Bardd a hwylusydd o Nigeria yw Theresa Lola, a symudodd i Brydain yn ei harddegau. Hi yw’r Young People’s Laureate for London ar hyn o bryd. Mae’n un o gyn-aelodau rhaglen Beirdd Ifanc y Barbican, ac roedd yn gyd-enillydd Gwobr Farddoniaeth Affricanaidd Ryngwladol Brunel 2018. Fis Ebrill 2018, fe’i comisiynwyd gan Swyddfa Maer Llundain i greu cerdd ar achlysur dadorchuddio cerflun Millicent Fawcett yn Parliament Square, a darllenodd y gerdd hon yn y seremoni. Mae hi wedi hwyluso gweithdai barddoniaeth ym Mhrifysgol St Mary’s, ynghyd ag mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Mae ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, In Search of Equilibrium (Nine Arches Press, 2019) wedi cael ei ddisgrifio fel “moliant godidog i fywyd a’i glwyfau”.
www.theresalola.com
Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi rhaglen newydd o gyrsiau digidol Tŷ Newydd ar gyfer 2020 dan ofal Mererid Hopwood, Llwyd Owen, Gwyneth Lewis a mwy.