logo-ty-newydd

Cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr

English
  • Ein Cyrsiau
    • Ein holl gyrsiau
    • Mathau o Gyrsiau
    • Beth i’w ddisgwyl
    • Cymorth Ariannol
    • Llety
  • Ein Bwthyn Encil
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Encilion Gostyngedig ym Mwthyn Encil Awduron Nant
  • Tŷ Newydd
    • Hanes
    • Llanystumdwy a’r Ardal leol
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Tîm Tŷ Newydd
    • Llogi Tŷ Newydd
  • Oriel
  • Gwneud Gwahaniaeth
    • Blog
    • Prosiectau
    • Tystlythyrau
    • Straeon Llwyddiant
  • Cysylltu
    • Dewch o hyd i ni
  • Ein Cyrsiau
    • Ein holl gyrsiau
    • Mathau o Gyrsiau
    • Beth i’w ddisgwyl
    • Cymorth Ariannol
      • Ysgoloriaeth Lenyddol Ruth Seavers
    • Llety
      • Hygyrchedd
  • Ein Bwthyn Encil
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Encilion Gostyngedig ym Mwthyn Encil Awduron Nant
  • Tŷ Newydd
    • Hanes
    • Llanystumdwy a’r Ardal leol
      • David Lloyd George
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Tîm Tŷ Newydd
    • Llogi Tŷ Newydd
  • Oriel
  • Gwneud Gwahaniaeth
    • Blog
    • Prosiectau
    • Tystlythyrau
    • Straeon Llwyddiant
  • Cysylltu
    • Dewch o hyd i ni
  • Llun:  https://www.tynewydd.cymru/wp-content/uploads//2022/09/061_ffN_0185-1-300x200.jpg

Ein Bwthyn Encil

Croeso i Nant; hen fwthyn Gradd II* sydd wedi ei ail gynllunio’n arbennig ar gyfer encilion ysgrifennu.

Wedi ei leoli ar safle Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, mae’r bwthyn hunan-arlwyo yma yn darparu hafan gyffyrddus a thawel i unrhyw un sydd angen canolbwyntio ar waith ar y gweill, ychwanegu’r manylion olaf un i’ch gwaith ysgrifennu, neu i ailgynnau eich creadigrwydd.

Yn eistedd rhwng y môr a’r mynyddoedd, mae Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd wedi ei lleoli ym mhentref Llanystumdwy yn agos i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Pen Llŷn. Mae milltiroedd o lwybrau arfordirol a choedwigol gerllaw i’w harchwilio ac i ysbrydoli..





























































Roedd yn ofod perffaith i ‘sgwennu. Bwthyn bach clyd a chysurus, a gofod tawel i mi ail-ganfod fy awen greadigol. 






Rhagor o wybodaeth am Nant, ein Bwthyn Encil

Cynlluniwyd y bwthyn yn arbennig i ddarparu gofod pwrpasol a thawel i chi ganolbwyntio ar ysgrifennu. Mae Nant yn cynnwys: cegin fawr fodern, dwy ystafell wely ddwbl â gwelyau maint King sydd â desgiau ysgrifennu, ystafell ymolchi gyda chawod cerdded i mewn. Mae Wi-Fi ar gael drwy’r tŷ, ac mae ardal eistedd glyd yn aros amdanoch yn y lolfa ar ôl diwrnod hir o ysgrifennu.

Mae encilion ar gael am arosiadau tair noson (Gwener i Llun), pedair noson (Llun i Gwener), neu saith noson (Llun i Llun).

Fel arfer, bydd gan ymwelwyr fynediad i erddi Tŷ Newydd, ein casgliadau llyfrgell eang, a bydd staff Llenyddiaeth Cymru bob amser ar gael i drafod ein rhaglenni a’n cyfleoedd Datblygu Awduron.

Hunan-arlwyo yw’r encilion, mae gan y bwthyn gegin fawr fodern gyda phopty, microdon, tegell a thostiwr. Tra fod cyrsiau preswyl yn digwydd yn y ganolfan, gall opsiynau arlwyo fod yn bosib am ffi ychwanegol. Cysylltwch â ni i drafod hyn ymhellach.

 

Prisiau ac Argaeledd

Mae’r prisiau, sy’n cychwyn o £375, yn seiliedig ar un person yn aros i sicrhau eich bod yn derbyn y tawelwch a’r heddwch sydd ei angen i ganolbwyntio. Fodd bynnag mae dwy ystafell wely, ac os hoffech archebu lle i ddau bydd posib gwneud hynny am ffi ychwanegol fechan:

Nosweithiau Pris 1 awdur Pris 2 awdur
Llun – Gwener (4 noson) £500 £600
Gwener – Llun (3 noson) £375 £450
Llun – Llun (7 noson) £750 £900

 

I archebu encil, gallwch wirio dyddiadau ag archebu arlein isod. Neu gallwch gysylltu â ni i archebu’n uniongyrchol.

Am fwy o fanylion am Encil Awduron Nant, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin.

 

Archebu Lle

Argaeledd

Hydref

Dydd Llun 13 – dydd Llun 18

 

Tachwedd

Dydd Gwener 14 – dydd Llun 17

Dydd Gwener 21 – dydd Llun 24

Cysylltwch â ni os hoffech chi archebu eich lle, neu i holi am ddyddiadau penodol.

Dewislen

Ein Bwthyn Encil
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Encilion Gostyngedig ym Mwthyn Encil Awduron Nant

logo-literature-wales

logo-ty-newydd

icon-social-facebook  icon-social-twitter  icon-social-instagram  icon-social-flickr

icon-social-facebook  icon-social-twitter  icon-social-instagram  icon-social-flickr

© Llenyddiaeth Cymru
  • Fy Nghyfrif
  • Telerau ac Amodau Archebu
  • Telerau ac Amodau Llenyddiaeth Cymru
  • Hysbysiad Preifatrwydd GDPR
  • Polisi Cwcis
  • Sitemap
  • Cynaladwyedd
  • Llenyddiaeth Cymru
Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW. 01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org

gov-logo

arts-logo