Merch a’i thraed yn nhir Llŷn a bodiau’i thraed yn nŵr y glannau o’i gwmpas yw Meinir Pierce Jones. Mae’n gweithio fel golygydd creadigol gyda Gwasg y Bwthyn yng Nghaernarfon. Dros y blynyddoedd bu’n ennill ei bara menyn fel awdur a chyfieithydd a sgriptwraig yn bennaf. Mae Meinir wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ar gyfer plant dros y blynyddoedd yn cynnwys Y Cwestiwn Mawr (Y Lolfa, 2010), Modryb Lanaf Lerpwl (Gwasg Gomer, 1991), Bargen Siôn (Gwasg Gomer, 1998) ac yn fwyaf diweddar, Cnwcyn a’i Ffrindiau (Atebol, 2022). Cyhoeddodd ddwy nofel flaenorol ar gyfer oedolion sef Y Gongol Felys (Gwasg Gomer, 2005), a gyrhaeddodd Restr Hir Llyfr y Flwyddyn yn 2005 a Lili dan yr Eira (Gwasg Gomer, 2008). Ei nofel Capten (Gwasg y Bwthyn, 2022) oedd enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod 2022. Yn ei hamser sbâr, mae Meinir yn mwynhau stwna yn yr ardd, mynd am dro, darllen, hwylio bwyd, treulio amser yng nghwmni ei theulu a ffrindiau a chynllunio ei nofel nesaf!
Ysgrifennu Ffuglen Hanesyddol
11.00 am – 4.00 pm
Ymunwch â Meinir Pierce Jones, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2022, ar gyfer cwrs undydd yn archwilio’r grefft o ysgrifennu nofel hanesyddol dda. Pa fath o bethau sydd rhaid cadw mewn cof? I ba raddau y gallwch chi ffeirio ffaith am ffuglen? Pa fath o stori sy’n cydio mewn darllenwyr? Fe gewch yr ateb i’r holl gwestiynau hyn, a mwy, yng nghwmni Meinir.
Mae ein cyrsiau undydd yn addas i unigolion sydd heb brofiad o gwbwl yn y byd ysgrifennu creadigol. Mewn awyrgylch groesawgar, gynnes, bydd cyfle i chi ddysgu gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae croeso i’r chwilfrydig, ac i’r rheiny sydd yn edrych am ddiwrnod o hwyl ac am gael dysgu rhywbeth newydd. Os am drafod os yw’r cwrs hwn, neu unrhyw un o gyrsiau rhaglen 2023 yn addas i chi, <cysylltwch â ni> am sgwrs anffurfiol. |
Bydd te, coffi a melysion ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos: holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.
Tiwtor
