Leusa Llewelyn
Arweinydd Creadigol – Tŷ Newydd
Daeth Leusa yn Bennaeth Tŷ Newydd yng Ngorffennaf 2015, ar ôl symud i Lanystumdwy o Gaerdydd lle y bu’n gweithio i Llenyddiaeth Cymru am bedair mlynedd. Hi sy’n gyfrifol am ofalu bod Tŷ Newydd yn rhedeg yn ddidrafferth o ddydd i ddydd. Ei phrif gyfrifoldebau yw trefnu’r rhaglen flynyddol o gyrsiau, creu partneriaethau, a gofalu fod profiadau ymwelwyr o’u arhosiad yn Nhŷ Newydd yn rhai cofiadwy a gwerthfawr. Mae hi wedi cyhoeddi dwy nofel i bobl ifainc, ac mae’n mwynhau beicio a mynd ar anturiaethau pell ac agos yn ei hamser hamdden.
Miriam Williams
Rheolwr Safle
Ymunodd Miriam â thîm Tŷ Newydd ym Mehefin 2016. Mae wrth ei bodd yn cyfarfod pobol o bob cwr o’r byd fel rhan o’i swydd, ac yn mwynhau sgwrsio dros baned a thôst yn y gegin. Miriam sy’n gyfrifol am drefnu ymweliadau ein mynychwyr ac ymweliadau ysgolion, gan gynnig cyngor o flaen llaw a gofalu fod eu harhosiad yn Nhŷ Newydd yn gyffyrddus. Hi hefyd sydd yng ngofal Cynllun Nawdd Awduron ar Daith. Yn ei hamser sbâr mae’n mwynhau teithio i bedwar ban byd gan ddilyn hynt a helynt tîm pêl-droed Cymru, yn ogystal â helpu gyda thafarn gymunedol y pentref, Tafarn Y Plu.
Tony Cannon
Cydlynydd Arlwyo a Lletygarwch
Wedi ei eni dros y ffin yn Lerpwl, mae Tony wedi byw yng Nghymru ers 30 mlynedd. Yn gogydd ers 35 mlynedd, mae wedi gweithio mewn amrywiaeth eang o geginau yn ystod ei yrfa – o ffatri British Gas i fwyty â seren Michelin. Mae bellach yn gweithio yn Nhŷ Newydd yn arlwyo i grwpiau ac yn darparu ar gyfer eu hanghenion diet penodol, yn ogystal â rhoi arweiniad i wirfoddolwyr yn y gegin gan rannu ambell gyfrinach goginiol yn y broses. Mae Tony’n ddysgwr Cymraeg ac mae’n arbenigo mewn arlwyo ar gyfer dietau arbennigol (e.e. dim glwten, llysieuol, fegan ayyb). Ffaith ddiddorol am Tony: mae wedi cystadlu yn rhyngwladol i Gymru a Phrydain Fawr mewn Saethu Reiffl Galeri.
Mared Roberts
Cydlynydd Creadigol
Daeth Mared i weithio yn Nhŷ Newydd ym Medi 2016; mae’n hi’n gofalu am brosiectau iechyd a lles ar hyd y gogledd ac yn ehangach i Llenyddiaeth Cymru, cynllun Bardd Cenedlaethol Cymru a gwyliau llên, ymysg pethau eraill. Mae Mared yn byw yn ei chynefin yn Arfon, wedi cyfnodau yng Ngheredigion a Chaerdydd. Mae hi’n mwynhau mynd am dro, darllen a threulio amser gyda theulu a ffrindiau ac yn jyglo hyn rhwng ceisio helpu yn y pentref gyda gwahanol bethau a rhedeg tacsi i’w phlant prysur.
O dro i dro, bydd ein cydweithwyr eraill yn gweithio o swyddfa Tŷ Newydd hefyd. Dysgwch ragor am y tîm cyfan, yma.