Encil: Golygu a Chyflwyno Cerddi

Llu 29 Gorffennaf 2024 - Gwe 2 Awst 2024
Tiwtoriaid / Zoë Brigley & Rhian Edwards
Darllenydd Gwadd / Abeer Ameer (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £675 - £725 y pen
Genre / Barddoniaeth
Iaith / Saesneg

Ydych chi’n ystyried cyflwyno eich barddoniaeth i gylchgrawn am y tro cyntaf? Ydych chi’n gobeithio deall a chrefftio eich llais creadigol yn well? Hoffech chi ddysgu sut i greu corff o waith cryno a chydlynol? Ymunwch â ni mewn wythnos addysgiadol, ysgogol ac adnewyddol o farddoni a golygu gyda’r beirdd Zoë Brigley a Rhian Edwards – cyd olygyddion barddoniaeth Seren, a dwy sydd wedi ennill gwobrau niferus.

Yn ystod yr wythnos, bydd Zoë a Rhian yn cynnal gweithdai grŵp ar olygu eich cerddi, dod â’ch barddoniaeth ynghyd yn gasgliadau neu bamffledi, a byddant wrth law i gynnig cyngor ar y dulliau gorau i gynnig eich gwaith i gylchgronau a chyhoeddwyr i’w ystyried. Bydd tiwtorial un-i-un gyda Zoë a Rhian yn cael ei gynnig i bob cyfranogwr a byddwch yn cael eich gwahodd i anfon hyd at ddwy gerdd yr un cyn y cwrs i gael sylwadau a chyngor golygyddol.

Tiwtoriaid

Zoë Brigley

Bardd Americanaidd-Gymreig yw Zoë Brigley sydd yn gweithio fel Darlithydd Cynorthwyol ym Mhrifysgol Talaith Ohio. Mae’n awdur nodedig sydd wedi derbyn Gwobr Eric Gregory ar gyfer y beirdd Prydeinig gorau dan 30, ac fe gyrhaeddodd restr hir Gwobr Dylan Thomas. Hi yw Golygydd cylchgrawn Poetry Wales a Golygydd Barddoniaeth gwasg Seren, ar y cyd â Rhian Edwards. Mae ganddi dair cyfrol farddoniaeth, sydd wedi eu hargymhell gan y Poetry Book Society: The Secret (2007), Conquest (2012), a Hand & Skull (2019) oll wedi eu cyhoeddi gan Bloodaxe. Ymysg ei chyfrolau byrion eraill y mae Aubade After a French Movie (Broken Sleep Books, 2020), Into Eros (Verve, 2021) ac fe gyhoeddwyd ei chyfrol o ysgrifau, Notes from a Swing State: Writing from Wales and America, gan Parthian yn 2019. Yn 2021, fe gyd-olygodd y flodeugerdd 100 Poems to Save the Earth (Seren, 2021) gyda Kristian Evans, a hi hefyd yw golygydd cylchgrawn Modron, sy’n ysgrifennu am yr argyfwng ecolegol. 

 

Rhian Edwards

Mae Rhian Edwards yn awdur a golygydd barddoniaeth gyda gwasg Seren, ac mae hi wedi ennill sawl gwobr am ei gwaith. Enillodd ei chasgliad cyntaf Clueless Dogs (Seren, 2012) Wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2013 ac fe gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Forward am y Casgliad Cyntaf Gorau 2012. Enillodd Rhian Wobr John Tripp am Farddoniaeth Lafar hefyd, gan ennill gwobr y Beirniaid a’r Gynulleidfa. Roedd ail gasgliad Rhian, The Estate Agent’s Daughter (Seren, 2020), yn Argymhelliad Darllen ar gyfer Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol 2020. Mae ei cherddi wedi ymddangos yn y Guardian, Times Literary Supplement, Poetry Review, New Statesman, Spectator, Poetry London, Poetry Wales, Arete, London Magazine, Stand a Planet. 

 

Darllenydd Gwadd

Abeer Ameer (Digidol)

Mae Abeer Ameer yn fardd o gefndir Iracaidd, sy'n byw yng Nghaerdydd. Hyfforddodd fel deintydd yn Llundain gan ddatblygu diddordeb mewn trin cleifion sy’n dioddef o orbryder a meddylgarwch.  Mae ei cherddi yn cael eu hysbrydoli'n aml gan straeon am Irac ac maent yn cynnwys amrywiaeth o themâu personol a gwleidyddol. Maent wedi eu cyhoeddi mewn sawl lle ar-lein ac mewn cyhoeddiadau print gan gynnwys: Acumen, Poetry Wales, Magma, New Welsh Reader, The Rialto a The Poetry Review. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, Inhale/ Exile, gan Seren ym mis Chwefror 2021 a cyrhaeddodd restr fer Categori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2022.  

 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811