Dydd Miwsig Cymru 2019
Gwe 8 Chwefror 2019 / , , / Ysgrifennwyd gan Llenyddiaeth Cymru

Heddiw, dydd Gwener 8 Chwefror 2019, yw #DyddMiwsigCymru. Mae’r diwrnod yn dathlu pob math o gerddoriaeth Cymraeg ac mae’n hawdd ymuno yn yr hwyl a dod o hyd i hen ffefrynnau a cherddoriaeth newydd drwy ddilyn trywydd yr hashnod ar y cyfryngau cymdeithasol.

Y llynedd, fe restrwyd ein hoff ganeuon, felly eleni dyma gyflwyno casgliad o hoff artistiaid rhai o staff Llenyddiaeth Cymru, gan drafod gogwydd llenyddol eu gwaith:

“Llynedd ar Ddydd Miwsig Cymru dyma nodi mai fy hoff gân oedd Mynyddoedd gan Lleuwen Steffan, a fy mod yn byw mewn anobaith pur nad oedd ar gael yn unlle. Blwyddyn yn ddiweddarach, ymddangosodd y gân ar ei halbwm newydd Gwn Glân, Beibl Budr. Hwrê!

Blodau Gwylltion

Eleni, ei chwaer, Manon Steffan Ros, sy’n cael sylw. Dyma un o brif lenorion y Gymru Gymraeg gyfoes, gyda’i nofel Llyfr Glas Nebo (Y Lolfa, 2018) yn cipio’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, ac yn cipio calonnau darllenwyr Cymru bob yn un. Drwy ei dull cynnil, bron fel barddoniaeth, mae Manon yn llwyddo i greu darluniau a chymeriadau byw sy’n aros gyda’r darllenwyr am amser hir. Gyda’i phrosiect cerddorol, Blodau Gwylltion, mae’r un peth yn wir. Pe ddeuech o un o’i pherfformiadau heb alaw yn troi a throelli yn eich pen fe fyddwn i’n synnu; pe deuech o’r perfformiad heb ryw gorddi emosiynol yn eich bol fe fyddwn yn credu nad ydych yn ddim mwy na bloc o rew.”

Leusa Llewelyn

______________________________________________________________________________________________________

“Rhai o fy hoff ganeuon i yw Rebel gan Mellt; Peirianwaith Perffaith gan Ani Glass; Tan gan Twin Field; Ble’r Aeth yr Haul gan Yr Ods ac Nid Yw’r Peiriannau’n Cymryd Drosodd gan Machlynlleth Sound Machine.”

Bob Gelsthorpe

______________________________________________________________________________________________________

“Heb os, un o fy hoff artistiaid i ydi Steve Eaves. Fyth ers i mi ddarganfod casgliad Ffoaduriaid yn y Brifysgol (o’n i braidd yn hwyr i’r parti) dwi wedi cael fy hudo gan eiriau ac alawon Steve Eaves a’i Driawd. Dyna rhai o’r gigiau gorau i mi eu profi hefyd, â’r gynulleidfa ym mhob un bron yn gwbl, gwbl dawel wrth iddo chwarae. Dwi wrth fy modd hefo’i farddoniaeth hefyd, yn enwedig casgliad Jazz yn y Nos. Mae barddoniaeth yn llifo drwy’i gerddoriaeth, fel y mae Elis Dafydd yn ei gyflwyno mewn pennod yn y gyfrol Rhywbeth i’w Ddweud, wrth gyfeirio at y gân Cocaine.

Gan fod dymuniad Leusa wedi dod yn wir y llynedd, dwi hefyd am ddymuno ar ddu a gwyn y bydd Steve Eaves yn rhyddhau albwm newydd yn fuan. Dwi’n croesi pob dim y daw’r dymuniad hwnnw yn wir.”

Miriam Williams

______________________________________________________________________________________________________

“Cân Lleuwen Steffan Bendigeidfran am adeiladu pontydd rhwng gwledydd sydd yn fy nharo rhwng fy nwy lygaid pob tro dwi’n gwrando arni hi. Mae hi’n gân boliticaidd dawel, ei naws yn delynegol, a’i neges yn drawiadol o syml ac onest o gofio’r rheswm pam wnaeth Lleuwen ei hysgrifennu hi.

Pan glywodd canlyniad refferendwm 2016 aeth ati i ysgrifennu’r geiriau yma;

Bendigeidfran’, mae’r wlad ma’n sâl,

Dy hen ynys yn codi wal,

Cadw allan, a’n cadw ni i fewn

Mae angen pontydd rhyfeddol

Alla i feddwl am sawl un ddylai wrando ar eiriau doeth Lleuwen.”

Gwen Lasarus James

______________________________________________________________________________________________________

“Cerddoriaeth Geraint Jarman oedd trac sain fy arddegau….disgos yn yr ysgol, gwrando ar ei albymau cynnar Gobaith Mawr y Ganrif, Tacsi i’r Tywyllwch, Hen Wlad fy Nhadau, Gwesty Cymru a Diwrnod i’r Brenin. Casetiau a CDs wedi eu hychwanegu at y casgliad dros y blynyddoedd. Doeddwn i ddim yn cael mentro i ddociau Caerdydd i Glwb y Casablanca…rhy ifanc yn ôl fy rhieni. Cyngerdd cofiadwy yn Eisteddfod Ryng-gol yng Nghaerdydd 1982; dawnsio’n wyllt i Crogi Llygoden mewn gig ar y Pier yn Aberystwyth.

Fy 10 uchaf? Hawdd. Fy hoff gân? Ddim cweit mor hawdd, mae gennyf ddwy, sef Gwesty Cymru, a Hiraeth am Kylie. Bocs set? Tic. Cyfrol hunangofiannol Twrw Jarman? Tic.

Flynyddoedd yn ddiweddarach deuthum ar draws ei gyfrolau barddoniaeth. Yn anffodus dim ond un o’r tri chasgliad o’i eiddo sydd gennyf, sef Cerbyd Cydwybod. Byddwn wrth fy modd pe allwn brynu copi o’r cyfrolau prin Eira Cariad a Cherddi Alfred Street.

Ac mae cerddoriaeth a chaneuon Jarman wedi parhau fel trac sain fy mywyd, ynghyd â llawer o’m cyfoedion. Ymhlith uchafbwyntiau’r blynyddoedd diwethaf mae:

Sesiwn Cerddi Caerdydd yn Llên y Lli / Bay Lit 2002 yng nghanolfan The Point ar Sgwâr Mount Stuart, Bae Caerdydd. Jarman yn darllen ei waith ynghyd â’r Prifardd Emyr Lewis, Grahame Davies, a’r diweddar Titch Gwilym yn cyfeilio.

Jarman yn darllen ei waith yn lansiad Map Caerdydd Danddaearol, noson a drefnwyd gan Bwyllgor Apêl Penylan, Cyncoed, Parc y Rhath, a Cathays, er budd Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018. Mae’r map yn cynnwys cyfeiriad at Alfred Street, stryd yn ardal y Rhath a goffeir yng nghyfrol Geraint Jarman, Cerddi Alfred Street (1976).

Ac uchafbwynt Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 i mi oedd gig Jarman yng Nghanolfan y Mileniwm. Mae’r trac sain i fy mywyd yn parhau.

#daldydir”

Petra Bennett

______________________________________________________________________________________________________

“Mae’r berthynas rhwng miwsig a geiriau yn un hynod agos, ac yn ymestyn nôl cyn cof. Dros y blynyddoedd mae sawl un o’n hawduron blaenllaw wedi bod ynghlwm â nifer o fandiau Cymraeg. Yn yr 1980au roedd Bardd Cenedlaethol Cymru Ifor ap Glyn yn canu gyda’r band Treiglad Pherffaith, Twm Morys yw prif leisydd Bob Delyn a’r Ebillion, ac mae’r llenor a’r cerddor Gwyneth Glyn yn swyno gwrandawyr dros y byd gyda’i llais hudolus.

Wrth wrando ar gerddoriaeth rap Americanaidd yn fy arddegau, dechreuais glywed cysylltiad rhwng y ffurf hynod grefftus hon o fynegiant llafar gyda’r gynghanedd. Ar y pryd ymddengys yn gwbl amhosib egluro’r cysylltiad hwn yn ffurfiol – pwy fyddai’n gallu cymharu Dic Jones a Chuck D?

Yn ffodus, ymhen rhai blynyddoedd, dyma feirdd ifainc cyffrous fel Aneirin Karadog yn llwyddo i bontio’r diwylliannau. Roedd e’n ennill cadeiriau tra’n rapio gyda’r band Genod Droog. Uchafbwynt i mi oedd clywed Aron Elias o’r band Pep Le Pew yn rapio’n gelfydd darnau o Farwnad Llywelyn ap Gruffudd yn un o’n digwyddiadau ni yn Eisteddfod Meifod 2003.

Erbyn hyn mae’r cyswllt rhwng y grefft lafar o rapio â’n traddodiad barddol wedi ei hen sefydlu, ac roedd y bîtbocsiwr gwych, Ed Holden (neu Mr Phormula) yn Fardd y Mis ar Radio Cymru yn ddiweddar.”

Lleucu Siencyn

______________________________________________________________________________________________________

“Dwi’n caru cerddoriaeth, ac er mod i’n mwynhau pob math o ganeuon, y rhai sydd wir yn aros yn y cof i mi ydi rhai lle mae’r geiriau’n canu. Gan hynny, ‘dwi am ddweud mai Iwan Huws yw fy hoff lenor sy’n gerddor (neu gerddor sy’n lenor?). Mae rhai o eiriau caneuon Cowbois Rhos Botwnnog a’i ganeuon solo yn ennyn ymateb corfforol ynof fi – tyndra ar y galon, dwrn yn yr awyr, cwlwm yn y stumog, dagrau, gwên – gymaint, os nad mwy na rhai o fy hoff nofelau a cherddi traddodiadol.

A cyn ichi ddadlau mod i’n plygu’r meini prawf, mae gen i ddau wrth-ddadl. Fe enillodd Bob Dylan y Wobr Nobel am lenyddiaeth, ac mae Iwan Huws wedi cael Ysgoloriaeth i Awduron Llenyddiaeth Cymru i weithio ar nofel i blant, a dwi’n reit siŵr y bydd y geiriau hynny’n canu hefyd.”

Branwen Llewellyn

______________________________________________________________________________________________________

Ymunwch â holl ddiweddariadau Dydd Miwsig Cymru trwy ddefnyddio #DyddMiwsigCymru  ar FacebookTwitter, ac Instagram.