Cyrsiau preswyl
Yn Nhŷ Newydd, rydym yn credu fod profiad pob cwrs yn unigryw, ac rydym yn ymfalchïo yn ein lletygarwch a’r awyrgylch gartrefol sydd i’w chael yma. Boed yn gwrs penwythnos neu wythnos o hyd, bydd y tiwtoriaid yn cynnig cyngor ac yn arwain gweithdai i roi cymorth i chi ddatblygu agweddau penodol o’ch ysgrifennu.
Ar gyrsiau arferol, byddwch yn rhannu’r tŷ â hyd at 16 o awduron. Cewch fwynhau gweithdai grŵp, tiwtorialau unigol a darlleniadau. Ond bydd yna hefyd ddigonedd o amser i ysgrifennu’n annibynnol, i fynd i gerdded a chrwydro.
Yn ogystal â hyn, byddwch yn rhoi help llaw i baratoi un pryd nos fel rhan o grŵp yn ystod eich arhosiad.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am wythnos arferol yn Nhŷ Newydd.
Encilion
Mae’n encilion wythnos, yng nghanol prydferthwch cefn gwlad gogledd Cymru, yn cynnig dihangfa greadigol berffaith. Cewch brofi llonyddwch ar deithiau cerdded drwy goedwigoedd ac ar draethau, neu gyfarfod trigolion yr ardal yn nhafarn y pentref. Cewch eich ysbrydoli gan y golygfeydd godidog o Fae Ceredigion, rhannu syniadau dros bryd bwyd, neu eistedd yn ôl ac ymlacio yn y llyfrgell gysurus.
Bydd gan bawb ei ystafell ei hun, a bydd prydau cartref, wedi eu creu â chynhwysion lleol, yn cael eu paratoi ar eich cyfer. Ble bynnag y boch ar eich taith ysgrifennu, byddwn yn darparu amgylchedd creadigol ar eich cyfer, lle y bydd gennych y gofod a’r rhyddid i gyflawni eich nod.
Cyrsiau Undydd
Mae ein cyrsiau undydd yn gyfle perffaith i rai sydd am arbrofi â genre, arddull neu grefft newydd. Darperir cinio ysgafn a lluniaeth fel rhan o gost y cwrs.
Cyrsiau Digidol
Mae’n cyrsiau digidol yn amrywio o ran hyd ac amser, ond fel arfer yn cael eu cynnal dros gyfres o nosweithiau er mwyn ffurfio cwrs byr yn canolbwyntio ar genre neu thema benodol. Caiff ein cyrsiau digidol eu dysgu dros Zoom.
Cyrsiau Blasu Digidol
Mae ein cyrsiau blasu digidol yn gyrsiau byr, tua awr a hanner yr un, sy’n gyfle i gael blas ar yr hyn y gall gwrs yn Nhŷ Newydd ei gynnig. Caiff yr rhain hefyd eu dysgu dros Zoom.