs i chi!
Bydd te, coffi a melysion ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety.
Tiwtor
