Ysgrifennu am Gariad Cwiar

Llu 17 Gorffennaf 2023 - Gwe 21 Gorffennaf 2023
Tiwtoriaid / Andrew McMillan & Okechukwu Nzelu
Darllenydd Gwadd / Maz Hedgehog
Ffi’r Cwrs / O £575 - £675 y pen
Genre / Ffuglen
Iaith / Saesneg

Cariad yw un o’r pethau anoddaf i’w ysgrifennu amdano – mae yn gyffredinol ond eto’n hynod bersonol, yn haniaethol ac eto yn cael ei ddiffinio yn bendant gan eiliadau bach byrlymus yn y bol. Mae gan gariad cwiar y potensial i fod yn chwyldroadol a dadlennol, i gynnig iachawdwriaeth a chysur, yn ogystal â thorcalon a cholled. Yn yr wythnos draws-genre hon, bydd Andrew McMillan ac Okechukwu Nzelu yn edrych ar wahanol dechnegau a syniadau ar gyfer ysgrifennu am gariad cwiar, gan edrych ar ddeialog, dynameg, naws golygfa a ffyrdd o ysgrifennu am wahanol ffurfiau o agosatrwydd. Bydd y cwrs yn darparu gofod diogel ac anogaeth i awduron newydd a phrofiadol fel ei gilydd.

Tiwtoriaid

Andrew McMillan

Casgliad cyntaf Andrew McMillan, physical (Jonathan Cape, 2015), oedd y casgliad cyntaf erioed o farddoniaeth i ennill Gwobr Llyfr Cyntaf The Guardian. At hynny, enillodd y gyfrol Wobr Casgliad Cyntaf Fenton Aldeburgh, Gwobr Somerset Maugham, Gwobr Eric Gregory a gwobr Northern Writers’ Award. Cyrhaeddodd y rhestr fer am sawl gwobr arall, gan gynnwys Gwobr Dylan Thomas, Gwobr Barddoniaeth Costa, Gwobr Awdur Ifanc y Flwyddyn The Sunday Times 2016, a Gwobr Forward am y Casgliad Cyntaf Gorau. Cafodd y gyfrol ei hargymell gan y Poetry Book Society yn hydref 2015. Yn 2019, cyrhaeddodd rhestr o 25 cyfrol farddoniaeth orau’r 25 mlynedd ddiwethaf gan y Booksellers’ Associaton. Cyhoeddwyd ei ail gasgliad, playtime, ym mis Awst 2018 gan Jonathan Cape; cafodd y llyfr hwn ei argymell gan y Poetry Book Society yn hydref 2018, ac roedd yn Llyfr Barddoniaeth y Mis yn The Observer a The Telegraph, yn un o Lyfrau Barddoniaeth y Flwyddyn The Sunday Times ac fe enillodd wobr y Polari Prize. Cyhoeddwyd ei drydydd casgliad, pandemonium, gan Jonathan Cape yn 2021, ac fe gyhoeddwyd 100 Queer Poems, yr antholeg a olygodd ar y cyd â Mary Jean Chan, gan Vintage yn 2022. Mae physical wedi ei gyfieithu i sawl iaith, gyda rhifyn dwbl o physical & playtime wedi’u cyhoeddi mewn Slofeg ac Almaeneg yn 2022. Mae Andrew yn Athro Ysgrifennu Creadigol yn yr Ysgol Ysgrifennu ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion, ac y mae hefyd yn un o Gymrodorion y Royal Society of Literature.

Okechukwu Nzelu

Mae Okechukwu Nzelu yn awdur o Fanceinion. Yn 2015 derbyniodd Wobr Northern Writers gan New Writing North. Enillodd ei nofel gyntaf, The Private Joys of Nnenna Maloney (Dialogue Books, 2019), Wobr Betty Trask; roedd hefyd ar restr fer Gwobr Desmond Elliott a Gwobr Llyfr Cyntaf Polari, ac ar restr hir Gwobr Portico. Yn 2021, cafodd ei ddewis ar gyfer Big Read Prifysgol Kingston. Cyhoeddwyd ei ail nofel, Here Again Now, gan Dialogue Books ym mis Mawrth 2022. Mae wedi ymddangos sawl gwaith ar BBC Radio 3 a 4, ac mae’n gyfrannwr cyson i gylchgrawn Kinfolk. Mae'n Ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerhirfryn. 

Darllenydd Gwadd

Maz Hedgehog

Awdur a pherfformiwr yw Maz Hedgehog sy’n gweithio rhywle rhwng barddoniaeth a theatr. Cyd-sefydlodd gwmni theatr Ink and Curtain, ac mae eu gwaith yn delynegol ac yn ddychmygus, ac yn aml iawn yn cael ei ysbrydoli gan straeon gwerin a mytholeg. Cyhoeddwyd eu llyfr diweddaraf, The Body in its Seasons, gan Burning Eye Books yn Ebrill 2022. @MazHedgehog 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811