Mae Cathryn Summerhayes yn asiant llenyddol gyda Curtis Brown. Cyn hynny bu’n gweithio yn WME, lle llwyddodd i sicrhau rhestr amrywiol o gleientiaid proffil uchel gan gynnwys yr awduron nofelau cyffro trosedd sydd wedi gwerthu miliynau o gopïau Chris Whitaker a Lucy Foley, Dr Adam Kay sy’n adnabyddus am This is Going to Hurt (Picador, 2018), Anita Rani, Lisa Howells, Nicci Cloke, Shappi Khorsandi, Ella Mills (Deliciously Ella), Mark Watson, Naomi Wood, Lucy Rose, Kirsty Logan, Susan Fletcher, Viv Groskop, Tiffany Murray, artist llyfrau lliwio mwyaf poblogaidd y byd, Johanna Basford, Grace Dent, Syr Ranulph Fiennes, a llawer mwy. Mae Cathryn hefyd yn gweithio gydag awduron adnabyddus yn yr Unol Daleithiau, fel Lisa Taddeo, Jennifer Coolidge ac Ashley Flowers drwy'r asiantaethau partner UTA a CAA. Enwyd Cathryn yn Asiant Llenyddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Llyfrau Prydain 2019. Mae ar Bwyllgor The Book Society ac mae’n gweithio gyda Llenyddiaeth Cymru a Gŵyl y Gelli, ac yn ei bywyd blaenorol ym maes digwyddiadau a chysylltiadau cyhoeddus, bu’n gweithio ar wobrau proffil uchel fel Gwobr Booker.
Geiriau o Gyngor gan Asiant Llenyddol: Drafftio, golygu, cyflwyno
Mae’r cwrs hwn bellach yn llawn. Os am ychwanegu’ch enw at y rhestr aros, cysylltwch â ni ar tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522 811
–
Mae’r wythnos hon wedi’i chynllunio’n ofalus i sicrhau eich bod chi’n derbyn y cyfuniad perffaith o ysbrydoliaeth greadigol a chymhelliant proffesiynol. Ydych chi’n chwilio am gynrychiolaeth llenyddol? Gyda dyddiad cyflwyno sy’n prysur agosáu? Neu angen cefnogaeth olygyddol? Dyma’r encil perffaith i chi gyrraedd eich nod personol.
Dan arweiniad asiant llenyddol profiadol a chlodwiw, Cathryn Summerhayes (Curtis Brown), cewch gyfle i fynychu gweithdai grŵp bywiog ac addysgiadol, sesiynau tiwtora un-wrth-un, yn ogystal ag adeiladu eich cymuned o ffrindiau llenyddol. Bydd y sesiynau’n canolbwyntio ‘n bennaf ar hunan-olygu eich gwaith, datblygiad proffesiynol, awgrymiadau ar sut i ennyn diddordeb asiant, egluro’r broses gyhoeddi a mwy. Bydd eich asiant preswyl hefyd yn eich gwahodd i anfon pecyn cyflwyno (sampl hyd at 2,000 o eiriau o’ch gwaith creadigol, crynodeb, a llythyr cyflwyno i asiant) ymlaen llaw er mwyn derbyn adborth personol a phenodol ar eich gwaith.
Mae ein encilion, sydd wedi eu harlwyo yn llawn, hefyd yn rhoi amser a gofod i chi ysgrifennu, darllen ac ymlacio. Wedi’i leoli mewn lleoliad heddychlon yn amgylchedd godidog gogledd-orllewin Cymru, cewch eich ysbrydoli gan y golygfeydd godidog o’r môr dros Fae Ceredigion, rhannu syniadau dros swper neu gael hoe ac ymlacio yn llyfrgell glyd Tŷ Newydd.
Tiwtor
 
						Cathryn Summerhayes
Darllenydd Gwadd
 
					Anthony Shapland (Digidol)
Magwyd Anthony Shapland yng Nghwm Rhymni. Mae’n gyd-sylfaenydd g39, Caerdydd, lle mae’n gweithio. Roedd yn rhan o Garfan Cynrychioli Cymru 2022-23 Llenyddiaeth Cymru lle gafodd ei fentora gan Cynan Jones. Cyrhaeddodd restr fer Gwobr Rhys Davies am Foolscap sy’n rhan o’r flodeugerdd Cree, a gyhoeddwyd gan Parthian (2022). Comisiynwyd ei draethawd ffeithiol creadigol, Meantime, gan Inclusive Journalism ar gyfer blodeugerdd Seren, Cymru & I (2023) ac yn ddiweddar cyfrannodd at flodeugerdd (un)common a gyhoeddwyd gan Lucent Dreaming (2024). Cafodd ei ddewis ar gyfer rhaglen Hay Writers at Work yn 2023. Bydd ei ffuglen, Feathertongue, yn cael ei darlledu fel rhan o gyfres Short Works ar BBC Radio Four yn hydref 2024. Mae'n cael ei gynrychioli gan Cathryn Summerhayes, Curtis Brown, chyhoeddwyd ei nofel gyntaf, A Room Above a Shop, gan Granta yn 2025.