Magwyd Siân Melangell Dafydd ar droed y Berwyn, lle mae wedi dychwelyd er iddi fyw a gweithio yn yr Eidal mewn orielau, ac yn Ffrainc ym Mhrifysgol America, Paris. Siân yw awdur Y Trydydd Peth (Gwasg Gomer, 2009), enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod 2009 a chyd-olygydd olaf y cylchgrawn llenyddol eiconig, Taliesin. Mae’n gweithio’n ddiwyd â beirdd o’r India ac ar ymchwil doethuriaeth yn defnyddio yoga ac ysgrifennu fel ymarferion cyfochrog creadigol. Bydd ei nofel, Filò (Gwasg Gomer) yn cael ei chyhoeddi yng ngaeaf 2019.
Yoga ac Ysgrifennu: Yr Haul yn yr Hunan
Dyma gwrs sy’n cyfuno dau ymarfer creadigol fydd yn bwydo’i gilydd: yoga ac ysgrifennu. Byddwn yn cyfuno myfyrdod, pranayama (anadlu) ac asana (ystumiau) gydag ymarferion ysgrifennu, mytholeg Hindu ac amser i ysgrifennu yn awyrgylch hyfryd Tŷ Newydd. Cwrs chwareus, arbrofol a hwyliog fydd hwn i ganfod syniadau er mwyn ysgrifennu, ac i archwilio straeon cudd y corff. Byddwch yn gadael gyda sbarc yn eich llygad a chelc o gerddi neu straeon byrion. Bydd cogydd preswyl Tŷ Newydd yn paratoi bwydlen Ayurvedic arbennig i buro’r meddwl a’r corff. Bydd tiwtoriaid gwadd yn ymuno â ni yn ystod yr wythnos.
Cwrs addas ar gyfer rhywun â gallu corfforol cymedrol, cysylltwch am ragor o fanylion.
Tiwtor

Siân Melangell Dafydd
Darllenwyr Gwadd

Amali Rodrigo
Bardd a chyfieithydd yw Amali Rodrigo. Fe’i ganwyd yn Sri Lanka, ond mae’n byw bellach yn Llundain. Cyhoeddwyd ei chasgliad Lotus Gatherers gan Bloodaxe yn 2016. Mae’n astudio seicoleg ar gyfer doethuriaeth gan ganolbwyntio ar ddefnydd Carl Jung o Mandala yn ei waith. Mae’n dysgu ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Lancaster.

Vivienne Rickman-Poole
Mae’r artist a’r nofiwr Vivienne Rickman-Poole wedi bod yn nofio o amgylch llynnoedd Eryri ac yn dogfennu ei thaith. Cafodd ei phrosiect 'Swim Snowdonia' ei enwi fel un o’r anturiaethau mwyaf ysbrydoledig yn 2016 gan y Guardian. Llwyddodd y ffilm ‘Afterflow’ sy’n dogfennu angerdd Vivienne tuag at nofio a’i gwaith ffotograffig i ennill gwobr aur yng nghategori Ffilm Menywod Mewn Antur Gorau yng Ngŵyl Ffilmiau Antur Sheffield.