logo-ty-newydd

Cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr

English
  • Ein Cyrsiau
    • Ein holl gyrsiau
    • Mathau o Gyrsiau
    • Beth i’w ddisgwyl
    • Cymorth Ariannol
    • Opsiynau Llety
  • Ein Bwthyn Encil
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Tŷ Newydd
    • Hanes
    • Llanystumdwy a’r Ardal leol
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Tîm Tŷ Newydd
    • Ffrindiau Tŷ Newydd
    • Llogi Tŷ Newydd
  • Oriel
  • Gwneud Gwahaniaeth
    • Blog
    • Prosiectau
    • Tystlythyrau
    • Straeon Llwyddiant
  • Cysylltu
    • Dewch o hyd i ni
  • Ein Cyrsiau
    • Ein holl gyrsiau
    • Mathau o Gyrsiau
    • Beth i’w ddisgwyl
    • Cymorth Ariannol
      • Ysgoloriaeth Lenyddol Ruth Seavers
    • Opsiynau Llety
      • Hygyrchedd
  • Ein Bwthyn Encil
    • Cwestiynau Cyffredin
  • Tŷ Newydd
    • Hanes
    • Llanystumdwy a’r Ardal leol
      • David Lloyd George
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Tîm Tŷ Newydd
    • Ffrindiau Tŷ Newydd
    • Llogi Tŷ Newydd
  • Oriel
  • Gwneud Gwahaniaeth
    • Blog
    • Prosiectau
    • Tystlythyrau
    • Straeon Llwyddiant
  • Cysylltu
    • Dewch o hyd i ni
  • Llun:  Olga Aloa Krulisova

Hygyrchedd

Mae Tŷ Newydd yn adeilad rhestredig Gradd II*, sydd â rhan ohono’n dyddio’n ôl i’r bymthegfed ganrif. Fodd bynnag mae newidiadau yn y tŷ yn 2005 wedi galluogi mynediad i brif rannau’r tŷ hanesyddol a’r safle i ddefnyddwyr cadair olwyn a rhai ag anhawsterau symudedd.

Mae dau faes parcio yn Nhŷ Newydd, a dau safle parcio anabl. O’r prif faes parcio mae llwybr gwastad yn arwain yr holl ffordd at ddrws blaen y tŷ haul, pellter o tua 15 medr. Oddi yno (y llawr gwaelod) gallwch ddefnyddio’r lifft i fynd i’r llawr is lle mae’r ystafell fwyta a’r ystafell lle cynhelir y rhan fwyaf o’r gweithdai. Mae’r lifft hefyd yn rhoi mynediad i’r llawr isaf un lle mae toiled i’r anabl; i’r llawr uchaf lle mae man eistedd a’r llyfrgell. Cynhelir y rhan fwyaf o weithdai grŵp yn yr Ystafell Fwyta neu’r Llyfrgell. O’r llawr gwaelod, gellir cael mynediad i’r ardd drwy ddrysau dwbl.

O’r maes parcio uchaf, mae llwybr pwrpasol yn arwain i’r ystafell wely wedi ei haddasu. Mae yna hefyd lwybr yn arwain yr holl ffordd i ddrws y Dderbynfa, pellter o tua 40 medr.

 

Mae’n hystafelloedd gwely hygyrch wedi eu lleoli ym mlaen Hafoty – ein hadeilad allanol lled iard o’r tŷ hanesyddol. Mae’r ystafelloedd yn cynnwys:

  • Gwlau trydanol sy’n codi/gostwng
  • Desgiau trydanol sy’n codi/gostwng
  • Lamp sy’n gweithio gyda chyffyrddiad
  • Bleinds/llenni trydanol, sy’n gallu cael eu rheoli hefo teclyn llaw
  • Seinydd tân sydd hefyd yn fflachio yn ogystal â seinio, os oes tân
  • Dyfeisiadau agor/cau pwrpasol ar y drysau
  • Dyfeisiadau cortyn coch ar gyfer argyfyngau (system nurse call)

Mae’r ystafell wlyb yn cynnwys: 

  • Sedd yn y gawod
  • Amryw o ganllawiau a bariau i helpu hefo symuedd
  • Dyfeisiadau cortyn coch ar gyfer argyfyngau (system nurse call)

Mae gennym hefyd ddyfeisiadau/offer eraill ar gael i fod o gymorth i chi yn ystod eich arhosiad, gan gynnwys: 

  • Dyfeisiadau larwm personol sydd yn gallu hysbysu aelod o staff mewn argyfwng (gweithio drwy fotwm / app ffôn)
  • Dyfais bach sy’n gallu cael ei osod yn ystafell y gwestai ac un yn ystafell y cymhorthydd personol, fel cloch drws ffrynt, os oes angen cymorth arnynt a dim signal ffôn

 

Mae’r ddwy ystafell yn addas ar gyfer ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a rhai ag anhawsterau symudedd, ac iddynt ystafell wleb hygyrch drws nesaf gyda chawod, sinc a thoiled. Os fyddwch chi’n dod â chydlynydd personol gyda chi, gallant aros yn un o’r stafelloedd hyn, os nad ydy’r ystafell arall wedi ei harchebu yn barod gan westai arall wrth gwrs.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â mynediad neu pa mor addas yw’r tŷ i’ch gofynion, cysylltwch â ni ar 01766 522811/ tynewydd@llenyddiaethcymru.org

Ystafell ymolchi 7 ac 8
Tuag at y drws
Ystafell 8

Tu allan i’r ystafell

Taith fideo 360

Dyma daith fideo 360 o lwybrau hygyrch Tŷ Newydd yn ogystal â’n dwy ystafell wely hygyrch:

Dewislen

Cyrsiau ac Encilion
  • Ein holl gyrsiau
  • Mathau o Gyrsiau
  • Beth i’w ddisgwyl
  • Cymorth Ariannol
    • Ysgoloriaeth Lenyddol Ruth Seavers
  • Opsiynau Llety
    • Hygyrchedd

Ein Cyrsiau

Encil Folding Rock: ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau
Llu 9 Tachwedd 2026 - Gwe 13 Tachwedd 2026
Tiwtoriaid / Kathryn Tann, Robert Harries
Darllenwyr Gwadd / Liam Harrison (Digidol), Rachel Ashenden (Digidol)
Gweld Manylion
Cwrs Preswyl Barddoniaeth Traws-Genedl: Teithio Rhwng Lleisiau
Llu 16 Tachwedd 2026 - Gwe 20 Tachwedd 2026
Tiwtoriaid / Hanan Issa, Peter Mackay
Darllenydd Gwadd / Menna Elfyn
Gweld Manylion
Encil Di-diwtor y Gaeaf
Llu 15 Chwefror 2027 - Gwe 19 Chwefror 2027
Gweld Manylion

logo-literature-wales

logo-ty-newydd

icon-social-facebook  icon-social-twitter  icon-social-instagram  icon-social-flickr

icon-social-facebook  icon-social-twitter  icon-social-instagram  icon-social-flickr

© Llenyddiaeth Cymru
  • Fy Nghyfrif
  • Telerau ac Amodau Archebu
  • Telerau ac Amodau Llenyddiaeth Cymru
  • Hysbysiad Preifatrwydd GDPR
  • Polisi Cwcis
  • Sitemap
  • Cynaladwyedd
  • Llenyddiaeth Cymru
Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW. 01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org

gov-logo

arts-logo