Be’ sy’n denu pobl i ddarllen?
Llu 5 Rhagfyr 2016 / / Ysgrifennwyd gan Gwen Lasarus James

Be’ sy’n denu pobl i ddarllen, tybed? Clawr deniadol? Enw’r awdur? Canmoliaeth rhywun arall am y llyfr? Mi all fod yn gant a mil o bethau. Mae bod yn aelod o glwb darllen yn cynnig pethau gwahanol eto i’r darllenydd, yn gyfle i holi cwestiynau, dod o hyd i atebion, dadlau, cytuno, archwilio a chael paned. Ond mae bod yn aelod o glwb darllen Aled Jones Williams yn brofiad unigryw yn ei hun. Dros fisoedd yr Hydref a Thachwedd, daeth deuddeg unigolyn at ei gilydd yn Nhŷ Newydd ar gyfer cyfres o chwech o glybiau darllen yn y Lolfa Lên.

Nod y clwb arbennig hwn yw creu cymuned o ddarllenwyr, pobl sy’n fodlon rhannu profiadau eu bywydau, boed felys neu chwerw, wrth ddarllen y testun. Mae pawb yn cael y testun o flaen llaw, fel arfer yn un o’r clasuron, fel gwaith Kate Roberts neu Caradog Prichard, a chânt gyfle i’w darllen cyn cyfarfod. Nid trin ‘llenyddiaeth’ fel y cyfryw ond dod o hyd i iaith sy’n goleuo profiad personol; sut mae’r llyfr yn cynnig iaith er mwyn medru dirnad pethau’n gliriach. Weithiau bydd hynny’n digwydd a chaiff pobol eu syfrdanu. Dro arall efallai na fydd y testun yn cynnig dim byd o werth. Y term agosaf i ddisgrifio’r math hwn o glwb darllen yw bibliotherapi a gynigia ffordd newydd o edrych ar lenyddiaeth, ffordd fwy personol, a ffordd sydd yn ehangu gorwelion.

Beth ydw i’n gael allan o’r cylch darllen? Mwynhad! Bûm  yn ddarlithydd mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg am bron i 40 o flynyddoedd. Pleser mwyaf fy mywyd yw – drwy arweiniad Aled – dod i adnabod llenyddiaeth fy’n iaith fy hun a chyfnewid barn gyda eraill.

– Carol Hayes

Felly, boed yn ddau neu dri, neu’n grŵp o ddeg, beth am gasglu eich cyfeillion ynghyd a rhoi tro ar gychwyn eich clwb darllen eich hun? Cyfle gwych i ddarganfod hoff nofel newydd a darllen gwaith gwahanol i’r arfer. Gorau oll os oes paned a chacen ar gael…