Y Tro yng Nghynffon Ysgrifennu Trosedd

Llu 9 Hydref 2023 - Gwe 13 Hydref 2023
Tiwtoriaid / Alis Hawkins & Katherine Stansfield
Darllenydd Gwadd / Vaseem Khan
Ffi’r Cwrs / O £625 - £675 y pen
Iaith / Saesneg

Os ydych chi’n mwynhau ffuglen trosedd ond wedi diflasu ychydig ar weithdrefnau heddlu modern, neu’n awdur trosedd sy’n edrych i fynd â’ch ditectif i gyfeiriad newydd a dod o hyd i strategaethau adrodd straeon gwreiddiol, yna mae’r cwrs hwn ar eich cyfer chi! Byddwn yn archwilio agweddau ffres ar ffuglen trosedd, yn cynnwys yr alcemi a’r cyfle i gyfuno trosedd â genres eraill megis ffuglen hanesyddol, ffuglen wyddonol a ffantasi, y gothig a’r goruwchnaturiol. Bydd ditectifs annibynadwy yn cael eu croesholi fel y gallwn ddod o hyd i’r hyn sydd ganddynt i gynnig i ni fel awduron, a byddwn hefyd yn archwilio byd hynod ddiddorol y ditectif annisgwyl, sef y ditectifs preifat ac amatur, a’r ditectifs â’r sgiliau anarferol. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rhai sy’n dechrau ysgrifennu yn ogystal ag awduron mwy profiadol sy’n chwilio am gyfeiriad newydd ac am gyfle i ehangu eu gwybodaeth am ffuglen trosedd gyfoes.

Mae’r cwrs hwn mewn partneriaeth â Crime Cymru, cymdeithas awduron trosedd Cymru – er bod croeso cynnes i awduron o Gymru a thu hwnt ar y cwrs hwn. Mae Crime Cymru yn gasgliad amrywiol o awduron trosedd Cymreig, sy’n ysgrifennu ffuglen a gweithiau ffeithiol am drosedd. Mae’r grŵp yn gyfrifol am Wobr Nofel Gyntaf Crime Cymru sy’n hyrwyddo talent ysgrifennu trosedd newydd o Gymru, a Gŵyl Ryngwladol Crime Cymru. Mae Aelodau Cyswllt a Chyflawn o Crime Cymru yn gymwys i gael gostyngiad o 10% ar gyfer ffioedd y cwrs hwn, cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Tiwtoriaid

Alis Hawkins

Magwyd Alis Hawkins ar fferm laeth yng Ngheredigion ac mae’n byw ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr ar hyn o bryd. Mae ei chyfres drosedd hanesyddol Teifi Valley Coroner, sydd wedi’i lleoli yn yr ardal lle cafodd ei magu, wedi cyrraedd y rhestr fer ddwywaith ar gyfer Gwobr CWA Historical Dagger. Mae hi hefyd yn ysgrifennu ffuglen wedi'i osod yn y cyfnod canoloesol. Mae Alis yn Gymraes falch ac, mewn ymdrech i hyrwyddo diwylliant Cymreig a ffuglen droseddol Gymreig yn arbennig i’r byd ehangach, yn 2017 cyd-sefydlodd Crime Cymru, y grŵp o awduron trosedd Cymreig sydd bellach yn cynnwys deugain o awduron cyhoeddedig. Hi hefyd yw cadeirydd Gŵyl Crime Cymru Festival, gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol Cymru a bu’n allweddol wrth sefydlu gwobr nofel gyntaf Crime Cymru gydag aelodau eraill o Crime Cymru. Pan nad yw’n ysgrifennu ei llyfrau ei hun, mae Alis yn gweithio gydag awduron newydd ac awduron cyhoeddedig fel golygydd a mentor llawrydd, yn ogystal â bod yn siaradwr a chadeirydd mewn gwyliau ffuglen trosedd a digwyddiadau llenyddol. Ar hyn o bryd mae hi'n gweithio ar gyfres ffuglen drosedd hanesyddol newydd, wedi'i gosod yn Rhydychen yn yr 1880au. 

Katherine Stansfield

Mae Katherine Stansfield yn awdur a bardd aml-genre. Mae ei chyfres drosedd hanesyddol Cornish Mysteries wedi ennill Gwobr Ffuglen Holyer an Gof ac wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Goffa Winston Graham. Y diweddaraf yw The Mermaid's Call (Allison & Busby, 2020). Mae hi’n cyd-ysgrifennu trioleg drosedd ffantasi gyda’i phartner David Towsey, gan gyhoeddi fel D. K. Fields, ac mae hefyd wedi cyhoeddi dau gasgliad barddoniaeth a phamffled gyda Seren. Mae Katherine yn gyd-olygydd, gyda Caroline Oakley, o Cast a Long Shadow, casgliad o straeon byrion trosedd newydd gan awduron benywaidd o Gymru, a gyhoeddwyd gan Honno. Mae’n dysgu ysgrifennu creadigol mewn nifer o brifysgolion ac mae wedi bod yn Gymrawd y Gronfa Lenyddol Frenhinol. Yn 2021, ynghyd â chyd-aelodau o Crime Cymru – cydweithfa awduron trosedd Cymru – lansiodd Katherine wobr newydd ar gyfer awduron trosedd newydd yng Nghymru. 

Darllenydd Gwadd

Vaseem Khan

Mae Vaseem Khan yn awdur dwy gyfres drosedd boblogaidd wedi'u gosod yn India, cyfres Baby Ganesh Agency wedi'i gosod yn Mumbai gyfoes, a nofelau trosedd hanesyddol Malabar House a osodwyd yn Bombay yn y 1950au. Dewiswyd ei lyfr cyntaf, The Unexpected Inheritance of Inspector Chopra (Hodder, Mulholland Books, Hachette, 2015), gan The Sunday Times fel un o’r 40 nofel drosedd orau a gyhoeddwyd yn 2015-2020, ac mae wedi’i chyfieithu i 17 o ieithoedd. Enillodd yr ail yn y gyfres Wobr Shamus yn yr Unol Daleithiau. Yn 2021, enillodd Midnight yn Malabar House (Hodder & Stoughton, Hachette, 2020) Wobr Crime Writers Association Historical Dagger, prif wobr y byd am ffuglen trosedd hanesyddol ac roedd ar restr fer Gwobr Theakston’s Old Peculier Nofel Drosedd y Flwyddyn yn 2022. Pan nad yw'n ysgrifennu, mae'n gweithio yn  Adran Gwyddorau Diogelwch a Throsedd yng Ngholeg Prifysgol Llundain. Ganed Vaseem yn Lloegr, ond treuliodd ddegawd yn gweithio yn India. Mae Vaseem hefyd yn cyd-gyflwno’r podlediad ffuglen trosedd poblogaidd, The Red Hot Chilli Writers. www.vaseemkhan.com

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811