Cwrs Carlam: y Gynghanedd

Llu 25 Mawrth 2024 - Gwe 29 Mawrth 2024
Tiwtoriaid / Manon Awst & Rhys Iorwerth
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Cynganeddu
Iaith / Cymraeg

Dewch i Dŷ Newydd i ganfod cyfrinach hen, hen grefft. Bydd ein cwrs cynganeddu preswyl poblogaidd yn rhoi’r cyfle i chi ymdrochi yn llwyr yn hud y gynghanedd, a dysgu cymaint â mewn sawl tymor o ddosbarthiadau nos mewn ychydig ddyddiau yn unig.

Bydd y cwrs wedi ei deilwra i ddau grŵp dan ofal dau diwtor: y cyntaf i’r rhai sy’n newydd i’r gynghanedd i gael dod i ddeall y rheolau syml cyn dechrau rhoi cig ar yr asgwrn. Byddwch yn gadael y cwrs yn rhugl eich cwpledi, os nad englynion – ac yn barod am y cam nesaf. A bydd ail grŵp i gynganeddwyr mwy medrus, i’ch gwthio i’r cam ychwanegol hwnnw sydd ei angen i gychwyn cystadlu mewn Eisteddfodau, mentro gyda’ch barddoniaeth, ac edrych yn ddyfnach i mewn i gymhlethdodau hudolus cerdd dafod.

Gan ddefnyddio casgliad llyfrgell hynod Tŷ Newydd, byddwn yn edrych ar waith rhai o ddewiniaid y gynghanedd i’n hysbrydoli. Bydd digon o gyfle i drafod barddoniaeth a’r traddodiad barddol gyda’ch cyd-gynganeddwyr, y tiwtoriaid ac ymwelwyr arbennig. A byddwn yn eich rhoi ar ben ffordd gyda chyfleoedd i barhau gyda’ch dysgu ar ôl i’r cwrs orffen.

Cwrs mewn partneriaeth â Chymdeithas Barddas.

“Cwrs gwych, erioed wedi dysgu cymaint mewn cyn lleied o amser” – un o feirdd Cwrs Cynganeddu Preswyl blaenorol.

“Prif fantais [cwrs preswyl o’r fath] yw bod y preswylwyr oll wedi cyflawni’r hyn a fyddai wedi cymryd oddeutu dwy flynedd drwy fynychu dosbarthiadau nos, gan fod y tiwtoriaid yno gyda nhw ddydd a nos, a chan bod yr effaith ‘big brother house’ cynganeddol yn golygu nad oedd lle i neb ddianc rhag y gynghanedd” – Aneirin Karadog, Cadeirydd Barddas yn dilyn cwrs preswyl 2016

Tiwtoriaid

Manon Awst

Artist a bardd yw Manon Awst. Fel artist, mae’n creu cerfluniau a gwaith safle-benodol wedi eu plethu â naratif ecolegol ac mae wedi arddangos ei gwaith dros Gymru, Lloegr a’r Almaen. Fel bardd, bu hi'n aelod craidd o Gywion Cranogwen ac yn fwy diweddar sefydlodd grŵp perfformio TAIR gyda Beth Celyn a Judith Musker Turner. Rhwng hyn, y Talwrn ac Ymryson y Beirdd, bu’n perfformio ei cherddi mewn gwyliau, theatrau a thafarndai dros Gymru gyfan. Dechreuodd Manon ar ei thaith i ddysgu’r gynghanedd ar gwrs preswyl tebyg iawn i’r un hwn yn Nhŷ Newydd.

Rhys Iorwerth

Bardd, awdur a chyfieithydd o Gaernarfon ydi Rhys Iorwerth. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2011, Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2023, a Gwobr Farddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2015. Mae wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau, yn farddoniaeth, pamffledi, rhyddiaith, a chyfieithiadau. Yn 2025, darlledwyd ei ffilm Gwlad Bardd yn y sinemâu ac ar S4C. Mae’n un o sylfaenydd nosweithiau barddoniaeth byw Bragdy’r Beirdd, ac mae’n dysgu dosbarth cynganeddu yng Nghaernarfon. 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811