Mae Tom Bullough yn awdur pedair nofel ac, yn fwyaf diweddar, Sarn Helen: a Journey Through Wales, Past, Present and Future (Granta, 2023), a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2024 a Llyfr y Flwyddyn Waterstones 2023. Bydd ei ffilm nodwedd gyntaf, Mr Burton, am fywyd cynnar yr actor Richard Burton, yn cael ei ryddhau mewn theatrau yng ngwanwyn 2025. Ar hyn o bryd, Tom yw Cydymaith Stori Castell y Gelli, a’n gyfrifol am brosiect clywedol a gweledol Tarddle/ Source, am Afon Gwy, ei hecoleg a phobl ei glannau. Fe’i magwyd ar fferm fynydd yn Sir Faesyfed ac mae bellach yn byw ym Mannau Brycheiniog gyda dau o blant, ci (collie) a physgodyn aur.
Ysgrifennu Hinsawdd
Sut ydych chi’n teimlo am fyw mewn argyfwng? Galar? Dewrder? Cariad? Ni fu erioed oes bwysicach i fod yn llenor, i fod yn dyst gonest i’r argyfwng a digalondid, o ddewrder di-hid a chariad hynafol at natur yn ei holl ffurfiau.
Bydd y cwrs yma’n archwilio sut y gellir trosglwyddo a chyfleu y byd byw i’r dudalen mewn ffordd sy’n fywiog, a gyda llinyn storïol cryf. Sut ydyn ni’n perthyn i’r byd naturiol? Gyda ffraethineb, gras, hwyl neu gynddaredd? Sut gall ysgrifennu annog darllenwyr i weithredu?
Yn benodol, bydd y cwrs yn eich dysgu sut i gydblethu sylwebaeth ar argyfwng hinsawdd yn eich gwaith a chwestiynu i ba raddau y mae’r awdur yn gyfrifol am wneud hynny o fewn eu hysgrifennu?
Dan arweiniad dau ymgyrchydd amgylcheddol, Tom Bullough a Jay Griffiths, bydd y cwrs yn ystyried sgiliau craidd ffeithiol greadigol a ffuglen, gan edrych ar strwythur naratif, golygu a phwysigrwydd cymeriad o fewn thema argyfyngau hinsawdd ac ecolegol. Sut mae creu ysgrifennu sy’n bwysig? Bydd y cwrs hwn yn eich dysgu sut y gallai ein straeon fod yn driw i natur a natur ddynol.
Tiwtoriaid
Tom Bullough
Jay Griffiths
Mae Jay Griffiths yn awdur nifer o lyfrau, gan gynnwys Wild: An Elemental Journey (Penguin, 2006), Kith: The Riddle of the Childscape (Penguin, 2013); Tristimania (Penguin, 2017); Pip Pip: A Sideways Look at Time (Flamingo, 2000) a Why Rebel (Penguin, 2021). Mae hi'n droseddwr balch – wedi ei heuogfarnu am brotestio’n heddychlon dros yr hinsawdd. Enillodd Wobr Darganfod am yr awdur newydd gorau yn yr UDA, y Wobr Orion gyntaf erioed, a chyrhaeddodd restr fer Gwobr Orwell. Am gyfnod, roedd hi’n Gymrawd Ryngwladol y Gelli. Mae hi wedi ysgrifennu ystod eang o weithiau, gan gynnwys ar gyfer Radiohead a’r Royal Shakespeare Company. Ysgrifennodd y sgript ar gyfer 'Almost Invisible Angels', a lleisiwyd ei geiriau gan Mark Rylance. Teitl ei llyfr diweddaraf yw Nemesis, My Friend: Journeys Through the Turning Times (Little Toller Books, 2022). Mae hi'n byw yng Nghymru lle mae'n ysgrifennu, cerdded, beicio mynydd, a nofio mewn llynnoedd. Mae hi hefyd yn sglefriwr gwyllt pan mae llynnoedd Cymru wedi’u rhewi.
Darllenydd Gwadd
Darllenydd Gwadd
Bydd y darllenydd gwadd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei gyhoeddi'n fuan iawn.