• Llun:  Kristina Banholzer
Sgwad ‘Sgwennu Tŷ Newydd gyda Casia Wiliam
Iau 13 Chwefror 2020 / / Ysgrifennwyd gan Tŷ Newydd

Dydd Sul, 2 Chwefror daeth criw o bobl ifanc brwdfrydig i lyfrgell Tŷ Newydd i gasglu ynghyd syniadau i’w rhoi yn eu hysgrifennu. Casia Wiliam, ein cyn-Fardd Plant Cymru oedd yn eu harwain y tro hwn.

Wedi i’r plant gyflwyno eu hunain, gan ddweud eu henw, o ble maent yn dod a beth yw eu hoff fwyd, eisteddasant i wrando ar straeon byrion. Yna, cyflwynodd Casia Wiliam y ffurf ysgrifennu o lên meicro a darllenwyd un enghraifft gan Sian Northey.

Daeth y plant ynghyd i wrando’n astud ar stori Saesneg gan Roald Dhal am ddynes a laddodd ei gŵr efo coes oen wedi’i rewi, a chael plismyn i fwyta’r dystiolaeth – roedd hi’n stori ychydig yn arswydus, ond yn ddoniol ar yr un pryd. Braf oedd gweld y bobl ifanc yn mwynhau enghraifft wych o arddull unigryw Roald Dahl.

Wedi i’r plant gael cyfle i sgwrsio am sut i fynd ati i ysgrifennu stori drwy drafod arddull, cymeriadu, plot, iaith ac yn bennaf oll, teitl i’r campwaith. Daeth cyfle iddynt fynd ati i ysgrifennu eu stori eu hunain. Mentrodd pump o’r bobl ifanc i ddarllen eu straeon yn uchel i bawb gael eu clywed. Cafodd pawb ddarn o deisen i ddathlu ar y diwedd.

Cadwch lygad ar ein gwefannau am ddyddiad ein Sgwad ‘Sgwennu nesaf.