Sgwad ‘Sgwennu: Chwilio am aelodau newydd
Iau 17 Awst 2017 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Allwch chi ddyfalu beth yw’r cysylltiad rhwng… Bethan Gwanas, Martin Daws, Aled Lewis Evans, Liz Ashworth, Linda Newberry, Twm Morys, Mair Wynn Hughes, Eigra Lewis Roberts, John Bilsborough, Iwan Llwyd, Angharad Tomos, Ifor ap Glyn, Jan Mark, Malachy Doyle, Christine Evans, Barry Archie Jones, Karen Owen, Nessa O‘Mahoney, Gwyneth Glyn, Meleri Wyn James, Mererid Hopwood, Tudur Dylan, Gwion Hallam, Frank Cotterel Boyce, Meirion MacIntyre Huws, Phil Carradice, Myrddin ap Dafydd, Gillian Clarke, Caryl Lewis, Francesca Kay, Angela Roberts, Michael Harvey, Sian Northey, Meinir Pierce Jones, Jon Blake, Gwion Hallam, Ed Holden, Dyl Mei, Janice Jones, Jenny Sullivan, The 2 Steves, Tudur Owen, Eurig Salisbury, Esyllt Harker, Will Aaron, Tom Bullough, Debbs Hobbs Wyatt, Ian Rowlands, Rhian Cadwaladr a Gwion Llwyd, Mannon Wyn ac Eilir Pierce, Rachel Trezise, Eurig Salisbury, Guto Dafydd, Huw Aaron, Catherine Fisher, Anthony Horrowitz, Alan Gibbons, Margiad Roberts, Manon Steffan Ros, Hywel Griffiths, Mared Lewis, Mari Gwilym, Eric Charles a Bedwyr Rees?

Dyna restr o’r 63 o awduron sydd wedi arwain Sgwad ‘Sgwennu yng Ngwynedd a Môn dros y ddegawd ddiwethaf.

Cynhelir 3 Sgwad ‘Sgwennu yn y naill sir yn ystod blwyddyn academaidd. Ar gyfartaledd mae oddeutu 8 plentyn yn mynychu pob sesiwn. Mae awdur profiadol yn ymweld â’r criw er mwyn cynnal ymarferion a gweithgareddau a gosod tasgau creadigol.

Dyma enghraifft o waith creadigol gan aelodau Sgwad Sgwennu Gwynedd, Swyn Prysor, Elen Nanlys a Lea Glyn Jones, a grewyd gyda Mererid Hopwood yn ystod Gŵyl Arall 2017.

 

Atal

Un bore rhwng y bariau

Gwelaf waliau

I atal dial ar berthnasau’r cymylau,

Un bore rhwng y bariau

Gwelaf gysgod yn y ffenest,

Un bore rhwng y bariau

Gwelaf ffin, gwelaf ffynnon,

Lle mae’r goron yn ymlacio

Un bore rhwng y bariau

Yng Nghaernarfon

 

Y Wlad

Mae rhwd yn gyrru fy mhryder dros y wlad,

Mae gwenyn yn y gynnau,

A hen ddannedd yn y ddinas,

Ond clywaf

Gân lân rhwng olwynion

I godi’r gadwyn

Mae angen dwylo cryfion

Mae angen crafu pob cyfle

O’r galon.

 

Y Gadwyn Gudd

Drwy lygad cudd y gadwyn

Mae’r gwch goch yn suddo

I’r môr sy’n fur

Rhwng y wlad a’r ceir;

Drwy lygad cudd y gadwyn

Mae corwynt

Mewn cymylau,

Drwy lygad cudd y gadwyn

Mae’r mêl mawr yn aros ei gyfle.

 

Mae Sgwad ‘Sgwennu Gwynedd a Môn yn chwilio am aelodau newydd. Tybed os allwch chi feddwl am blentyn ym mlwyddyn 5 neu 6 yn yr ysgol gynradd sy’n dangos diddordeb mewn ysgrifennu creadigol? Ydy nhw wrth eu boddau yn dychmygu straeon newydd cyffrous, neu’n ysgrifennu cerddi am bob lliw a llun? Beth am eu hannog i fynychu Sgwad ‘Sgwennu?

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: 01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org