Hyfforddodd Katharine Norbury fel golygydd ffilm gyda’r BBC ac mae wedi gweithio’n helaeth ym myd ffilm a drama deledu. Hi oedd seren newydd The Observer ym myd rhyddiaith ffeithiol-greadigol yn 2015. The Fish Ladder (Bloomsbury Circus, 2015) oedd ei llyfr cyntaf, a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Wainwright 2016, rhestr hir Gwobr Llyfr Cyntaf The Guardian a Llyfr y Flwyddyn y Telegraph. Yn 2021 fe olygodd flodeugerdd o waith ysgrifennu menywod am y byd naturiol, Women on Nature, a gafodd ganmoliaeth fawr, a gyhoeddwyd gan Unbound. Mae hi wedi cyfrannu at The Observer, The Daily Telegraph a The Washington Post.
Ysgrifennu am Fywyd: Ysgrifennu Ffeithiol Greadigol
Mae Ysgrifennu am Fywyd yn golygu cymaint mwy na’r set o lyfrau clawr caled trwm sy’n dominyddu cornel ‘ddifrifol’ y siopau llyfrau. Ysgrifennu o brofiad yw sylfaen cymaint o genres llenyddol – mewn gwaith ffeithiol, ffuglen a barddoniaeth fel ei gilydd, ac o fewn eu hisadrannau niferus gan gynnwys cofiant personol, ysgrifennu natur ac ysgrifennu taith/ am dirwedd. Mae ysgrifennu am fywyd hefyd yn cwmpasu ‘bywydau eraill’ ar ffurf bywgraffiad, hanes a llawer mwy. Ar y cwrs hwn, byddwn yn archwilio hanfod ysgrifennu am fywyd, gan weithio mewn grwpiau, trwy ymarferion, a thrwy ein hysgrifennu ein hunain. Byddwn yn archwilio peryglon a rhyfeddodau’r genre yn ogystal â chanolbwyntio ar ein harddull ysgrifennu ein hunain mewn gweithdai grŵp tair awr o hyd dyddiol gyda’r tiwtoriaid, y ddau ohonynt wedi cyhoeddi gwaith hunangofiannol uchel iawn eu clod. Bydd cwrs Ysgrifennu am Fywyd yn cynnig gofod diogel a chefnogol i feddwl ac ysgrifennu yn amgylchfyd naturiol godidog Tŷ Newydd.
Bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar ysgrifennu ffeithiol-greadigol, ond mae croeso i’r rheiny sy’n ysgrifennu ffuglen, barddoniaeth a mwy, ac sydd am weu straeon gwir i’w gwaith ar y cwrs hwn.
Tiwtoriaid

Katharine Norbury

Mike Parker
Mae Mike Parker yn awdur dros ddwsin o lyfrau, gyda’r rhan fwyaf yn naratifau poblogaidd am lefydd, gwleidyddiaeth, hanes a hunaniaeth. Yn eu plith mae Map Addict (Collins, 2009 ac argraffiad newydd 2023) a’i ddilyniant, The Wild Rover (Collins, 2011). Mae ei gyfrol, On The Red Hill (William Heinemann, 2019) yn darlunio tirwedd canolbarth Cymru mewn ffordd dra angerddol, a hynny wrth chwilio am y cwiar gwledig. Enillodd y gyfrol hon Wobr Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2020 a daeth yn ail yng Ngwobr Wainwright ar gyfer ysgrifennu natur yn y DU. Mae ei lyfr newydd, All the Wide Border (Harper North, 2023) yn ymateb personol i’r rhwyg rhwng Cymru a Lloegr, fel rhywbeth ar fap ac yn rhan o hanes, ond hefyd fel rhywbeth yn ein pennau ac yn ein calonnau.