Gwneud Gwahaniaeth

Gwaith dydd i ddydd Tŷ Newydd yw darparu cyrsiau ysgrifennu creadigol yn y Gymraeg a’r Saesneg i gynulleidfa o bob oed, gallu a chefndir.

Aiff ein awduron ymlaen i gyhoeddi eu gwaith, i ennill cystadlaethau, i berfformio eu gwaith mewn gwyliau a digwyddiadau, ac i gychwyn dosbarthiadau a grwpiau darllen eu hunain i addysgu eraill.

Mae ein cyrsiau preswyl yn cynnig ymdrochiad llwyr – gyda gweithdai, darlleniadau a chyfarfodydd un-i-un gyda tiwtoriaid yn dechrau ben bore ac yn parhau gyda’r nos. Gyda’n cyrsiau preswyl mi gewch fwynhau pob agwedd o brofiad Tŷ Newydd – ewch draw i’r adran tystlythyrau i weld beth mae hyn yn ei olygu i wahanol ymwelwyr. I ambell un, cael treulio amser yn llyfrgell glyd Tŷ Newydd tan yr oriau mân yn trafod barddoniaeth sy’n gwneud ei profiadau yn arbennig. I eraill, cael codi gyda’r wawr i fynd am dro i lan y môr sy’n aros yn y cof. Beth bynnag fo’ch profiadau, byddwch yn gadael y ganolfan gyda’r sgiliau, syniadau, a’r egni i  barhau gyda’ch gwaith ysgrifennu.

Mae ein cyrsiau undydd yn cynnig profiadau cyffelyb. Ar y cyrsiau hyn cewch flas o’r hyn yr ydym yn ei gynnig, a’r sbardun i fynd ati i ysgrifennu.

Tu hwnt i raglen cyrsiau’r ganolfan, rydym yn trefnu prosiectau yn y gymuned leol, yng Ngwynedd a gogledd Cymru yn ehangach. Prif nod y prosiectau hyn yw defnyddio llenyddiaeth i gael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles y rhai sy’n cymryd rhan. Mae’r nod hwn yn ganolog i waith Tŷ Newydd yn ei gyfanrwydd – a gallwn eich sicrhau y byddwch yn gadael Tŷ Newydd bob amser â gwen ar eich wyneb.