Bwyty Unnos Tŷ Newydd
Llu 11 Ionawr 2016 / / Ysgrifennwyd gan 3

Nos Sadwrn 30 Ionawr am 7.30pm byddwn yn cynnal bwyty unnos yma yn Nhŷ Newydd. Ein cogydd preswyl Tony Cannon fydd yng ngofal y pryd tri cwrs Eidalaidd, dewch â’ch diod eich hun. Am £25 y pen byddwch yn cael bwyd ac adloniant gan y Prifardd Twm Morys a’i delyn. I atgoffa ein hunain o pa mor wych ydi Twm, dyma ddolen i gân o sesiwn a recordiodd i BBC Radio Cymru.

Dyma gyfle arbennig i fwynhau swper yn y tŷ hanesyddol sy’n dyddio’n ôl i’r 15fed ganrif a chartref olaf David Lloyd George. Cliciwch yma am fwy o hanes am y tŷ.

Beth bynnag yr achlysur – dathlu Dydd Santes Dwynwen gyda’ch cymar neu noson hwyliog gyda ffrindiau, peidiwch â cholli’r cyfle i fwynhau pryd bwyd bendigedig yn y lleoliad arbennig hwn. Archebwch eich lle wrth y bwrdd heddiw.