logo-ty-newydd

Cofrestrwch ar gyfer ein Cylchlythyr

English
  • Ein Cyrsiau
    • Ein holl gyrsiau
    • Mathau o Gyrsiau
    • Beth i’w ddisgwyl
    • Cymorth Ariannol
    • Llety
  • Ein Bwthyn Encil
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Encilion Gostyngedig ym Mwthyn Encil Awduron Nant
  • Tŷ Newydd
    • Hanes
    • Llanystumdwy a’r Ardal leol
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Tîm Tŷ Newydd
    • Llogi Tŷ Newydd
  • Oriel
  • Gwneud Gwahaniaeth
    • Blog
    • Prosiectau
    • Tystlythyrau
    • Straeon Llwyddiant
  • Cysylltu
    • Dewch o hyd i ni
  • Ein Cyrsiau
    • Ein holl gyrsiau
    • Mathau o Gyrsiau
    • Beth i’w ddisgwyl
    • Cymorth Ariannol
      • Ysgoloriaeth Lenyddol Ruth Seavers
    • Llety
      • Hygyrchedd
  • Ein Bwthyn Encil
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Encilion Gostyngedig ym Mwthyn Encil Awduron Nant
  • Tŷ Newydd
    • Hanes
    • Llanystumdwy a’r Ardal leol
      • David Lloyd George
    • Cwestiynau Cyffredin
    • Tîm Tŷ Newydd
    • Llogi Tŷ Newydd
  • Oriel
  • Gwneud Gwahaniaeth
    • Blog
    • Prosiectau
    • Tystlythyrau
    • Straeon Llwyddiant
  • Cysylltu
    • Dewch o hyd i ni
  • Llun:  Kristina Banholzer

Cwestiynau Cyffredin

Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin isod os gwelwch yn dda.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, croeso i chi gysylltu â ni ar 01766 522 811 neu e-bostio tynewydd@llenyddiaethcymru.org

Cyrraedd Nant

Pryd mae amser cyrraedd a gadael?

Gallwch gyrraedd unrhyw bryd ar ôl 3.00 pm, a gofynnwn yn garedig i chi adael erbyn 10.00 am.

Oes gofod parcio ar y safle?

Oes, mae gofod parcio union tu allan i’r bwthyn.

Oes modd i mi gyrraedd ar ôl oriau cau’r swyddfa?

Oes, mae yna flwch diogel yn cadw allwedd Nant – byddwn yn rhannu’r cod hefo chi o flaen llaw.

 

 

Alla i gyrraedd ar drafnidiaeth cyhoeddus?

Gallwch. Mae modd cyrraedd Tŷ Newydd ar drên neu ar fws. Gallwch ddarllen mwy am ein lleoliad a sut i’n cyrraedd yma. Holwch ni am opsiynau teithio wrth archebu eich encil.

Adnoddau

Oes cysylltiad Wi-Fi?

Oes, mae Wi-Fi ar gael yn y bwthyn.

Oes sychwr gwallt, haearn a bwrdd smwddio?

Oes.

Oes tywelion a chynnyrch ymolchi, neu oes raid i mi ddod â rhai fy hun?

Bydd un tywel bath mawr i bob gwestai, ac un tywel dwylo a bathmat yn yr ystafell ymolchi.

Mae yna eitemau ymolchi Faith in Nature yn y bwthyn: shampŵ, conditioner a sebon corff. Mae yno hefyd sebon dwylo yn yr ystafell ymolchi a ger sinc y gegin.

Fydd angen i mi ddod â deunyddiau ysgrifennu gyda mi?

Bydd, ond os ydych yn anghofio unrhyw beth, peidiwch oedi ein holi yn y swyddfa.

Oes argraffydd yn y bwthyn?

Na. Ond mae cyfleusterau argraffu a chopïo ar gael yn y Ganolfan yn ystod oriau swyddfa am ffi fechan.

Oes bath yn y bwthyn?

Nag oes, dim ond cawod cerdded i mewn fawr.

Oes peiriant golchi dillad?

Dim yn y bwthyn ei hun, ond mae croeso i chi ddefnyddio peiriant golchi dillad y Ganolfan sydd dri drws i lawr o ddrws Nant. Holwch aelodau o staff am fanylion.

Oes ffôn?

Nag oes, a gall signal ffôn fod ychydig yn ysbeidiol ar y safle ar adegau. Mae Wi-Fi ar gael yn y tŷ.

Oes teledu?

Oes, mae teledu Smart yno, ond nid yw wedi ei gysylltu ag unrhyw ariel, felly dim ond drwy apiau megis BBC iPlayer, Amazon Prime neu Netflix y bydd modd i chi wylio rhaglenni.

Mae yno hefyd ddyfais Alexa.

Cyffredinol

Gaf i ddod â fy nghi i’r bwthyn?

Er ein bod ni’n caru cŵn, dim ond cŵn tywys gaiff ddod gyda chi i Nant yn anffodus.

Yw arlwyo’n rhan o’r pris?

Na, encilion hunan-arlwyo ydynt. Mae yno gegin fawr gyda phopty, microdon, tostiwr a thegell, yn ogystal â the, coffi a siwgr. Bydd hamper groeso, yn cynnwys llaeth, bara a chacennau cri yn aros amdanoch.

Mae rhewgell fechan ar dop yr oergell. Ond os oes gennych lot o eitemau sydd angen eu rhewi, cysylltwch â ni o flaen llaw i wneud yn siŵr fod digon o le yn rhewgell y Ganolfan ei hun.

Mae sawl siop fechan yng Nghricieth (2 filltir) yn cynnwys becws, siop gig, deli a Spar, ac mae archfarchnadoedd mwy ym Mhorthmadog sydd ond 10 munud mewn car. Mae sawl archfarchnad hefyd yn cludo archebion i Dŷ Newydd.

Yn ystod cyrsiau preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, gall arlwyo fod ar gael am ffi fechan ychwanegol. Cysylltwch â ni i drafod hyn ymhellach.

Yw’r bwthyn yn hygyrch ar gyfer unigolion â phroblemau symudedd, neu unigolion mewn cadeiriau olwyn?

Yn anffodus, oherwydd oedran y bwthyn a’r ffaith ei fod yn adeilad rhestredig Gradd II*, nid oedd modd addasu strwythur yr adeilad yn ystod y gwaith adnewyddu i sicrhau ei fod yn hygyrch. Mae tair gris yn arwain i’r drws blaen, a grisiau cul yn arwain i’r ystafelloedd gwelyau a’r ystafell ymolchi.

Fodd bynnag mae gennym ddwy ystafell hygyrch yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd all gael eu defnyddio ar gyfer encilion arlwyedig yn ystod cyrsiau. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.

Ydych chi’n cynnig cymorth ariannol tuag ar gostau encil?

Ydym. Mae gennym gronfa fechan er mwyn lleihau’r gost. Cysylltwch am fwy o wybodaeth.

Fydd fy ystafell yn cael ei glanhau bob dydd?

Na, ni fydd y tŷ yn cael ei lanhau yn ystod eich arhosiad. Ond cysylltwch â ni i holi, ac fe allwn ni drefnu gwasanaeth glanhau ar gyfer eich arhosiad am ffi fechan.

Fydd modd i mi ddefnyddio gerddi Tŷ Newydd?

Mae hyn yn dibynnu ar beth sy’n digwydd yn Nhŷ Newydd yn ystod eich arhosiad. Ni fydd modd defnyddio’r gerddi yn ystod cyrsiau ysgolion, neu yn ystod huriadau preifat yn Nhŷ Newydd. Bydd aelod o staff yn rhoi gwybod i chi pan fyddwch yn archebu, neu pan fyddwch chi yma, os oes modd defnyddio’r ardd.

Fydd modd i mi ddod i mewn i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ei hun, i ddefnyddio’r llyfrgell neu i gymdeithasu?

Mae hyn yn dibynnu ar beth sy’n digwydd yn y Ganolfan yn ystod eich arhosiad. Ni fydd y prif dŷ ar gael i’w ddefnyddio yn ystod cyrsiau ysgolion, neu yn ystod huriadau preifat yn Nhŷ Newydd. Bydd aelod o staff yn rhoi gwybod i chi pan fyddwch yn archebu, neu pan fyddwch chi yma, os oes modd cael mynediad i’r tŷ.

Fydd staff yn bresennol yn y Ganolfan yn ystod fy arhosiad?

Bydd aelodau staff yn y Ganolfan ar ddiwrnodau’r wythnos rhwng 9.00 am – 5.30 pm, heblaw am Wyliau’r Banc. Bydd rhif ffôn argyfwng ar gyfer aelod o staff ar gael i chi yn ystod eich arhosiad.

Rwyf wedi archebu encil yn Nant, ond bellach ni allaf fynychu. Oes modd i mi gael ad-daliad?

Am wybodaeth am ad-daliadau a chansladau, darllenwch ein telerau ag amodau archebu.

Yr ardal leol

Pa mor bell yw’r bwthyn o’r môr?

Gallwch gerdded i lan y môr o Nant mewn oddeutu 25 munud. Gall staff ddarparu mapiau a gwybodaeth am deithiau ac atyniadau lleol.

 

 

 

 

Oes siop gerllaw?

Mae’r siopau agosaf yng Nghricieth, taith 30 munud ar droed neu 5 munud yn y car. Yno, fe welwch fecws, siop gig, deli a Spar, yn ogystal â sawl caffi a thafarn. Mae Cricieth yn dref fechan ond bywiog ar lan y môr. Am archfarchnad, bydd raid teithio i Borthmadog (5 milltir).

Oes bwyty o fewn pellter cerdded?

Mae digon o fwytai a thafarndai yng Nghricieth sydd ar agor drwy’r flwyddyn. Gallwch gerdded yno o fewn 30 munud.

Dewislen

Ein Bwthyn Encil
  • Cwestiynau Cyffredin
  • Encilion Gostyngedig ym Mwthyn Encil Awduron Nant

logo-literature-wales

logo-ty-newydd

icon-social-facebook  icon-social-twitter  icon-social-instagram  icon-social-flickr

icon-social-facebook  icon-social-twitter  icon-social-instagram  icon-social-flickr

© Llenyddiaeth Cymru
  • Fy Nghyfrif
  • Telerau ac Amodau Archebu
  • Telerau ac Amodau Llenyddiaeth Cymru
  • Hysbysiad Preifatrwydd GDPR
  • Polisi Cwcis
  • Sitemap
  • Cynaladwyedd
  • Llenyddiaeth Cymru
Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Cricieth, Gwynedd, LL52 0LW. 01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org

gov-logo

arts-logo