Denni Turp yn ennill Cystadleuaeth Farddoniaeth Celfyddydau Anabledd Cymru 2019
Gwe 8 Mawrth 2019 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Daeth y cyhoeddiad mai enillydd Cystadleuaeth Farddoniaeth Celfyddydau Anabledd Cymru 2019 yw Denni Turp, gyda’i cherdd, ‘Triawd y Gorffennol: above Braich Quarry’.

Y thema ar gyfer y gystadleuaeth eleni oedd Ar yr Ymylon, neu On the Edge, a croesawyd unrhyw ddehongliad ar y thema gan yr ymgeiswyr.

Dywedodd y beirniad, Dominic Williams: “Cefais fy synnu gyda safon yr holl geisiadau eleni, daeth nifer fawr o gerddi arbennig i law.”

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gael noddi’r gystadleuaeth drwy gynnig gwobr i’r enillydd – sef taleb £300 tuag at unrhyw gwrs ysgrifennu creadigol yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn 2019.

Dywedodd Leusa Llewelyn, Pennaeth Tŷ Newydd: “Braf oedd noddi’r gystadleuaeth arbennig yma unwaith eto eleni. Da oedd clywed sylwadau cadarnhaol gan y beirniad sydd yn awgrymu y bydd cystadleuaeth gref yn bodoli am nifer o flynyddoedd eto. Edrychwn ymlaen at groesawu Denni i Dŷ Newydd, ac at ddarllen y gwaith buddugol.”

Am ragor o wybodaeth am Gystadleuaeth Farddoniaeth CAC, ewch i: www.disabilityartscymru.co.uk