Mae Jacob Ross yn nofelydd, yn awdur straeon byrion, yn olygydd ac yn diwtor ysgrifennu creadigol. Enillodd ei nofel ffuglen trosedd, The Bone Readers (Inpress Books, 2016) Wobr Jhalak yn 2017 a chafodd ei dewis ar gyfer Big Jubilee Read y BBC yn 2022. Mae ei nofel drosedd ddiweddar Black Rain Falling (Sphere, 2020) wedi’i rhestru ymhlith y nofelau trosedd gorau yn 2020 gan y Sunday Times. Cyhoeddwyd ei nofel lenyddol Pynter Bender (Fourth Estate, 2008) i gryn glod llenyddol beirniadol a chyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Ranbarthol Awduron y Gymanwlad 2009 a’i dewis yn un o dair Nofel Gyntaf Orau’r British Authors Club. Mae'n Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol a bu'n un o feirniaid Gwobr Goffa V.S. Pritchett, Gwobrau Llenyddol Olive Cook, Scott Moncrieff a Tom-Gallon, Gwobr Stori Fer y Gymanwlad a Gwobr gan y Scottish Book Trust. Mae Jacob yn Olygydd Ffuglen gyda Peepal Tree Press, ac yn olygydd sawl casgliad o straeon byrion.
Ysgrifennu Ffuglen Trosedd sy’n Gafael
Sut ydych chi’n ysgrifennu ffuglen trosedd sydd – er yn aml wedi eu seilio ar ddigwyddiadau erchyll ac ysgytwol – yn dod yn llyfrau poblogaidd ac agos at galon y darllenydd? Bydd y cwrs ysgrifennu trosedd ymarferol hwn yn eich tywys trwy sawl agwedd ar ysgrifennu trosedd, drwy’r arswyd a’r gwaed ac i’r golygfeydd hynny sy’n dod â chi yn ôl at gymeriadau hoff a lleoliadau cyfarwydd.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn magu gwell dealltwriaeth o sut i strwythuro eich syniad mewn i stori. Byddwn yn edrych ar yr elfennau allweddol sy’n hanfodol i adeiladu nofel drosedd lwyddiannus: o ddatblygu plot cywrain sydd yn fedrus-osgoi’r camgymeriadau cyffredin a’r troeon trwstan amlwg, i greu’r cymeriadau crwn hollbwysig rheiny sy’n cario’r stori. Byddwn yn eich dysgu sut i ddatblygu eich ysgrifennu dramatig i fod yn fwy dramatig fyth, gan gofleidio tensiwn a gwrthdaro, yn ogystal â sut i greu’r byd perffaith i chi osod eich trosedd berffaith ynddi. Ar y cwrs hwn yn Nhŷ Newydd, ein plasty ynysig ar gyrion cymdeithas, pwy â ŵyr beth all ddigwydd ar y cwrs hwn…
Trwy weithdai, trafodaethau a chyfarfodydd un-i-un gyda’r tiwtoriaid, bydd Jacob Ross a Helen Sedgwick yn eich ysbrydoli, yn eich herio a’ch cefnogi i ganfod y gorau yn eich ysgrifennu trosedd.
Tiwtoriaid

Jacob Ross

Helen Sedgwick
Mae Helen Sedgwick yn awdur llyfrau ffuglen llenyddol, ffuglen gwyddonol, a throsedd. Dewiswyd ei nofel gyntaf, The Comet Seekers (Harvill Secker, 2016), fel llyfr gorau 2016 gan The Herald a chyrhaeddodd ei ffuglen wyddonol The Growing Season (Harvill Secker, 2017) restr fer Llyfr Ffuglen y Flwyddyn yr Alban. Yn fwyaf diweddar mae hi wedi ysgrifennu trioleg troseddau arswyd gwerin, The Burrowhead Mysteries, sy'n cynnwys: When the Dead Come Calling (Point Blank, 2020), Where the Missing Gather (Point Blank, 2021) a What Does not Break Us (Point Blank, 2022). Yn 2021, dyfarnwyd Cymrodoriaeth Dr Gavin Wallace iddi i ysgrifennu cyfres ffuglen wyddonol ryngblanedol am ailadeiladu ar ôl chwalfa amgylcheddol. Cyn dod yn awdur, roedd Helen yn wyddonydd ymchwil â PhD mewn ffiseg o Brifysgol Caeredin. Mae hi'n byw yn Ucheldir yr Alban gyda'i phartner, eu merch, a nifer cynyddol o ieir.
Darllenydd Gwadd

Mary Paulson-Ellis
Mae Mary Paulson-Ellis yn byw yng Nghaeredin lle mae’n ysgrifennu yn y genres trosedd, ffuglen hanesyddol a llenyddol, gan archwilio bydoedd y bobl hynny sy’n marw heb unrhyw berthynas agos. Roedd ei nofel gyntaf, The Other Mrs Walker (Mantle, 2016) yn un o werthwyr gorau’r Times a Llyfr y Flwyddyn yn yr Alban gan Waterstones. Roedd ei hail, The Inheritance of Solomon Farthing (Mantle, 2019) ar restr hir Gwobr McIlvanney am y nofel drosedd Albanaidd orau a Choron Aur Cymdeithas yr Ysgrifenwyr Hanesyddol. Mae ffuglen fer a ffeithiol Mary wedi ymddangos yn The Guardian ac ar BBC Radio 4. Yn 2019 dewisodd Val McDermid hi fel un o’r deg o awduron LHDTC+ gorau cyfoes. Mae ganddi MLitt mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Glasgow lle, ar ôl graddio, dyfarnwyd Gwobr Ffuglen Curtis Brown gyntaf iddi. Emily Noble’s Disgrace (Mantle, 2021) yw ei thrydedd nofel.