Gwobrau’r New Welsh Writing 2018
Mer 4 Ebrill 2018 / / Ysgrifennwyd gan New Welsh Review

Mae’n bleser gan New Welsh Review ynghyd â Phrifysgol Aberystwyth gyhoeddi rhestr hir Gwobrau Ysgrifennu Cymru 2018: Gwobr Prifysgol Aberystwyth am Gasgliad o Ysgrifau.

Bydd naw o awduron newydd a phrofiadol, o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddonyn cystadlu am y brif wobr o £1,000. Ymhlith y themâu yng ngwaith yr awduron ar y rhestr hir mae gallu celfyddyd i barhau y tu hwnt i wrthdaro – boed yng Ngogledd Iwerddon, Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd neu yn Sbaen yn ystod y Rhyfel Cartref; sut y gall llenyddiaeth gynnig cysur ac eglurhad i bobl ag anawsterau clyw, a sut mae cloddio wedi effeithio ar genedlaethau niferus mewn un teulu a fu’n gweithio dan ddaear.

Mewn gweithiau eraill, rydym yn edrych ar rôl gyhoeddus yr artist, o gyfnod oes Fictoria, drwy’r swinging Sixties yn Lerpwl, i Athen gyfoes. Fe glywn gan fenyw o ganolbarth Cymru’n trafod ei diagnosis o awtistiaeth, a sut, fel rhywun a fagwyd yno, mae iaith a chanfyddiadau o wreiddiau’n effeithio ar ei hunaniaeth a’i gwahaniaethau niwrolegol. Fe glywn hefyd, drwy gyfres o gipluniau didwyll, am ddiabetes ac iselder. Cawn ddysgu mai Montaigne yw cyndad blogio, ac yn olaf pa mor bwysig yw hi, yn y dyddiau modern hyn, ein bod yn cadw drws agored i’r gwyllt a’r ysbryd y tu hwnt ….

 

Rhestr Hir Gwobr Prifysgol Aberystwyth am Gasgliad o Ysgrifau

Bridget Blankley (Southampton) – In the Shadow of the Mines: A Personal Essay
Michael Cule (High Wycombe) –  What Do I Know
Alex Diggins (Bryste) –  Sea Change: An Argument in Six Parts
Ed Garland (Aberystwyth) –  Fiction as a Hearing Aid
Katya Johnson (Aberystwyth) –  On the Endurance of Art
S.A. Leavesley (Droitwich) –  This < > Room
Nicholas Murray (Presteigne) –  Writing and Engagement
Kerri ní Dochartaigh (Derry, G. Iwerddon) –  That Further Shore
Rhiannon Lloyd-Williams (Machynlleth) –  The Wrong Kind of Happiness

Cyhoeddir y rhestr fer mewn digwyddiad yn Siop Lyfrau Canolfan Celfyddydau Aberystwyth ddydd Iau 3 Mai 2018 rhwng 6.30 a 8.00pm a chyhoeddir enw’r enillydd mewn seremoni yng Ngŵyl y Gelli ddydd Mawrth 29 Mai rhwng 3.00 a 4.00pm.

Noddir Gwobrau 2018 gan Brifysgol Aberystwyth, noddwr craidd a lletywr New Welsh Review. Trefnir y Gwobrau mewn partneriaeth â Curtis Brown, Llyfrgell Gladstone, a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.