Ein arbenigedd yw trefnu cyrsiau ysgrifennu creadigol preswyl. Rydym yn croesawu grŵp newydd i’n cartref bob wythnos- yn gymysgedd unigryw o unigolion o Gymru, y Deyrnas Unedig, a phob cwr o’r byd. Maent yn treulio amser gyda’i gilydd dan arweiniad awduron proffesiynol, yn cymryd rhan mewn gweithdai a thiwtorialau un-i-un, yn mwynhau darlleniadau, ac yn ymhyfrydu yn awyrgylch hyfryd ac ysbrydoledig Tŷ Newydd. Mae cyfranogwyr yn rhoi help llaw yn y gegin, lle mae prydau cartref blasus yn cael eu paratoi gyda chynhwysion lleol.
Mae ein rhaglen yn cynnwys amrywiaeth eang o gyrsiau preswyl ac encilion – yn y Saesneg a’r Gymraeg – mewn amryw o genres, ffurfiau a themâu, yn cynnwys barddoniaeth, ffuglen, ffeithiol-greadigol, scriptio, ysgrifennu am fyd natur, dylunio, adrodd straeon, ioga a mwy.
Rydym yn dewis ein tiwtoriaid a’n siaradwyr gwadd yn ofalus, gan groesawu rhai o ymarferwyr gorau eu meysydd i Dŷ Newydd pob blwyddyn. Mae rhai o’n cyn-diwtoraid yn cynnwys Carol Ann Duffy, Gillian Clarke, Pascale Petit, Paula Meehan, Mark Cocker, Menna Elfyn, Patrick McGuinness, Kaite O’Reilly, Imtiaz Dharker, Niall Griffiths, Daljit Nagra a Malachy Doyle.
Ein tŷ hanesyddol oedd cartref olaf y cyn Brif Weinidog David Lloyd George ac mae cyffyrddiadau cyfarwydd pensaer Portmeirion, Clough Williams-Ellis yn parhau i fod yn amlwg drwy’r safle. Mewn lleoliad tawel rhwng y mynyddoedd a’r môr, dyma’r man perffaith i encilio iddo a bod yn greadigol.
Cynigiwn gyrsiau pwrpasol ac unigryw i grwpiau addysgiadol, gan weithio gyda thiwtoriaid ac athrawon i lunio’r cwrs perffaith ar gyfer eu grŵp. Mae hefyd yn bosib llogi Tŷ Newydd yn breifat ar gyfer cwrs corfforaethol, gwyliau, neu achlysur arbennig.
I bori trwy ein rhaglen gyrsiau cliciwch yma, neu cysylltwch am wybodaeth bellach.
Caiff Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygiad llenyddiaeth. Am fwy o wybodaeth am ein llywodraethiant, cliciwch yma i ymweld â’r dudalen berthnasol ar wefan Llenyddiaeth Cymru.