Ysgrifennu i Blant

Llu 28 Awst 2023 - Gwe 1 Medi 2023
Tiwtoriaid / Alex Wharton & Patience Agbabi
Ffi’r Cwrs / O £575 - £675 y pen
Genres / BarddoniaethYsgrifennu i Blant a Phobl Ifainc
Iaith / Saesneg

Bydd y cwrs hwn yn cynnig taith garlam trwy fyd ysgrifennu i blant, gan edrych ar sut i adrodd ein straeon mewn ffyrdd gwreiddiol a chyfareddol trwy’r gair ysgrifenedig, trwy berfformiadau, gweithdai, ar lwyfannau digidol a mwy. Bydd y ddau diwtor, sy’n feistri yn eu meysydd, yn cymryd yr awenau mewn barddoniaeth a rhyddiaith ac yn dangos i chi sut i droi eich egin syniadau yn straeon, yn gymeriadau ac yn fydoedd y bydd darllenwyr ifanc yn eu cofleidio.

Bydd Patience yn edrych ar bensaernïaeth eich llyfr a’r technegau y byddwch yn eu defnyddio: iaith, ffurf a chymeriadau tri dimensiwn sydd â pherthynas ystyrlon â’i gilydd a gyda’r darllenydd.

Bydd Alex yn dangos i chi ble i ddod o hyd i gerddi da, trwy eich annog i fod yn chwareus ac yn chwilfrydig am y geiriau a’r syniadau sydd o’n cwmpas. Bydd yn archwilio sain barddoniaeth, a sut y gellid ystyried yr elfen berfformiadol wrth gyfansoddi barddoniaeth i blant.

Yn olaf, bydd y ddau awdur yn edrych ar fyd ysgrifennu plant – sut y gall awduron fynd â’u gwaith i mewn i’r ystafelloedd dosbarth, ar lwyfannau rhithwir ac i wyliau i ddal dychymyg cynulleidfaoedd a dangos iddynt yr hud a ddaw yn sgîl straeon a llenyddiaeth.

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer awduron newydd, ac awduron mwy profiadol fel ei gilydd, sydd am ddatblygu eu rhyddiaith a’u barddoniaeth ar gyfer plant 8-12 oed.

Tiwtoriaid

Alex Wharton

Mae Alex Wharton yn awdur a pherfformiwr barddoniaeth arobryn i oedolion a phlant. Cyrhaeddodd ei lyfr cyntaf o farddoniaeth i blant Daydreams and Jellybeans (Firefly Press, 2021) restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022, Gwobr Llyfr Athrawon Gogledd Gwlad yr Haf a chafodd ei enwi fel llyfr i’w ddarllen ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth. Mae wedi cydweithio â Llenyddiaeth Cymru, Cadw, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru, y Cyngor Prydeinig, a nifer o lyfrgelloedd, ysgolion, ymddiriedolaethau a gwyliau gan gynnwys Gŵyl y Gelli a Gŵyl Lyfrau Ryngwladol Caeredin. Cyfrannodd Alex stori i The Mab (Unbound, 2022) sy'n ailadrodd chwedlau hynafol y Mabinogi. Bydd ei ail gasgliad o farddoniaeth Red Sky at Night: A Poet's Delight yn cael ei gyhoeddi yn 2024 gyda Firefly Press.

Patience Agbabi

Mae Patience Agbabi FRSL yn fardd ac yn nofelydd plant poblogaidd. Mae hi’n Gymrawd mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Oxford Brookes ac wedi dysgu mewn ystod eang o leoliadau o ysgolion cynradd i garchardai. Darllenodd Lenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Rhydychen ac mae ganddi MA mewn Ysgrifennu Creadigol, y Celfyddydau ac Addysg o Brifysgol Sussex. Ei llyfr diweddaraf yw The Circle Breakers (Canongate, 2023), trydedd nofel The Leap Cycle, cyfres antur teithio amser i bawb rhwng 8 a ∞. The Infinite (Canongate, 2020), nofel gyntaf y gyfres oedd Llyfr y Mis CBBC ym mis Gorffennaf 2020 ac roedd ar restr fer sawl gwobr fawreddog gan gynnwys Gwobr Arthur C. Clarke am Lyfr Ffuglen Wyddoniaeth y Flwyddyn 2021. Fe enillodd Categori Plant a Phobl Ifanc Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2021. Ail nofel y gyfres yw The Time-Thief (Canongate, 2021).

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811