Cynhelir y cyrsiau preswyl arferol o nos Lun hyd fore dydd Gwener. Ond nodwch fod y cyrsiau addysgol, corfforaethol, ynghyd â’r encilion, y cyrsiau undydd a phenwythnos i gyd yn wahanol, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio manylion pob cwrs yn unigol.
Ar gyrsiau preswyl wythnos o hyd, byddwch yn cyrraedd ar ddydd Llun rhwng 3.00 pm a 5.30 pm ar gyfer swper am 6.30 pm, bydd aelod o staff yn rhannu’r mesuriau iechyd a diogelwch yn ystod y cyfnod hwn. Bydd cyfle i chi ymgartrefu yn eich ystafell a chrwydro gweddill y safle tra fod bwyd yn cael ei baratoi ar eich cyfer. Bydd staff Tŷ Newydd wrth law i arwain preswylwyr newydd o amgylch y tŷ, a bydd y Pennaeth yn cyflwyno gwybodaeth fanwl i chi mewn araith groeso cyn eich pryd bwyd.
Ar y nos Lun, wedi i chi helpu i glirio ar ôl swper, byddwch yn mynd i fyny i’r llyfrgell lle y bydd y tiwtoriaid yn amlinellu strwythur a chynnwys y cwrs. Bydd yna gyfle hefyd i chi ddod i adnabod eich cyd-awduron am yr wythnos.
Mae pob cwrs yn wahanol, ond o ran strwythur arferol, mae’n debyg y byddwch yn treulio’r rhan fwyaf o’ch boreau mewn gweithdai, tra y bydd y prynhawniau yn gyfle i fyfyrio ar yr hyn yr ydych wedi ei ddysgu, yn ogystal ag ysgrifennu a chael sesiynau un-i-un gyda’ch tiwtoriaid. Mae’r mynychwyr yn dueddol o dreulio’r gyda’r nosau yn y llyfrgell, yn sgwrsio a myfyrio ar ddatblygiadau’r dydd.
Gan amlaf, ar y nos Fercher, bydd siaradwr gwadd yn ymuno â’r grŵp amser swper, cyn i chi fynd i’r llyfrgell i fwynhau noson o ddarlleniadau a thrafodaethau.
Fel arfer, mae’r noson olaf yn gyfle i’r holl awduron rannu’r gwaith maent wedi ei gynhyrchu yn ystod yr wythnos; noson o adloniant sydd yn llawn hwyl bob amser.
Ar fore olaf eich cwrs, ar ôl brecwast, bydd pawb yn gadael Tŷ Newydd erbyn 10.00 am – a hynny, gobeithio, yn llawn brwdfrydedd newydd i fynd ati i ysgrifennu.