Cynlluniwyd y bwthyn yn arbennig i ddarparu gofod pwrpasol a thawel i chi ganolbwyntio ar ysgrifennu. Mae Nant yn cynnwys: cegin fawr fodern, dwy ystafell wely ddwbl â gwelyau maint King sydd â desgiau ysgrifennu, ystafell ymolchi gyda chawod cerdded i mewn. Mae Wi-Fi ar gael drwy’r tŷ, ac mae ardal eistedd glyd yn aros amdanoch yn y lolfa ar ôl diwrnod hir o ysgrifennu.
Mae encilion ar gael am arosiadau tair noson (Gwener i Llun), pedair noson (Llun i Gwener), neu saith noson (Llun i Llun). Fel arfer, bydd gan ymwelwyr fynediad i erddi Tŷ Newydd, ein casgliadau llyfrgell eang, a bydd staff Llenyddiaeth Cymru bob amser ar gael i drafod ein rhaglenni a’n cyfleoedd Datblygu Awduron. Hunan-arlwyo yw’r encilion, mae gan y bwthyn gegin fawr fodern gyda phopty, microdon, tegell a thostiwr. Tra fod cyrsiau preswyl yn digwydd yn y ganolfan, gall opsiynau arlwyo fod yn bosib am ffi ychwanegol. Cysylltwch â ni i drafod hyn ymhellach.
Mae’r prisiau, sy’n cychwyn o £300, yn seiliedig ar un person yn aros i sicrhau eich bod yn derbyn y tawelwch a’r heddwch sydd ei angen i ganolbwyntio. Fodd bynnag mae dwy ystafell wely, ac os hoffech archebu lle i ddau bydd posib gwneud hynny am ffi ychwanegol fechan:
Nosweithiau | Pris 1 awdur | Pris 2 awdur |
---|---|---|
Llun – Gwener (4 noson) | £400 | £500 |
Gwener – Llun (3 noson) | £300 | £375 |
Llun – Llun (7 noson) | £650 | £800 |
I archebu encil, gallwch wirio dyddiadau ag archebu arlein isod. Neu gallwch gysylltu â ni i archebu’n uniongyrchol.
Am fwy o fanylion am Encil Awduron Nant, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin.
Dydd Gwener 8 – dydd Llun 11 Medi 2023 / £300
Dydd Gwener 13 – dydd Llun 16 Hydref / £300
Dydd Llun 6 – dydd Llun 13 Tachwedd / £650
Dydd Llun 20 – dydd Gwener 24 Tachwedd / £400
Dydd Llun 27 Tachwedd – dydd Gwener 1 Rhagfyr / £400
Mae Rhagfyr yn gwbl glir ar hyn o bryd.
Cysylltwch â ni os hoffech chi archebu eich lle, neu i holi am ddyddiadau penodol.
Mae’r llyfr archebion ar agor.
Cysylltwch â ni os hoffech chi archebu eich lle, neu i holi am ddyddiadau penodol.