Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin isod os gwelwch yn dda.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, croeso i chi gysylltu â ni ar 01766 522 811 neu e-bostio tynewydd@llenyddiaethcymru.org
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi paratoi yn drwyadl ar gyfer eich arhosiad, a gallwch wneud cais i gael gweld yr Asesiad Risg yn ei gyfanrwydd.
Lleihau capasiti: Rydym wedi lleihau meintiau’r grwpiau a thynnu’r opsiynau i rannu stafelloedd ac ystafelloedd ymolchi. Bydd gan bob gwestai ei ystafell wely a’i ystafell ymolchi eu hun, ac awgrymwn osgoi defnyddio’r toiledau a gaiff eu rhannu lle fo’n bosib.
Mae posteri ar bob drws yn nodi capasiti bob ystafell gyffredin, ac mae arwyddion yn y ganolfan yn atgoffa ymwelwyr o’r angen i gadw dwy fedr ar wahan bob amser. Bydd nifer yr aelodau staff yn llai hefyd, gyda dim ond staff hanfodol ar y safle yn ystod eich arhosiad.
Glanhau: Bydd y safle wedi ei lanhau yn drwyadl cyn eich ymweliad gan gwmni glanhau proffesiynol, a’r dillad gwelyau wedi eu golchi gan gwmni proffesiynol. Rydym wedi rhoi i gadw nifer o glustogau a blancedi i leihau eitemau ac arwynebeddau diangen. Rydym hefyd wedi bod yn agor y ffenestri cymaint â sydd yn bosib, i annog llif a chylchrediad awyr iach drwy’r bwthyn.
Mae rota wedi ei chreu fel bod aelodau staff yn glanhau yn ddyddiol – yn benodol drysau, switshys golau, canllaw grisiau ag ati.
Mae hylif diheintio dwylo a sebon dwylo wedi ei brynu i chi ei ddefnyddio, a gofynnwn yn garedig i chi ddiheintio eich dwylo wrth ddod i mewn i’r bwthyn ac i olchi eich dwylo yn aml. Helpwch eich hun i’r menyg a’r masgiau un defnydd sydd hefyd wedi eu prynu ar gyfer gwesteion, er ein bod yn gofyn i chi fod yn ymwybodol o’r amgylchedd cyn eu defnyddio. Gofynnwn yn garedig i chi adael yr hylif diheintio dwylo i’n gwesteion nesaf. Bydd aelodau staff, os fydd rhai ar y safle, yn gwisgo mygydau wyneb.
Rydym yn dilyn cyngor swyddogol â llygaid barcud ac yn dilyn unrhyw gyhoeddiadau swyddogol gan yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r coronafeirws. Byddwn yn cysylltu â chi os oes angen i chi gael gwybod am unrhyw beth newydd. Rydym hefyd yn gweithredu system olrhain a diogelu (track and trace). Peidiwch anghofio rhoi gwybod i ni os y byddwch yn mynd yn sâl gyda’r firws o fewn pythefnos ar ôl eich arhosiad. Bydd taflenni gwybodaeth ar gael yn y ganolfan i atgoffa ymwelwyr o’r symptomau, ac yn rhoi cyfarwyddiadau am beth y dylech chi ei wneud os fyddwch yn mynd yn sâl yn ystod eich arhosiad.
Oes. Yn groes i’n cyngor amgylcheddol gyfeillgar arferol, gofynnwn i chi deithio atom mewn car. Os nad yw hyn yn bosib, cofiwch ei bod yn rhaid gwisgo mwgwd wyneb ar drafnidiaeth cyhoeddus yn ôl y gyfraith, a’i bod yn ddoeth golchi eich dwylo yn gyson yn ystod eich taith.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn iach cyn eich ymweliad, yn dangos dim symptom o’r coronafeirws nag wedi bod mewn cyswllt ag unrhyw un sydd â’r feirws neu sy’n dangos symptomau. Annogwn chi i geisio hunan ynysu neu ymbellhau yn gymdeithasol cymaint â phosib cyn eich ymweliad i Dŷ Newydd i leihau risg.
Wrth gyrraedd, dewch drwy ddrws y tŷ haul fel y gallwch weld p’un ai oes staff neu westion eraill yn hel: ceisiwch osgoi ddod i mewn os oes pobl yno eisoes, a chofiwch y rheol dwy fedr. Byddwn yn cymeryd eich tymheredd, a bydd hylif diheintio dwylo ger y drws (ac mewn mannau eraill yn y tŷ) i chi ei ddefnyddio.
Bydd aelodau staff yn gwisgo mwgwd wyneb.
Gall aelod staff ddangos y ffordd i’ch ystafell wely i chi, ond ni fydd modd iddynt eich cynorthwyo i gario eich cês – oni bai fod gwir angen cymorth arnoch oherwydd cyflwr meddygol neu anabledd.
I warchod ein ymwelwyr a’n cymdogion, gofynnwn yn garedig i chi ymweld ag unrhyw fannau lleol gyda’r gofal mwyaf un – yn enwedig wrth ymweld â mannau dan do. Ystyriwch wisgo mwgwd wyneb wrth fynd o fan i fan: a chofiwch eu bod yn gwbl orfodol mewn siopau, caffis a thafarndai.
Diheintiwch a golchwch eich dwylo yn gyson, a chofiwch aros ddwy fedr i ffwrdd o eraill.
Awgrymwn eich bod yn darllen canllawiau Croeso Cymru, ac yn arwyddo eu Haddewid i ymweld â Chymru yn ddiogel.
I sicrhau nad yw ein gwestion yn trosglwyddo’r feirws i eraill, byddwn yn caniatâu trosglwyddo unrhyw ffioedd i’w defnyddio ar gwrs neu encil arall yn 2020/2021 pe byddai raid i westai ganslo, fel a amlinellir yn ein Telerau ac Amodau. Gofynnwn yn garedig i westeion beidio â chymryd mantais annheg o’r cymal hwn, gan ystyried yr effaith andwyol mae’r pandemig yn ei gael ar elusennau a chanolfannau celfyddydol.
Prif symptomau COVID-19 yw:
Os y byddwch yn datblygu un o’r symptomau uchod:
Mae hyn i chi benderfynu arno’n bersonol. Mae pawb mewn risg o ddal COVID-19, ond mae rhai pobl yn fwy tebygol nag eraill o ddatblygu salwch difrifol o’i ddal.
Mae’r dudalen gwestiynau cyffredin hon yn amlinellu’r camau sydd wedi eu cymryd gennym i leihau’r risg o drosglwyddo’r feirws yn Nhŷ Newydd, ond ni allwn ni addo y bydd ein gwesteion oll yn gwbl ddiogel yn enwedig o ystyried y gallai unigolion fod wedi dod ynghyd o wahanol rannau o Gymru ac y byd.
Mae croeso i chi gysylltu am sgwrs i drafod eich pryderon neu i ofyn am fwy o fanylion.
Ar hyn o bryd nid yw awdurdod lleol Gwynedd wedi ei chloi, ac mae rhwydd hynt i’w thrigolion deithio i fannau eraill nad ydynt wedi eu cloi – ac i ymwelwyr ddod i mewn i’r sir. Ond byddwn yn cadw llygad ar y sefyllfa, ac yn eich diweddaru ar unwaith os fydd yn rhaid atal eich ymweliad.
Galli. Rydym yn annog unrhyw un sydd ag ysfa i ysgrifennu i fynychu cwrs yn Nhŷ Newydd. Bydd eich profiad yn rhoi syniad clir i chi o’r hyn mae’n ei olygu i fod yn awdur, a gobeithio y byddwch yn gadael â storfa o sgiliau er mwyn rhoi cychwyn arni. Boed yn fardd sydd am ysgrifennu ar gyfer y sgrîn am y tro cyntaf, neu’n unigolyn sydd yn ymddiddori mewn llên ond erioed wedi ysgrifennu, mae croeso i bawb yn Nhŷ Newydd.
Oes – bydd y rhan fwyaf o’r cyrsiau yn berthnasol i chi, a bydd y rhan fwyaf o’r cyrsiau yn cynnig tiwtorialau un-i-un fydd yn gwthio eich crefft ymhellach eto. Mae sawl awdur cyhoeddedig yn cydnabod fod Tŷ Newydd wedi chwarae rhan unigryw yn eu gyrfa, ac yn dychwelyd ar gyrsiau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae’n cyrsiau i’w gweld ac ar gael i’w harchebu yma.
Mae’r pynciau, themâu, genres, ffurfiau ac arddulliau a gaiff sylw yn rhaglen Tŷ Newydd yn amrywio’n fawr. Rydym yn deall fod mynychu cwrs yn golygu rhoi o’ch amser ac ymrwymo’n ariannol, felly rydym yn eich gwahodd i gysylltu â ni os hoffech drafod hyn ymhellach. Byddwn yn fwy na pharod i’ch cynghori, ac os oes angen, gallwn eich rhoi mewn cyswllt â’r tiwtoriaid.
Fel arfer, cynhelir cwrs preswyl wythnos o hyd o nos Lun hyd fore dydd Sadwrn, ond cymrwch olwg ar ddisgrifiadau unigol pob cwrs er mwyn gwirio manylion eich cwrs chi. Byddwch yn mwynhau gweithdai grŵp, darlleniadau a thiwtorialau unigol. Ond bydd yna ddigonedd o amser hefyd i ganolbwyntio ar eich gwaith eich hun, i gerdded ac i grwydro’r ardal brydferth hon. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am wythnos arferol yn Nhŷ Newydd.
Tra bo’r cyrsiau a gaiff eu tiwtora yn cynnig datblygiad dwys yn eich crefft, mae’n encilion yn eich caniatáu i ysgrifennu ar eich liwt eich hun. Efallai eich bod am gychwyn nofel; gwneud yr ychwanegiadau olaf yna i’ch casgliad o gerddi; neu roi cynnig ar syniad cwbl newydd mewn lleoliad gwahanol, ymhell o brysurdeb bywyd. Ar encil, cewch lonydd a thawelwch i weithio ar eich prosiect eich hun. Rydych wedi eich amgylchynu â natur, felly mae gennych rwydd hynt i fynd i grwydro heb unrhyw gyfyngiadau. Bydd yna gyfle heb os i drafod eich gwaith ag awduron eraill dros swper hefyd pe dymunech. Bydd gennych eich ystafell eich hun, a phrydau cartref wedi’u paratoi ar eich cyfer. Mae’n encilion ar gael i’w harchebu nawr.
Mae yna broses gais ar gyfer dosbarthiadau meistr fel y gallwn ddewis awduron sydd â’r un lefel o brofiad ac arbenigedd. Cymrwch gipolwg ar y dosbarthiadau unigol am y dyddiad cau a’r broses ymgeisio.
Mae nifer y mynychwyr ar y cyrsiau yn dibynnu ar y math o gwrs a’i batrwm. Y mwyafrif rydym yn ei ganiatáu ar gwrs preswyl yw 16, a 14 ar encil.
Chaiff neb eu gorfodi i ddarllen, ond dywedir dro ar ôl tro pa mor fanteisiol yw gwneud hynny. Bydd gwrando ar eraill yn darllen eu gwaith hefyd yn un o’r amryw ffyrdd y byddwch yn cael eich ysbrydoli.
Rydym yn argymell i chi fynychu pob gweithdy. Bydd pob cwrs yn cael ei strwythuro ar ffurf taith gynyddol, felly gallai colli sesiynau olygu eich bod yn methu pwnc cyswllt pwysig. Os nad yw’r gweithdai yn apelio, efallai y byddai encil yn fwy addas i chi.
Chi sydd i ddewis hyn. Weithiau bydd tiwtoriaid yn gosod tasgau lle y bydd disgwyl i chi ysgrifennu darnau o fewn cyfyngiadau amser, ar gyfer gweithdy fel arfer.
Cedwir ein casgliad llenyddol mewn dau leoliad yn y tŷ: yn y brif lyfrgell ar y llawr cyntaf a’r Lolfa Lên ar y llawr isaf. Mae ein casgliad amrywiol yn cynnwys ffuglen (nofelau a straeon byrion), barddoniaeth, bywgraffiadau, hunangofiannau, dramâu a gweithiau ffeithiol-greadigol. Mae croeso i chi fenthyg llyfrau o’r casgliad tra’r ydych yn Nhŷ Newydd. Dylid dychwelyd pob llyfr i’r llyfrgell briodol pan fyddwch yn gadael.
Os oes yna unrhyw ffyrdd penodol y dylech baratoi, byddwn yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw. Weithiau bydd tiwtoriaid yn rhannu rhestr darllen, neu ofyn i fynychwyr ddod ag esiampl o’u gwaith neu waith ar ei ganol gyda nhw.
Gallwch ddewis ystafell sengl neu ystafell i’w rhannu – yn ddibynnol ar argaeledd. Yn anffodus, ni allwn dderbyn ceisiadau ar gyfer ystafelloedd penodol.
Bydd hyn yn dibynnu ar eich lleoliad yn Nhŷ Newydd. Mae yna ystafelloedd ymolchi preifat mewn rhai ystafelloedd, tra bo eraill yn rhannu.
Bydd Tŷ Newydd yn darparu un tywel bath ar eich cyfer. Os bydd angen un ffres arnoch yn ystod eich arhosiad, byddwn yn gofyn yn garedig am gyfraniad o £5.
Oes. Mae yna lifft a mynediad pwrpasol i brif ardaloedd cymunedol y tŷ – ac eithrio’r gegin – ar gyfer rhai sydd â thrafferthion cerdded. Mae gennym lofft wedi ei haddasu yn arbennig wedi ei lleoli yn nhu blaen ein hadeilad allanol, gyferbyn â’r prif dŷ. Mae’r ystafell hon yn addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn a rhai sydd â thrafferthion cerdded, gydag ystafell wlyb arbennig drws nesaf iddi gyda chawod, sinc a thoiled. Am wybodaeth bellach ynglŷn â hygyrchedd cliciwch yma, neu ffoniwch 01766 522 811 i drafod anghenion penodol.
Ydi. Cysylltwch gyda ni am ragor o wybodaeth ac i drafod eich anghenion ymhellach.
Mae yna un cyfrifiadur cymunedol ac argraffydd ar gael i’w defnyddio ar y safle. Rydym yn argymell i chi ddod ag offer ysgrifennu eich hunain, fel y gellir cadw’r cyfrifiadur yn rhydd ar gyfer argraffu a gwaith ymchwil sydyn. Mae yna gysylltiad di-wifr hefyd ar gael drwy’r rhan fwyaf o’r safle.
Oherwydd ein bod wedi’n lleoli yng nghefn gwlad, gall ein signal ffôn fod yn ddiffygiol ar brydiau. Os ydych angen gwneud galwad ffôn yn ystod eich arhosiad gallwch ddefnyddio’r ffôn gyhoeddus. Os yw’ch teulu neu ffrindiau am gael gafael arnoch, gallant ffonio swyddfa Tŷ Newydd (01766 522 811) yn ystod oriau swyddfa (9.30 am-5.30pm).
Mae Tŷ Newydd wedi ei leoli mewn ardal brydferth yng ngogledd-orllewin Cymru. Am fanylion llawn o sut i ddod o hyd i ni, cliciwch yma.
Ar encilion a chyrsiau penwythnos, caiff prydau eu paratoi ar eich cyfer. Ond ar gyrsiau preswyl wythnos a chyrsiau addysgiadol, mae cyfle i chi helpu i baratoi swper un waith yn ystod eich arhosiad. Os nad ydych yn hyderus yn coginio, mae yna bethau eraill y gallwch eu gwneud i helpu – clirio a golchi llestri, gosod y bwrdd ayyb.
Brecwast, cinio a swper yn ddyddiol. Gallwch hefyd helpu eich hun i ffrwythau, bisgedi a byrbrydau eraill yn ystod y dydd. Hunanwasanaeth yw brecwast, gyda digonedd o ddewis; gweinir cinio ar ffurf buffet, a bydd swper gyda’r nos yn cynnig digon o opsiynau i weddu anghenion pawb. Ar gyrsiau wythnos, ysgolion a phrifysgolion, bydd mynychwyr yn helpu i goginio.
Gallwn. Rhowch wybod i ni beth yw eich anghenion pan fyddwch yn archebu eich lle, ac fe wnawn yn siŵr fod yna ddigonedd o opsiynau ar gael ar eich cyfer. Mae gan ein tîm arlwyo flynyddoedd o brofiad yn darparu prydau ar gyfer amrywiaeth ddyrys o anghenion.
Mae Tŷ Newydd yn darparu gwin gyda’r swper cyntaf ar gyrsiau preswyl. Nid oes gennym drwydded i werthu alcohol, ond mae yna nifer o siopau lleol yng Nghricieth sydd yn gwerthu gwin. A dim ond dafliad carreg i ffwrdd mae’r dafarn bentref gyfeillgar, Y Plu yn Llanystumdwy.
Os ydych wedi penderfynu dod ar gwrs, gallwch archebu eich lle yn sydyn a diffwdan arlein ar ein gwefan. Os fyddai well gennych chi wneud ar bapur a thalu gyda siec, cysylltwch â ni am ffurflen gofrestru ac am fwy o wybodaeth.
Pan fyddwch yn archebu eich lle, byddwn yn gofyn am flaendal o £100. Ni fydd yn bosib ad-dalu na throsglwyddo’r blaendal hwn wedi i chi gadarnhau eich lle. Bydd y balans yn ddyledus chwe wythnos cyn cychwyn y cwrs. Os byddwch yn canslo wedi’r dyddiad hwn, ni fydd y balans yn cael ei ad-dalu, oni bai fod eich lle ar y cwrs yn cael ei lenwi. Gallai fod yn fuddiol i chi drefnu eich yswiriant eich hun rhag ofn i’r broblem hon godi. Mae Llenyddiaeth Cymru’n cadw’r hawl i ganslo cwrs hyd at dair wythnos cyn cychwyn y cwrs. Yn yr achosion hyn, gwneir ad-daliad llawn. I ddarllen ein holl amodau a thelerau archebu, cliciwch yma.