Mae Mererid Hopwood yn Athro yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth. Enillodd Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol. Ei chyhoeddiad diweddaraf yw cyfrol o gerddi, Mae (Cyhoeddiadau Barddas, 2025). Bu’n Fardd Plant Cymru ac mae wedi cyhoeddi cerddi a nofelau i blant. Mae wedi mwynhau cyfleoedd niferus i drafod llenyddiaeth mewn cymdeithasau a dosbarthiadau ledled Cymru, gan fentro weithiau i gymryd rhan mewn gwyliau llenyddol dramor. Mae’n talyrna ac ymrysona ac yn aelod o Ysgol Farddol Caerfyrddin. Bu hefyd yn Athro Barddol i raglen Pencerdd Llenyddiaeth Cymru i feithrin lleisiau newydd ym myd y gynghanedd. Derbyniodd Fedal Glyndŵr, Medal Dewi Sant y Prif Weinidog a Medal Gŵyl y Gelli am ei chyfraniad i lenyddiaeth. Hi yw’r Archdderwydd cyfredol ac Ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru.