Gwobrau New Welsh Writing 2018
Iau 26 Hydref 2017 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

MAE TY NEWYDD YN AGOR EI DRYSAU AR GYFER YSGRIFENNWYR YSGRIFAU WRTH I GWOBRAU NEW WELSH WRITING 2018 AGOR AR GYFER CEISADAU

Mae New Welsh Review, mewn partneriaeth a Llenyddiaeth Cymru a Thŷ Newydd Newydd, yn falch i gyhoeddi pedwerydd iteriad Gwobrau New Welsh Writing. Gwobr 2018 yw Gwobr Prifysgol Aberystwyth am Gasgliad o Ysgrifau. I gyd-fynd â’r wobr, bydd Pleidlais y Darllenwyr ategol am y casgliad gorau o ysgrifau a gyhoeddwyd erioed yn y Saesneg (gan gynnwys mewn cyfieithiad) hefyd yn cael ei lansio.

Sefydlwyd y Gwobrau, sydd bellach yn eu pedwaredd flwyddyn, i hyrwyddo’r ysgrifennu byr gorau yn Saesneg ac yn flaenorol cafwyd categorïau anffuglennol gyda Gwobr WWF Cymru am Ysgrifennu Natur, a enillwyd gan Eluned Gramich yn 2015 a Gwobr Prifysgol De Cymru am Ysgrifennu Taith, a enillwyd gan Mandy Sutter ym mis Mehefin 2016. Yn 2017 cafwyd dau gategori i’r gwobrau am y tro cyntaf: Gwobr Prifysgol Aberystwyth am Atgofion a Gwobr AmeriCymru am Nofela. Yr enillwyr oedd Catherine Haines (Atgofion), a Cath Barton (Nofela).

Golygydd New Welsh Review Gwen Davies fydd prif feirniad gwobr 2018, gyda chymorth myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth. Mae’r Gwobrau ar agor i unrhyw awdur yn y DU ac Iwerddon a’r rheini sydd wedi’u haddysgu yng Nghymru. Agorodd y gystadleuaeth ar 2 Hydref 2017 a bydd yn cau ar 2 Chwefror 2018. Caiff rhestr hir ei llunio ar gyfer y wobr a’i chyhoeddi ar-lein ar 3 Ebrill 2018. Cyhoeddir y rhestr fer mewn digwyddiad yn Siop Lyfrau Canolfan Celfyddydau Aberystwyth ddydd Iau 3 Mai 2018, a chyhoeddir enw’r enillydd mewn seremoni yng Ngŵyl y Gelli ddydd Gwener 1 Mehefin 2018.

Dywed y beirniad Gwen Davies ‘Fel beirniad byddaf yn edrych am ysgrifau wedi’u hysgrifennu mewn arddull sy’n llenyddol a thrylwyr (yn hytrach nag academaidd) gyda llais personol ac elfennau o newyddiaduraeth ddogfennol presennol. Mae’r canlynol yn enghreifftiau o fy hoff gasgliadau o ysgrifau: No Man’s Land gan Eula Biss, Strange Things: The Malevolent North in Canadian Literature gan Margaret Atwood, a Yoga for People Who Can’t be Bothered to Do It gan Geoff Dyer.’

Y wobr gyntaf yw £1,000, e-gyhoeddi gan New Welsh Review ar eu gwasgnod New Welsh Rarebyte yn 2018-19, a beirniadaeth gadarnhaol gan yr asiant llenyddol blaenllaw Cathryn Summerhayes yn Curtis Brown. Yr ail wobr yw cwrs preswyl wythnos o hyd yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yng Ngwynedd, a’r drydedd wobr yw arhosiad dros benwythnos yn Llyfrgell Gladstone yn Sir y Fflint. Bydd y tri enillydd hefyd yn derbyn tanysgrifiad o flwyddyn i New Welsh Review.

Yn ogystal, bydd New Welsh Review yn ystyried cyhoeddi gwaith yr enwebeion a gymeradwyir yn uchel a’r rhai ar y rhestr fer mewn rhifyn o’r cylchgrawn creadigol New Welsh Reader yngyhyd â ffi safonol gysylltiedig.

Bydd enwebiadau ar gyfer Pleidlais y Darllenwyr ar agor tan ddechrau 2018, a gellir eu hanfon drwy Twitter (#newwelshawards), ebost, neu dudalen facebook New Welsh Review. Cyhoeddir enillydd Pleidlais y Darllenwyr yn ystod digwyddiad cyhoeddi rhestr hir y gwobrau.

Mae fideo Gwahoddiad i Gystadlu i’w weld yma https://vimeo.com/230047799

Ceir detholiad o fideos Pleidlais Darllenwyr New Welsh Review ar dudalen Vimeo New Welsh Review: https://vimeo.com/newwelshreview

I wneud cais am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddog Marchnata Jamie Harris marketing@newwelshreview.com 07812804505