Mae Matt Brown yn awdur saith cyfrol i bobl ifanc, pob un yn seiliedig ar ei gariad gydol oes at ffuglen wyddonol. Cafodd ei lyfr cyntaf, Compton Valance, stori am fachgen sy'n creu peiriant amser allan o frechdan yn ddamweiniol, ei gyhoeddi gan Usborne yn 2014. Eleni bydd Kevin the Vampire, a gyhoeddir gan Nosy Crow, yn cael ei chyhoeddi, sef cyfres i blant am garnifal sy'n cael ei redeg gan angenfilod. Y llynedd, ynghyd ag Eloise Williams, creodd a golygodd Matt The Mab (Unbound, 2022), sef ailadroddiad o’r Mabinogi i blant. Mae Matt wedi cyflwyno ar rai o sioeau teledu mwyaf poblogaidd y DU yn cynnwys Nickelodeon, The Big Breakfast ac I’m A Celebrity Get Me Out Of Here! Er, byddai’n barod iawn i gyfaddef ei fod wedi cyflwyno rhai o sioeau gwaethaf erioed y DU hefyd! www.mattbrownwriter.com
Ysgrifennu ar gyfer Pobl Ifanc
Gall pobl ifanc fod y darllenwyr anoddaf i fachu eu dychymyg, ond unwaith i chi ennill eu sylw, mae eu cefnogaeth yn un heb ei ail. Bydd y cwrs hwn yn archwilio sut i ysgrifennu ffuglen gyfareddol i blant a phobl ifanc, i ddal ac annog eu dychymyg. Bydd gweithdai grŵp, tasgau, a sesiynau un-i-un gyda thiwtor yn eich dysgu sut i ffurfio cymeriadau cymhellol a chredadwy, y modelau rôl holl bwysig hynny a fydd yn gyfaill i’ch darllenwyr ifanc ar hyd taith y llyfr a hyd yn oed ar hyd eu hoes. Gan dynnu ar chwedlau, mythau a straeon tylwyth teg – gan gynnwys y Mabinogi – bydd y tiwtoriaid hefyd yn eich helpu i greu bydoedd hudolus fel gosodiadau i’ch straeon. Gan rannu cyngor euraidd a’r gwirionedd am sut i ysgrifennu’n dda ar gyfer eich cynulleidfa darged, bydd y tiwtoriaid yn eich helpu i adeiladu technegau y gallwch eu defnyddio i barhau i ddatblygu eich straeon rhyfeddol eich hun ar ôl i’r cwrs ddod i ben.
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer awduron, gan gynnwys y rhai sy’n newydd i’r byd ysgrifennu, sydd â diddordeb yn bennaf mewn datblygu gwaith ar gyfer darllenwyr 7+.
Tiwtoriaid

Matt Brown

Eloise Williams
Mae Eloise Williams yn awdur chwe chyfrol i ddarllenwyr ifanc, pump a gyhoeddwyd gan Firefly Press, Elen's Island (2015), Gaslight (2017), Seaglass (2018), Wilde (2020) a Honesty & Lies (2022), a The Tide Singer a gyhoeddwyd gan Barrington Stoke (2022). Yn 2023 cyhoeddir ei nofel ddiweddaraf, The Curio Collectors, gan Barrington Stoke. Yn 2022, ynghyd â Matt Brown, creodd a golygodd Eloise The Mab (Unbound, 2022), sef ailadroddiad o’r Mabinogi i blant. Eloise oedd Children’s Laureate Wales cyntaf 2019-2021. Mae hi wedi gweithio gyda miloedd o bobl ifanc ledled Cymru a thu hwnt am fwy nag ugain mlynedd yn cynnal gweithdai ysgrifennu creadigol, drama ac adrodd straeon. www.eloisewilliams.com
Darllenydd Gwadd

Catherine Johnson
Awdur i blant a phobl ifanc yw Catherine Johnson sydd wedi ennill gwobrau lu. Cafodd ei henwebu ddwywaith ar gyfer Medal Carnegie CILIP ac enillodd ei llyfr diweddaraf, Freedom – llyfr yn llawn antur am brofiadau hogyn ifanc o gaethwasiaeth ym Mhrydain – Wobr Little Rebel yn 2019. Fe’i henwebwyd hefyd ar gyfer Rhestr Anrhydeddau IBBY 2020. Ymysg ei llyfrau eraill y mae Race to the Frozen North (Barrington Stoke, 2018) a Sawbones (Walker Books, 2013). Mae Catherine hefyd yn ysgrifennu ar gyfer ffilm, teledu a radio. Ymysg ei gwaith teledu mae Rough Crossings, addasiad teledu o lyfr Simon Schama a Holby City. Mae hi hefyd yn gweithio ar hyn o bryd ar addasiad o lyfr Black Tudors, gan Miranda Kaufmann i Silverprint Pictures. www.catherinejohnson.co.uk