Barddoniaeth: Gwenu yn Llygaid y Storm

Llu 13 Mai 2024 - Gwe 17 Mai 2024
Tiwtoriaid / Inua Ellams & Hanan Issa
Darllenydd Gwadd / Momtaza Mehri (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £625 - £725 y pen
Genre / Barddoniaeth
Iaith / Saesneg

Mewn cyfnodau o anhawster emosiynol, straen, trawma a galar, mae bodau dynol yn cael eu denu dro ar ôl tro at gysur barddoniaeth. Mae’r grym a geir mewn barddoniaeth – yn ei chyfuniad cryno o eiriau, ei throsiadau gweledol a’i mesursu strwythuredig – yn gallu ein helpu i fynegi ein hunain yn well wrth i ni wneud synnwyr o’r byd a’n lle ynddo. Ond yn ystod cyfnodau mor anodd, oes lle i chwarae yn dal i fod? Oes lle i lawenydd? Sut gallwn ni chwistrellu hiwmor, ysgafnder a phleser i feysydd trallod?

Ymunwch ag Inua Ellams a Hanan Issa ar daith llawn goleuni at ddefnyddio chwarae fel gweithred o wrthsafiad. Gydag enghreifftiau, cyngor ymarferol, ymarferion ysgrifennu, trafodaethau dwys ac awgrymiadau tyner, bydd y tiwtoriaid yn eich tywys tuag at ddarganfod ffyrdd newydd o greu darnau am gyfnodau anodd, gan wenu ar y storm.

Tiwtoriaid

Inua Ellams

Ganed Inua Ellams yn Nigeria, ac mae’n fardd, dramodydd a pherfformiwr, yn artist graffig ac yn ddylunydd ac yn sylfaenydd i: The Midnight Run (profiad cerdded trefol celfyddydol gyda’r nos.); The Rhythm and Poetry Party (The R.A.P Party) sy’n dathlu barddoniaeth a hip hop; a Poetry + Film / Hack (P+F/H) sy’n dathlu Barddoniaeth a Ffilm. Mae Hunaniaeth, Dadleoli a Thynged yn themâu sy’n codi dro ar ôl tro yn ei waith, lle mae’n ceisio cymysgu’r hen a’r newydd: dull traddodiadol Affricanaidd o adrodd straeon ar lafar, gyda barddoniaeth gyfoes, paent gyda phicsel, gwead â fector. Mae ei lyfrau wedi’u cyhoeddi gan Flipped Eye, Akashic, Nine Arches, Penned In The Margins, Oberon & Methuen.  

 

Hanan Issa

Mae Hanan Issa yn fardd, gwneuthurwr ffilmiau ac artist Cymreig-Iracaidd. Mae ei chyhoeddiadau’n cynnwys ei chasgliad barddoniaeth My Body Can House Two Hearts a Welsh [Plural]: Essays on the Future of Wales. Perfformiwyd ei monolog fuddugol With Her Back Straight yn y Bush Theatre fel rhan o’r Hijabi Monologues. Mae’n rhan o dîm awduron cyfres arobryn Channel 4, We Are Lady Parts. Mae Hanan yn gyd-sylfaenydd y gyfres meic agored Where I’m Coming From. Hi oedd derbynnydd comisiwn Ffilm Cymru / BBC Cymru yn 2020 ar gyfer ei ffilm fer The Golden Apple. Hi yw Bardd Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd ac yn Gymrawd Rhyngwladol Gŵyl y Gelli yn 2022

Darllenydd Gwadd

Momtaza Mehri (Digidol)

Mae Momtaza Mehri yn fardd ac yn ymchwilydd annibynnol sy’n gweithio ar draws beirniadaeth, cyfieithu, arferion ymchwil gwrthddisgyblaethol, addysg a radio. Mae’n gyn Fardd Llawryfog Pobl Ifanc Llundain ac yn Gymrawd Frontier-Antioch ym Mhrifysgol Antioch (Los Angeles). Mae hi wedi cwblhau preswylfeydd yn Eglwys Gadeiriol St. Paul a’r Llyfrgell Brydeinig, ac wedi ennill Gwobr Eric Gregory. Cafodd Bad Diaspora Poems (Penguin), sef ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, ei ryddhau yn haf 2023. 

 

 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811