logo-ty-newydd

Cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr

English
  • Tŷ Newydd
    • Tîm Tŷ Newydd
    • Llanystumdwy a’r Ardal leol
    • Y Tŷ
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Oriel
    • Dewch o hyd i ni
  • Ein Cyrsiau
    • Cyrsiau ac Encilion
    • Ysgolion
    • Mathau o Gyrsiau
    • Beth i’w ddisgwyl
    • Cymorth Ariannol
  • Encil Awduron Nant
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Gwneud Gwahaniaeth
    • Prosiectau
    • Tystlythyrau
    • Straeon Llwyddiant
  • Blog
  • Cysylltu
  • Llenyddiaeth Cymru
  • Tŷ Newydd
    • Tîm Tŷ Newydd
    • Llanystumdwy a’r Ardal leol
    • Y Tŷ
      • Hanes
      • David Lloyd George
      • Llety
      • Mynediad
      • Llogi Tŷ Newydd
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Oriel
    • Dewch o hyd i ni
  • Ein Cyrsiau
    • Cyrsiau ac Encilion
    • Ysgolion
    • Mathau o Gyrsiau
    • Beth i’w ddisgwyl
    • Cymorth Ariannol
  • Encil Awduron Nant
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Gwneud Gwahaniaeth
    • Prosiectau
    • Tystlythyrau
    • Straeon Llwyddiant
  • Blog
  • Cysylltu
  • Llenyddiaeth Cymru
  • Llun:  Kristina Banholzer

Cwestiynau Cyffredin

Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin isod os gwelwch yn dda.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, croeso i chi gysylltu â ni ar 01766 522 811 neu e-bostio tynewydd@llenyddiaethcymru.org

COVID-19

Pa gamau sydd wedi eu cymryd i warantu diogelwch gwesteion yn ystod y cyfnod hwn yng nghyd-destun COVID-19?

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi paratoi yn drwyadl ar gyfer eich arhosiad, a gallwch wneud cais i gael gweld yr Asesiad Risg yn ei gyfanrwydd.

Glanhau: Bydd y bwthyn wedi ei lanhau yn drwyadl cyn eich ymweliad, a’r dillad gwelyau wedi eu golchi gan gwmni proffesiynol. Rydym wedi rhoi i gadw nifer o glustogau a blancedi i leihau eitemau ac arwynebeddau diangen. Rydym hefyd wedi bod yn agor y ffenestri cymaint â sydd yn bosib, i annog llif a chylchrediad awyr iach drwy’r bwthyn.

Mae hylif diheintio dwylo a sebon dwylo wedi ei brynu i chi ei ddefnyddio, a gofynnwn yn garedig i chi ddiheintio eich dwylo wrth ddod i mewn i’r bwthyn ac i olchi eich dwylo yn aml. Helpwch eich hun i’r menyg a’r masgiau un defnydd sydd hefyd wedi eu prynu ar gyfer gwesteion, er ein bod yn gofyn i chi fod yn ymwybodol o’r amgylchedd cyn eu defnyddio. Gofynnwn yn garedig i chi adael yr hylif diheintio dwylo i’n gwesteion nesaf. Bydd aelodau staff, os fydd rhai ar y safle, yn gwisgo mygydau wyneb.

Rydym yn dilyn cyngor swyddogol â llygaid barcud ac yn dilyn unrhyw gyhoeddiadau swyddogol gan yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r coronafeirws. Byddwn yn cysylltu â chi os oes angen i chi gael gwybod am unrhyw beth newydd. Rydym hefyd yn gweithredu system olrhain a diogelu (track and trace). Peidiwch anghofio rhoi gwybod i ni os y byddwch yn mynd yn sâl gyda’r firws o fewn pythefnos ar ôl eich arhosiad. Bydd taflenni gwybodaeth ar gael yn y ganolfan i atgoffa ymwelwyr o’r symptomau, ac yn rhoi cyfarwyddiadau am beth y dylech chi ei wneud os fyddwch yn mynd yn sâl yn ystod eich arhosiad.

Oes unrhyw newidiadau i'r broses o gyrraedd?

Oes. Yn groes i’n cyngor amgylcheddol gyfeillgar arferol, gofynnwn i chi deithio atom mewn car. Os nad yw hyn yn bosib, cofiwch ei bod yn rhaid gwisgo mwgwd wyneb ar drafnidiaeth cyhoeddus yn ôl y gyfraith, a’i bod yn ddoeth golchi eich dwylo yn gyson yn ystod eich taith.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn iach cyn eich ymweliad, yn dangos dim symptom o’r coronafeirws nag wedi bod mewn cyswllt ag unrhyw un sydd â’r feirws neu sy’n dangos symptomau. Annogwn chi i geisio hunan ynysu neu ymbellhau yn gymdeithasol cymaint â phosib cyn eich ymweliad i Dŷ Newydd i leihau risg.

 

A gaf i ymweld â siopau, atyniadau a mannau bwyta ag yfed yn ystod fy arhosiad?

I warchod ein ymwelwyr a’n cymdogion, gofynnwn yn garedig i chi ymweld ag unrhyw fannau lleol gyda’r gofal mwyaf un – yn enwedig wrth ymweld â mannau dan do. Ystyriwch wisgo mwgwd wyneb wrth fynd o fan i fan: a chofiwch eu bod yn gwbl orfodol mewn siopau, caffis a thafarndai.

Diheintiwch a golchwch eich dwylo yn gyson, a chofiwch aros ddwy fedr i ffwrdd o eraill.

Awgrymwn eich bod yn darllen canllawiau Croeso Cymru, ac yn arwyddo eu Haddewid  i ymweld â Chymru yn ddiogel.

Os y byddaf yn teimlo'n wael cyn fy ymweliad, ga i ganslo a derbyn ad-daliad?

I sicrhau nad yw ein gwestion yn trosglwyddo’r feirws i eraill, byddwn yn caniatâu trosglwyddo unrhyw ffioedd i’w defnyddio ar gwrs neu encil arall yn 2020/2021 pe byddai raid i westai ganslo, fel a amlinellir yn ein Telerau ac Amodau. Gofynnwn yn garedig i westeion beidio â chymryd mantais annheg o’r cymal hwn, gan ystyried yr effaith andwyol mae’r pandemig yn ei gael ar elusennau a chanolfannau celfyddydol.

Beth sy'n digwydd os fyddaf i yn mynd yn sâl gyda COVID-19 yn ystod fy arhosiad?

Prif symptomau COVID-19 yw:

  • tymheredd uchel: teimlo’n boeth i’r cyffyrddiad ar eich brest neu gefn
  • peswch newydd parhaus: mae hyn yn golygu peswch lot am dros awr, neu 3 neu fwy ffit o beswch mewn 24 awr (os oes peswch arnoch beth bynnag, falle y bydd eich peswch yn waeth)
  • colli neu newid yn eich gallu i flasu neu arogli: mae hyn yn golygu eich bod wedi sylwi na fedrwch flasu nag arogli dim, neu eich bod yn arogli neu flasu’n wahanol i’r arfer

Os y byddwch yn datblygu un o’r symptomau uchod:

  • Ynyswch yn y bwthyn a peidio dod i gyswllt â neb arall.
  • Os ydych chi’n ddigon da i yrru, annogwn ni chi i ddychwelyd gartef yn ddiogel a threfnu i gael prawf.
  • Cysylltwch ag aelod o staff Llenyddiaeth Cymru i roi gwybod fod hyn wedi digwydd.
  • Dylai’r unigolyn adrodd yn ôl ar ganlyniad eu prawf cyn gynted ac y bo modd.
Rwy'n byw â chyflwr meddygol. A yw hi'n ddiogel i mi ymweld â chi?

Mae hyn i chi benderfynu arno’n bersonol. Mae pawb mewn risg o ddal COVID-19, ond mae rhai pobl yn fwy tebygol nag eraill o ddatblygu salwch difrifol o’i ddal.

Mae’r dudalen gwestiynau cyffredin hon yn amlinellu’r camau sydd wedi eu cymryd gennym i leihau’r risg o drosglwyddo’r feirws yn Nhŷ Newydd, ond ni allwn ni addo y bydd ein gwesteion oll yn gwbl ddiogel.

Mae croeso i chi gysylltu am sgwrs i drafod eich pryderon neu i ofyn am fwy o fanylion.

 

Oes rhwystrau teithio o fewn yr ardal leol?

Ar hyn o bryd nid yw awdurdod lleol Gwynedd wedi ei chloi, ac mae rhwydd hynt i’w thrigolion deithio i fannau eraill nad ydynt wedi eu cloi – ac i ymwelwyr ddod i mewn i’r sir. Ond byddwn yn cadw llygad ar y sefyllfa, ac yn eich diweddaru ar unwaith os fydd yn rhaid atal eich ymweliad.

Cyrraedd Nant

Pryd mae amser cyrraedd a gadael?

Gallwch gyrraedd unrhyw bryd ar ôl 3.00 pm, a gofynnwn yn garedig i chi adael erbyn 10.00 am.

Oes gofod parcio ar y safle?

Oes, mae gofod parcio union tu allan i’r bwthyn.

Oes modd i mi gyrraedd ar ôl oriau cau’r swyddfa?

Er ein bod yn argymell eich bod yn cyrraedd rhwng 2.30 pm – 5.00 pm er mwyn i aelod o staff gael eich tywys o amgylch y bwthyn a’r cyfleusterau (er, noder ein bod yn parhau i weithio o adref ar hyn o bryd), mae gennym flwch allwedd ar gyfer gwestion sy’n cyrraedd yn hwyr. Gofynnwn i chi roi gwybod i ni o flaen llaw faint o’r gloch y byddwch yn cyrraedd.

 

 

Alla i gyrraedd ar drafnidiaeth cyhoeddus?

Gallwch. Mae modd cyrraedd Tŷ Newydd ar drên neu ar fws. Gallwch ddarllen mwy am ein lleoliad a sut i’n cyrraedd yma. Holwch ni am opsiynau teithio wrth archebu eich encil.

Adnoddau

Oes cysylltiad Wi-Fi?

Oes, mae Wi-Fi ar gael yn y bwthyn.

Oes sychwr gwallt, haearn a bwrdd smwddio?

Oes

Oes tywelion a chynnyrch ymolchi, neu oes raid i mi ddod â rhai fy hun?

Bydd un tywel bath mawr, ag un tywel dwylo ar gyfer pob gwestai. Dewch â’ch cynnyrch ymolchi eich hun, neu fe allwch weld beth sydd ar gael yn siop fechan Tŷ Newydd.

Fydd angen i mi ddod â deunyddiau ysgrifennu gyda mi?

Bydd, ond os ydych yn anghofio unrhyw beth, peidiwch oedi ein holi yn y swyddfa.

Oes argraffydd yn y bwthyn?

Na. Ond mae cyfleusterau argraffu a chopïo ar gael yn y Ganolfan yn ystod oriau swyddfa am ffi fechan.

Oes bath yn y bwthyn?

Nag oes, dim ond cawod cerdded i mewn fawr.

Oes peiriant golchi dillad?

Dim yn y bwthyn ei hun, ond mae croeso i chi ddefnyddio peiriant golchi dillad y Ganolfan sydd dri drws i lawr o ddrws Nant. Holwch aelodau o staff am fanylion.

Oes ffôn?

Nag oes, a gall signal ffôn fod ychydig yn ysbeidiol ar y safle ar adegau. Mae Wi-Fi ar gael yn y tŷ.

Cyffredinol

Gaf i ddod â fy nghi i’r bwthyn?

Dim ond cŵn tywys gaiff ddod gyda chi i Nant.

Yw arlwyo’n rhan o’r pris?

Na, encilion hunan-arlwyo ydynt. Mae yno gegin fawr gyda phopty, microdon, tostiwr a thegell, yn ogystal â the, coffi a siwgr. Bydd hamper groeso, yn cynnwys llaeth, bara a chacennau cri yn aros amdanoch.

Mae rhewgell fechan ar dop yr oergell. Ond os oes gennych lot o eitemau sydd angen eu rhewi, cysylltwch â ni o flaen llaw i wneud yn siŵr fod digon o le yn rhewgell y Ganolfan ei hun.

Mae sawl siop fechan yng Nghricieth (2 filltir) yn cynnwys becws, siop gig, deli a Spar, ac mae archfarchnadoedd mwy ym Mhorthmadog sydd ond 10 munud mewn car. Mae sawl archfarchnad hefyd yn cludo archebion i Dŷ Newydd.

Yn ystod cyrsiau preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, gall arlwyo fod ar gael am ffi fechan ychwanegol. Cysylltwch â ni i drafod hyn ymhellach.

Yw’r bwthyn yn hygyrch ar gyfer unigolion â phroblemau symudedd, neu unigolion mewn cadeiriau olwyn?

Yn anffodus, oherwydd oedran y bwthyn a’r ffaith ei fod yn adeilad rhestredig Gradd II*, nid oedd modd addasu strwythur yr adeilad yn ystod y gwaith adnewyddu i sicrhau ei fod yn hygyrch. Mae tair gris yn arwain i’r drws blaen, a grisiau cul yn arwain i’r ystafelloedd gwelyau a’r ystafell ymolchi.

Fodd bynnag mae gennym ddwy ystafell hygyrch yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd all gael eu defnyddio ar gyfer encilion arlwyedig yn ystod cyrsiau. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.

Ydych chi’n cynnig cymorth ariannol tuag ar gostau encil?

Weithiau mae gennym ysgoloriaethau ar gael i awduron sydd ar incwm isel. Cysylltwch am fwy o wybodaeth.

Fydd fy ystafell yn cael ei glanhau bob dydd?

Na, ni fydd y tŷ yn cael ei lanhau yn ystod eich arhosiad. Ond cysylltwch â ni i holi, ac fe allwn ni drefnu gwasanaeth glanhau ar gyfer eich arhosiad am ffi fechan.

Fydd modd i mi ddefnyddio gerddi Tŷ Newydd?

Mae hyn yn dibynnu ar beth sy’n digwydd yn Nhŷ Newydd yn ystod eich arhosiad. Ni fydd modd defnyddio’r gerddi yn ystod cyrsiau ysgolion, neu yn ystod huriadau preifat yn Nhŷ Newydd. Bydd aelod o staff yn rhoi gwybod i chi pan fyddwch yn archebu, neu pan fyddwch chi yma, os oes modd defnyddio’r ardd.

Fydd modd i mi ddod i mewn i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ei hun, i ddefnyddio’r llyfrgell neu i gymdeithasu?

Mae hyn yn dibynnu ar beth sy’n digwydd yn y Ganolfan yn ystod eich arhosiad. Ni fydd y prif dŷ ar gael i’w ddefnyddio yn ystod cyrsiau ysgolion, neu yn ystod huriadau preifat yn Nhŷ Newydd. Bydd aelod o staff yn rhoi gwybod i chi pan fyddwch yn archebu, neu pan fyddwch chi yma, os oes modd cael mynediad i’r tŷ.

Fydd staff yn bresennol yn y Ganolfan yn ystod fy arhosiad?

Bydd aelodau staff yn y Ganolfan ar ddiwrnodau’r wythnos rhwng 9.00 am – 5.30 pm, heblaw am Wyliau’r Banc. Bydd rhif ffôn argyfwng ar gyfer aelod o staff ar gael i chi yn ystod eich arhosiad.

Rwyf wedi archebu encil yn Nant, ond bellach ni allaf fynychu. Oes modd i mi gael ad-daliad?

Am wybodaeth am ad-daliadau a chansladau, darllenwch ein telerau ag amodau archebu.

Yr ardal leol

Pa mor bell yw’r bwthyn o’r môr?

Gallwch gerdded i lan y môr o Nant mewn oddeutu 25 munud. Gall staff ddarparu mapiau a gwybodaeth am deithiau ac atyniadau lleol.

 

 

 

 

Oes siop gerllaw?

Mae’r siopau agosaf yng Nghricieth, taith 30 munud ar droed neu 5 munud yn y car. Yno, fe welwch fecws, siop gig, deli a Spar, yn ogystal â sawl caffi a thafarn. Mae Cricieth yn dref fechan ond bywiog ar lan y môr. Am archfarchnad, bydd raid teithio i Borthmadog (5 milltir).

Oes bwyty o fewn pellter cerdded?

Cewch hyd i’r Plu yn Llanystumdwy ei hun, taith gerdded 5 munud o’r bwthyn. Nid yw fel arfer ar agor am ginio, ac mae oriau agor fin nos hefyd yn dymhorol – felly gwiriwch yr oriau agor cyn cerdded i’r pentref. Mae digon o fwytai a thafarndai yng Nghricieth sydd ar agor drwy’r flwyddyn.

Dewislen

  • Cwestiynau Cyffredin

logo-literature-wales

logo-ty-newydd

icon-social-facebook  icon-social-twitter  icon-social-instagram  icon-social-flickr

icon-social-facebook  icon-social-twitter  icon-social-instagram  icon-social-flickr

© Llenyddiaeth Cymru
  • Fy Nghyfrif
  • Telerau ac Amodau Archebu
  • Amodau a Thelerau’r Wefan
  • Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Crëwyd gan Creo
Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW. 01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org

gov-logo

arts-logo