Ysgoloriaeth Ruth Seavers 2025
Ynglyn â’r Ysgoloriaeth
Cedwir yr ysgoloriaeth hon er cof am Ruth Seavers; awdur ac artist dawnus a gafodd fudd ei hun o gwrs preswyl yn Nhŷ Newydd yn 2016. Mae’r ysgoloriaeth yn bosibl oherwydd y rhodd hael gan fam Ruth, Martha Clarke.
Mae’r ysgoloriaeth yn un gwerth £200, a gellir ei ddefnyddio tuag at gwrs ysgrifennu preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Mae’r ysgoloriaeth benodol hon wedi’i chyfyngu i awduron 16 – 30 oed. Mae yna hefyd £100 ychwanegol ar gael i gynorthwyo gyda chostau cludiant. Bydd y manylion yn cael eu rhannu gyda’r ymgeisydd llwyddiannus ar ôl derbyn yr ysgoloriaeth.
Sut i ymgeisio
I wneud cais am yr ysgoloriaeth hon, cwblhewch y ffurflen gais yma cyn 5.00 pm, dydd Gwener 28 Chwefror 2025. Gwneir penderfyniad o fewn y 7 diwrnod gwaith canlynol. Hysbysir ymgeiswyr dros e-bost.
Os byddai’n well gennych gopi caled o’r ffurflen gais, neu mewn print bras, cysylltwch â ni.
Cyn i chi ymgeisio
Sicrhewch eich bod wedi darllen ein gwybodaeth am Ysgoloriaethau Tŷ Newydd, gan gynnwys Telerau ac Amodau, ar ein gwefan.
Sylwch y bydd angen i chi ofyn am gymorth ariannol cyn archebu cwrs neu encil. Ni ellir ystyried ceisiadau am fwrsariaeth ar ôl i archeb gael ei gwneud.
Os hoffech sgwrs anffurfiol am y broses cyn cyflwyno, neu’n gyffredinol am eich gyrfa fel awdur, mae croeso i chi gysylltu â’n tîm cyfeillgar o staff:
tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522811
Meini Prawf
Nodwch y meini prawf cymhwysedd canlynol:
– Rhaid i ymgeiswyr fod rhwng 16 a 30 oed ar adeg eu cais
– Cyfyngir bwrsariaethau i un y person y flwyddyn, a bydd ymgeiswyr nad ydynt wedi derbyn bwrsariaeth yn y gorffennol yn cael eu blaenoriaethu.
– Mae’r bwrsariaethau hyn ar gyfer awduron i fynychu cwrs ysgrifennu creadigol yn Nhŷ Newydd.