logo-ty-newydd

Cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr

English
  • Ein Cyrsiau
    • Ein holl gyrsiau
    • Mathau o Gyrsiau
    • Beth i’w ddisgwyl
    • Cymorth Ariannol
    • Llety
  • Ein Bwthyn Encil
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Tŷ Newydd
    • Hanes
    • Llanystumdwy a’r Ardal leol
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Tîm Tŷ Newydd
    • Ffrindiau Tŷ Newydd
    • Llogi Tŷ Newydd
  • Oriel
  • Gwneud Gwahaniaeth
    • Blog
    • Prosiectau
    • Tystlythyrau
    • Straeon Llwyddiant
  • Cysylltu
    • Dewch o hyd i ni
  • Ein Cyrsiau
    • Ein holl gyrsiau
    • Mathau o Gyrsiau
    • Beth i’w ddisgwyl
    • Cymorth Ariannol
      • Ysgoloriaeth Lenyddol Ruth Seavers
    • Llety
      • Hygyrchedd
  • Ein Bwthyn Encil
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Tŷ Newydd
    • Hanes
    • Llanystumdwy a’r Ardal leol
      • David Lloyd George
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Tîm Tŷ Newydd
    • Ffrindiau Tŷ Newydd
    • Llogi Tŷ Newydd
  • Oriel
  • Gwneud Gwahaniaeth
    • Blog
    • Prosiectau
    • Tystlythyrau
    • Straeon Llwyddiant
  • Cysylltu
    • Dewch o hyd i ni
  • Llun:  Olga Aloa Krulisova

Hygyrchedd

Mae Tŷ Newydd yn adeilad rhestredig Gradd II*, sydd â rhan ohono’n dyddio’n ôl i’r bymthegfed ganrif. Fodd bynnag mae newidiadau yn y tŷ yn 2005 wedi galluogi mynediad i brif rannau’r tŷ hanesyddol a’r safle i ddefnyddwyr cadair olwyn a rhai ag anhawsterau symudedd.

Mae dau faes parcio yn Nhŷ Newydd, a dau safle parcio anabl. O’r prif faes parcio mae llwybr gwastad yn arwain yr holl ffordd at ddrws blaen y tŷ haul, pellter o tua 15 medr. Oddi yno (y llawr gwaelod) gallwch ddefnyddio’r lifft i fynd i’r llawr is lle mae’r ystafell fwyta a’r ystafell lle cynhelir y rhan fwyaf o’r gweithdai. Mae’r lifft hefyd yn rhoi mynediad i’r llawr isaf un lle mae toiled i’r anabl; i’r llawr uchaf lle mae man eistedd a’r llyfrgell. Cynhelir y rhan fwyaf o weithdai grŵp yn yr Ystafell Fwyta neu’r Llyfrgell. O’r llawr gwaelod, gellir cael mynediad i’r ardd drwy ddrysau dwbl.

O’r maes parcio uchaf, mae llwybr pwrpasol yn arwain i’r ystafell wely wedi ei haddasu. Mae yna hefyd lwybr yn arwain yr holl ffordd i ddrws y Dderbynfa, pellter o tua 40 medr.

Mae’n hystafelloedd gwely hygyrch wedi eu lleoli ym mlaen Hafoty – ein hadeilad allanol lled iard o’r tŷ hanesyddol. Mae’r ystafelloedd yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a rhai ag anhawsterau symudedd, ac iddynt ystafell wleb hygyrch drws nesaf gyda chawod, sinc a thoiled. Os fyddwch chi’n dod â chydlynydd personol gyda chi, gallant aros yn un o’r stafelloedd hyn, os nad ydy’r ystafell arall wedi ei harchebu yn barod gan westai arall wrth gwrs.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â mynediad neu pa mor addas yw’r tŷ i’ch gofynion, cysylltwch â ni ar 01766 522811/ tynewydd@llenyddiaethcymru.org

Ystafell ymolchi 7 ac 8
Tuag at y drws
Ystafell 8

Tu allan i’r ystafell

 

I wylio taith o amgylch Tŷ Newydd, ewch i: Taith o amgylch Tŷ Newydd / Tŷ Newydd Tour – YouTube

Dewislen

Cyrsiau ac Encilion
  • Ein holl gyrsiau
  • Mathau o Gyrsiau
  • Beth i’w ddisgwyl
  • Cymorth Ariannol
    • Ysgoloriaeth Lenyddol Ruth Seavers
  • Llety
    • Hygyrchedd

Ein Cyrsiau

Encil Di-diwtor yr haf
Llu 24 Awst 2026 - Gwe 28 Awst 2026
Gweld Manylion
Encil Nofio Mynydd (Medi)
Gwe 4 Medi 2026 - Sul 6 Medi 2026
Tiwtor / Emma Senior (Wild Wales)
Gweld Manylion
Bod yn Ddewr yn eich Ysgrifennu
Llu 7 Medi 2026 - Gwe 11 Medi 2026
Tiwtoriaid / Cynan Jones, James Scudamore
Darllenydd Gwadd / Eimear McBride (Digidol)
Gweld Manylion

logo-literature-wales

logo-ty-newydd

icon-social-facebook  icon-social-twitter  icon-social-instagram  icon-social-flickr

icon-social-facebook  icon-social-twitter  icon-social-instagram  icon-social-flickr

© Llenyddiaeth Cymru
  • Fy Nghyfrif
  • Telerau ac Amodau Archebu
  • Telerau ac Amodau Llenyddiaeth Cymru
  • Hysbysiad Preifatrwydd GDPR
  • Polisi Cwcis
  • Sitemap
  • Cynaladwyedd
  • Llenyddiaeth Cymru
Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW. 01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org

gov-logo

arts-logo