Mae gan lenyddiaeth wreiddiau dwfn yn y cysyniad o ryddid mynegiant. Serch hynny, mae gwir ryddid yn ddibynnol ar gydraddoldeb cyfleoedd a chynrychiolaeth deg. O’r herwydd, nod Llenyddiaeth Cymru yw galluogi pawb fyddai’n elwa o fynychu un o gyrsiau Tŷ Newydd i wneud hynny, beth bynnag fo’u incwm neu lefel o brofiad.
Mae awduron ar incwm isel wedi eu hadnabod fel un o dri grŵp penodol y bydd Llenyddiaeth Cymru yn canolbwyntio arnynt gyda’n gwaith. Y ddau grŵp arall yw rheiny o gefndiroedd du, Asiaidd neu leiafrif ethnig, ac unigolion sydd ag anableddau neu salwch (corfforol neu feddyliol). Ein bwriad yw i greu cyfleoedd teg a chyfartal, a sicrhau fod datblygiad proffesiynol ac arloesedd celfyddydol ar gael i bawb
Elusen yw Llenyddiaeth Cymru, ac mae’r holl incwm a gaiff ei godi drwy gyrsiau Tŷ Newydd yn mynd yn ôl i sicrhau fod y ganolfan a’i gweithgareddau yn parhau, ac i ariannu gweithgareddau llenyddol eraill ledled Cymru.
Lansiwyd ein Cyrsiau Digidol yn ystod clo mawr cyntaf 2020, ac maent yn cynnig y cyfle i awduron sydd wedi methu mynychu cyrsiau Tŷ Newydd yn y gorffennol oherwydd dyletswyddau gofal, anableddau a salwch, neu unrhyw reswm arall, i ddod ar gwrs o glydwch eu cartrefi eu hunain. Mae’n cyrsiau digidol yn rhatach na chyrsiau preswyl, ond rydym yn cydnabod nad ydynt yn fforddiadwy i bawb. Felly, byddwn yn cynnig lle (neu lefydd os yn bosib) ar bob cwrs hir digidol i awdur o Gymru na fedr fforddio lle oherwydd amgychiadau incwm isel. I wneud cais am ysgoloriaeth fydd yn galluogi lle am ddim ar gwrs digidol, cysylltwch â ni i holi am ffurflen gais syml.
Noder os gwelwch yn dda y byddwn ni fel arfer yn derbyn nifer fawr o geisiadau, ac yn anffodus ni allwn ddyfarnu ysgoloriaeth i bawb.
Mae encilio yn ein bwthyn, Nant, sydd wedi ei leoli ar safle Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn cynnig amser, gofod ac awyrgylch dawel i ganolbwyntio ar ysgrifennu, ymhell o brysurdeb bywyd bob dydd. Rydym yn cydnabod nad yw ein encilion yn fforddiadwy i bawb, ac y gall teithio i Dŷ Newydd fod yn her ychwanegol i rai o ran y gost. Felly, os na fedrwch fforddio encil yn Nant, cysylltwch â ni i holi am ffurflen gais syml.
Noder os gwelwch yn dda y byddwn ni fel arfer yn derbyn nifer fawr o geisiadau, ac yn anffodus ni allwn ddyfarnu ysgoloriaeth i bawb.
Cynigir ysgoloriaethau ar gyfer unigolion a all fod angen cymorth ariannol, ond mae cyfyngiadau ar y gronfa. Felly cyn gwneud cais am ysgoloriaeth, gofynnir i chi ystyried:
Gallwch wneud cais am gynllun talu mewn rhandaliadau cyn archebu cwrs. Gofynnwn yn garedig i chi dalu 75% o’r gost lawn cyn cyrraedd Tŷ Newydd. Dyma fraslun o gynllun talu ar sail cost ystafell i’w rannu ar gwrs wythnos o hyd arferol (heb y blaendal o £100):
Os yw ffi’r cwrs yn parhau i fod yn rhwystr i chi gofrestru, yna fe’ch gwahoddir i ymgeisio am ysgoloriaeth o rhwng £50 – £200 drwy gysylltu â ni i holi am ffurflen ysgoloriaeth. Mae’n hanfodol cyflwyno cais am ysgoloriaeth cyn cofrestru ar gwrs. Ni allwn ystyried cais am ysgoloriaeth ar ôl i chi gofrestru.
Noder os gwelwch yn dda y byddwn ni fel arfer yn derbyn nifer fawr o geisiadau, ac yn anffodus ni allwn ni ddyfarnu ysgoloriaeth i bawb.
Ychwanegir at y gronfa ysgoloriaethau yn flynyddol drwy fentrau codi arian megis diwrnodau agored, boreau coffi, ac yn y blaen. Gwerthfawrogir haelioni cyfeillion yn fawr, ac os hoffech gyfrannu at y gronfa ysgoloriaeth, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru:
01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org