Cartref Pwyliaid Penrhos
Mer 11 Ionawr 2017 / / Ysgrifennwyd gan Gwen Lasarus

Ym mis Mai 2016 daeth criw o wyth o breswylwyr Cartref Pwyliaid Penrhos ger Pwllheli am dro i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy. Roeddent rhwng 70 ac 80 mlwydd oed a’r rhan fwyaf ohonynt wedi dod o Wlad Pwyl i fyw ym Mhenrhos. Hyfryd oedd clywed y dair Iaith; Saesneg, Cymraeg a Phwyleg, yn cael ei siarad yn ystod y dydd.

Cafwyd cyfle i fynd am dro gyda Bethan Wyn Jones o gwmpas yr ardal. Naturiaethwr yw Bethan yn hanu o Fôn yn wreiddiol. Mae hi’n awdur ar nifer o lyfrau am fyd natur, yn gyfrannwr cyson ar raglen Galwad Cynnar BBC Radio Cymru ac yn ysgrifennu colofn wythnosol yn Yr Herald. Cafwyd sgwrs am fyd natur a chyfle i fusnesu o gwmpas gardd Tŷ Newydd sy’n llawn o blanhigion sydd ag elfennau meddyginiaethol naturiol ynddynt. Daeth i’r amlwg bod llawer o blanhigion tebyg yn tyfu yng Ngwlad Pwyl hefyd.

Wele isod engraifft o ddarn creadigol am y daith gan Mr I Krajewski, un o breswylwyr y cartref.

‘The solitude interrupted by the hum of the ‘motorway’ traffic. The cherry tree whose branches were so long and slender, almost like a human head with a good crop of hair. The bush spreading its branches along the green grass like the tentacles of an octopus. The sleep inducing cascade of the River Dwyfor. One could float there for hours and just listen to it. It’s almost like the orchestral concert. The cat who accompanied us in our meanderings’.

gwen-3

Yn ystod y diwrnod cafwyd cyfle i ysgrifennu gyda’r bardd Fiona Owen, un arall sy’n hanu o Fôn ac yn ysgrifennu barddoniaeth, ffuglen a chaneuon gyda Gorwel Owen. Mae hi’n diwtor Ysgrifennu Creadigol, Llenyddiaeth a Dyniaethau gyda’r Brifysgol Agored ac yn arwain gweithdai i Gymdeithas Lenyddol Ucheldre Caergybi.

Dyma ymateb un arall o breswylwyr y cartref, Krystyna Seklecha, i’r diwrnod:

Feeling the atmosphere when one enters, serenity and feeling of calmness. The walk leading to the chore of the river stays in my mind. There was some surprise when we were accompanied by a beautiful tiger cat who followed us all the way. A beautiful lunch and kindness of the ladies that took us through and were listening to our tales about our past and life in Wales. I have been in Wales for nine and a half years and loved every moment of it. Thanks Wales and all who live here.

gwen-1

Ysgrifennodd Sucyma Krowrak am y daith natur…

Green green green the freshness of it. Green succulent leaf clung one to another, the moisture is the glue. Just take that green between your fingers.. squeeze it gently, you have got aroma, do you think this green is the colour of your soul?..your life. I feel so healthy, joyful, light, even the green monster (it exists) it went somewhere.. the only green is smiling wildly around me and above my head…

Bu’n ddiwrnod llwyddiannus iawn a phawb yn canmol. Mae’n amlwg i’r criw fwynhau gan i staff Tŷ Newydd dderbyn gwahoddiad i fynd draw atynt hwythau i Benrhos.