Ysgrifennu Barddoniaeth ar gyfer Plant a Phobl Ifanc

Llu 22 Gorffennaf 2024 - Gwe 26 Gorffennaf 2024
Tiwtoriaid / Dean Atta & Nikita Gill
Ffi’r Cwrs / O £625 - £725 y pen
Genres / BarddoniaethYsgrifennu i Blant a Phobl Ifainc
Iaith / Saesneg

Pa straeon wnaeth wneud i chi gwympo mewn cariad gyda straeon? Dyma’r cwestiwn sydd wrth wraidd y cwrs wythnos hwn ar ysgrifennu barddoniaeth a phenillion i blant a phobl ifanc, dan arweiniad tiwtoriaid profiadol sydd wedi ennill gwobrau, Dean Atta a Nikita Gill. Yn ystod yr wythnos, byddwch yn cael eich annog i gael eich ysbrydoli gan gof, chwedloniaeth, a hud, wrth i chi fireinio eich llais, a chrefftio eich darnau ysgrifenedig a/neu berfformiad. O ymgolli yn amgylchedd naturiol hardd Tŷ Newydd, i drafod gweithiau gan awduron amrywiol, i ailymweld â’ch hunan yn ifanc o safbwynt tosturiol, bydd y tiwtoriaid yn addysgu’r hanfodion i chi wrth gysylltu â chynulleidfaoedd ifanc heddiw.

Bydd yr wythnos yn cynnwys gweithdai a thrafodaethau grŵp, tiwtorialau un-i-un, teithiau cerdded, darlleniadau, a noson ffilm anffurfiol i helpu eich sgiliau perfformio, a llwyth o ymarferion ac ysgogiadau ysgrifennu rhyngweithiol a chwareus. Byddwch yn gadael yn teimlo wedi’ch ysbrydoli, yn llawn cymhelliant, a gydag ymdeimlad mwy clir o’ch llais ochr yn ochr â dealltwriaeth fwy cadarn o grefft barddoni i gynulleidfaoedd iau. Felly, ymunwch â ni mewn wythnos arbennig iawn o ysgrifennu, breuddwydio ac archwilio.

Tiwtoriaid

Dean Atta

Mae Dean Atta yn awdur a bardd Du arobryn o Brydain, y mae ei waith wedi cael canmoliaeth gan Bernardine Evaristo a Malorie Blackman. Cafodd ei nofel farddonol, The Black Flamingo (Hachette, 2020), am fachgen hoyw Du yn ei arddegau sy’n canfod ei lais drwy farddoniaeth a pherfformiad drag Wobr Llyfrau Stonewall, a chyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer sawl gwobr fawreddog arall. Mae ei gasgliad o farddoniaeth, There is (still) love here (Gwasg Nine Arches, 2022), yn archwilio derbyniad, llawenydd cwiar, a phŵer bod yn chi’ch hunan yn ddiymddiheuriad, gan gofleidio pwy ydych chi’n llwyr. 

 

Nikita Gill

Bardd Gwyddelig-Indiaidd yw Nikita Gill sydd â sylw 700,000 o ddilynwyr Instagram ledled y byd am ei gwaith. Mae ei gwaith yn cynnig newid persbectif sy'n canoli merched mewn myth Groeg a Hindŵaidd yn ogystal â llên gwerin. Mae hi wedi rhoi Sgwrs TEDx, wedi bod yn siaradwr gwadd ym mhob gŵyl lenyddol fawr yn y DU ac wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Goodreads Choice mewn barddoniaeth deirgwaith, Gwobr Barddoniaeth y Plant ddwywaith ac ar restr hir Gwobr Jhalak. Mae Nikkita wedi ysgrifennu saith casgliad o farddoniaeth a dwy nofel. Roedd ei llyfr chwedlau i blant Animal Tales from India a’i nofel ddiweddaraf ar gyfer Doctor Who ill dau allan ym mis Hydref 2023.

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811